Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Roedd Julie James unwaith eto yn dirprwyo ar ran Jane Hutt, oherwydd ni
wnaed dim newidiadau o ran aelodaeth yr wythnos diwethaf. Byddai cynnig yn cael ei gyflwyno’n
ddiweddarach heddiw bod Julie James yn cymryd lle Jane Hutt fel Aelod o’r Pwyllgor
Busnes, a byddai hyn ar agenda’r Cyfarfod Llawn ddydd Mercher. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd
Mawrth ·
Byddai’r
Cyfarfod Llawn heddiw yn dechrau gyda theyrngedau i Carl Sargeant AC. Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes
y byddai hi’n dechrau’r sesiwn ac yna’n cyhoeddi munud o dawelwch, a gaiff ei
ddechrau a’i ddiweddu gan y gloch; bydd llun o Carl yn cael ei arddangos ar y
sgriniau drwy gydol y sesiwn. Dywedodd y Llywydd y byddai’n galw Arweinwyr y
Pleidiau, ac yna’r Aelodau a oedd â’r cysylltiad agosaf â Carl, ac eraill wedyn
os bydd amser yn caniatáu. Dywedodd y
Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes ei bod yn bwriadu atal y Cyfarfod Llawn am hyd
at 30 munud ar ôl yr eitem hon, ond y byddai’n ceisio parhau am 2pm, hyd yn oes
os bydd y teyrngedau’n parhau am amser hwy. Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr
Busnes hefyd y byddai aelodau o deulu Carl yn bresennol yn yr oriel gyhoeddus i
glywed y teyrngedau. ·
Caiff y Cyfnod
Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Dydd
Mercher ·
Rhoddodd y
Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes y byddai hi’n gwahodd enwebiadau ar gyfer
swydd Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar
ddechrau’r Cyfarfod Llawn. Pe bai cystadleuaeth, byddai’r bleidlais yn digwydd
fel pleidlais gyfrinachol rhwng 2.00 a 4.00 a byddai’r canlyniad yn cael ei
gyhoeddi cyn y Cyfnod Pleidleisio. ·
Bydd cynnig
bod Julie James yn cymryd lle Jane Hutt fel Aelod o’r Pwyllgor Busnes yn cael
ei ychwanegu at yr agenda dydd Mercher. ·
Caiff y Cyfnod
Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair
wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i
gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd
Mercher 22 Tachwedd 2017 - ·
·
·
Dadl ar adroddiad
Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Y Seilwaith Digidol yng Nghymru (60 munud) – symudwyd o 15 Tachwedd ·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud) - symudwyd o 15 Tachwedd ·
Dadl Fer – Neil Hamilton (Canolbarth
a Gorllewin Cymru) – (30 munud) - symudwyd o 15 Tachwedd Dydd
Mercher 29 Tachwedd 2017 - ·
·
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol
Sefydlog 11.21(iv) (60 munud) - symudwyd o
22 Tachwedd
Dydd
Mercher 6 Rhagfyr 2017 – ·
Cwestiynau i
Gomisiwn y Cynulliad (30 munud) – symudwyd
o 29 Tachwedd ·
Dadl ar
Gynigion Deddfwriaethol Aelodau (30 munud) ·
Dadl ar
adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Fynediad at Drafnidiaeth ar gyfer Pobl Anabl
(60 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) |
|
Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 |
|
Amserlen cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymestyn y dyddiad terfyn ar gyfer cyflwyno
adroddiad ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 gan y
pwyllgorau, o 28 Tachwedd i 1 Rhagfyr. Cadarnhaodd Gweinidog Busnes y
Llywodraeth y byddai’r ddadl yn cael ei chynnal ar 5 Rhagfyr, er mwyn caniatáu
amser i gyflwyno Cynnig y Gyllideb Flynyddol cyn y Nadolig. Cytunodd y Rheolwyr
Busnes y gallai pwyllgorau gyfarfod y tu allan i’w hamserau penodedig os bydd
angen, er mwyn hwyluso’r gwaith o graffu ar y gyllideb o fewn y dyddiad terfyn
ar gyfer cyflwyno adroddiad. |