Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes. 

 

Dydd Mercher

 

 

·         Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddai'r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 4 Hydref 2017 -

·          Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Cymunedau yn Gyntaf – yr hyn a ddysgwyd (60 munud) wedi'i ohirio tan 25 Hydref

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu 'Gwireddu'r Uchelgais - Ymchwiliad i Strategaeth Gymraeg newydd Llywodraeth Cymru' (60 munud)

 

Dydd Mercher 11 Hydref 2017 -

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud) - symudwyd o 4 Hydref

 

Dydd Mercher 18 Hydref 2017 -

·         Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

3.4

Dadl Aelod Unigol: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Cofnodion:

·         Dewisodd y Pwyllgor Busnes gynnig ar gyfer dadl ar 4 Hydref:

NND6509

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)

David Melding (Canol De Cymru)

Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)

 

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod yr angen i liniaru cynhesu byd eang a chefnogi cytundeb Paris o'r 21ain gynhadledd o'r partïon ('Cytundeb Paris') drwy dorri allyriadau carbon a nodi bod hyn yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

2. Yn nodi bod yr egwyddor datblygu cynaliadwy wedi'i hymgorffori yng ngwaith y Cynulliad gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwil pellach i ddichonoldeb cynllun peilot cyfrifon carbon personol yng Nghymru.

 

Paris Accord of the 21st Conference of the Parties ('Paris Agreement')' (Saesneg yn unig)

 

'Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015'

 

'Deddf Llywodraeth Cymru 1998’ (Saesneg yn unig)

 

·         Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gynnal y Ddadl Aelod Unigol nesaf ar 18 Hydref.

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Amserlen ar gyfer ystyried Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru)

Cofnodion:

·         Cytunodd Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i gyfeirio Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar gyfer ei ystyried yng Nghyfnod 1.

 

·         Cytunodd Rheolwyr Busnes i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i ymgynghori ar amserlen ar gyfer Cyfnod 1 a Chyfnod 2.

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Effaith ymadawiad Aelod â grŵp gwleidyddol

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ddychwelyd at y papur yng nghyfarfod yr wythnos nesaf.

 

5.2

Llythyr gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

Cofnodion:

Cytunodd Rheolwyr Busnes ar gais gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i ganiatáu cyfarfod ychwanegol bob yn ail ddydd Mawrth pe bai angen.

 

6.

Diwygio trefniadau'r Cynulliad

6.1

Rhaglen ddiwygio'r Cynulliad: diwygiadau mewnol arfaethedig

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes y papur.

 

7.

Papurau i’w nodi

7.1

Llythyrau gan Gadeiryddion y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

Cofnodion:

Trafododd Rheolwyr Busnes y papur ac a allai'r Pwyllgor Busnes gefnogi barn a fynegwyd gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol mai'r Cynulliad Cenedlaethol a ddylai fod yn gyfrifol am benderfynu ar y weithdrefn i'w chymhwyso ar gyfer is-ddeddfwriaeth a wneir gan Weinidogion Cymru.  Cytunodd Rheolwyr Busnes i gadarnhau eu hymateb yn dilyn y cyfarfod.