Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

·         Byddai'r Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes. 

Dydd Mercher

·         Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddai'r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 25 Hydref 2017 -

·         Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Cymunedau yn Gyntaf – yr hyn a ddysgwyd (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Amserlen ar gyfer ystyried Bil Iechyd y Cyhoedd (Pris Isaf am Alcohol) (Cymru)

Cofnodion:

·         Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i gyfeirio Bil Iechyd y Cyhoedd (Pris Isaf am Alcohol) (Cymru) i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar gyfer ystyriaeth Cyfnod 1.

 

·         Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i ymgynghori ar amserlen ar gyfer Cyfnod 1 a Chyfnod 2.

 

5.

Y Pwyllgor Busnes

5.1

Hynt y gwaith o adolygu’r Rheolau Sefydlog

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gynnal adolygiadau o Gwestiynau Llafar y Cynulliad a chanllawiau ar gynnal trafodion y Cynulliad fel rhan o'i raglen waith weithdrefnol, yn ychwanegol at y deg adolygiad arall a oedd ar y gweill a nodwyd eisoes.

 

6.

Pwyllgorau

6.1

Effaith ymadawiad Aelod â grŵp gwleidyddol

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes y materion a godwyd yn y papur ond ni allent gytuno ar unrhyw benderfyniadau.

O ran dyrannu Cadeiryddion, dywedodd y Llywydd nad yw'r sefyllfa bresennol yn cydymffurfio â'r Rheolau Sefydlog, a bod yn rhaid ei datrys.  Gofynnodd y Llywydd i Reolwyr Busnes roi mwy o ystyriaeth i sut y gellid gwneud hyn mewn modd sy'n cydymffurfio â'r Rheolau Sefydlog, a byddai'n rhoi'r papur ar Agenda'r wythnos nesaf.

 

7.

Y Cyfarfod Llawn

7.1

Papur i'w nodi - Datganiad ar y Gyllideb Ddrafft, treialu dull newydd

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes y papur.  Nododd y Llywydd y byddai'r Cadeirydd yn sicrhau bod cymaint o Aelodau Cynulliad â phosibl yn cael eu galw, ac y byddai'r eitem yn debygol o gymryd mwy o amser na'r hyn oed wedi'i neilltuo. Cytunodd Arweinydd y Tŷ i newid yr amser a neilltuwyd i'r eitem i 90 munud.

 

8.

Deddfwriaeth

8.1

Papurau i'w nodi - llythyrau at Gadeiryddion y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethiol a'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ynghylch Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes y llythyrau.