Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

·         Byddai'r Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes. 

 

Dydd Mercher

·         Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddai'r cyfnod pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 8 Tachwedd 2017 -

·         Dadl Fer - Janet Finch-Saunders (Aberconwy) (gohiriwyd tan 6 Rhagfyr) David J Rowlands (Dwyrain De Cymru) – (30 munud)

 

Dydd Mercher 22 Tachwedd 2017 –

·         Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

4.

Rheolau Sefydlog

4.1

Cynigion i ddiwygio Rheolau Sefydlog 26, 26A a 26B - Deddf Cymru 2017 ac Asesiadau o'r Effaith ar Gyfiawnder

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes y gofyniad statudol newydd a fydd yn Adran 110A o Ddeddf Cymru o'r Prif Ddiwrnod Penodedig ar 1 Ebrill 2018, a'r angen am newidiadau i'r Rheolau Sefydlog i adlewyrchu hyn.  Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor â'r cynigion ar gyfer newidiadau i'r Rheolau Sefydlog i fodloni'r gofyniad newydd hwn, a chytunwyd i ddychwelyd at y mater ym mis Mawrth 2018.

 

5.

Y Pwyllgor Busnes

5.1

Cwestiynau Llafar y Cynulliad

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes y papur a chytunwyd i ddychwelyd ato yn eu cyfarfod ar 14 Tachwedd.

 

6.

Pwyllgorau

6.1

Cais gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i gynnal ymweliad ar gyfer Senedd@Delyn

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar gais gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i Aelodau'r Pwyllgor gael eu hesgusodi o'r Cyfarfod Llawn am 15.30 ddydd Mercher 15 Tachwedd 2017 i deithio i'r Wyddgrug er mwyn cynnal cyfarfodydd yno y diwrnod canlynol.