Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Atgoffodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes fod yn rhaid cynnal pleidlais wedi’i chofnodi ar bob cynnig Cyfnod 4, yn dilyn newidiadau diweddar yn y Rheolau Sefydlog mewn perthynas ag Uwch-fwyafrifoedd. Felly ni fyddai'n gwahodd y Cynulliad i gytuno ar y cwestiwn ar ddiwedd y ddadl honno, ond yn gohirio'r bleidlais yn awtomatig tan y cyfnod pleidleisio;

 

·         Byddai’r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.

Dydd Mercher

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 17 Ionawr 2018 -

  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
  • Dadl gan Aelod o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar Glystyrau Gofal Sylfaenol (60 munud)

 

3.4

Dadleuon gan Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Cofnodion:

  • Dewisodd y Pwyllgor Busnes gynnig ar gyfer dadl ar 13 Rhagfyr:

Lee Waters (Llanelli):

Mick Antoniw (Pontypridd):

David Melding (Canol De Cymru):

Nick Ramsay (Mynwy):

Hefin David (Caerffili):

Suzy Davies (Gorllewin De Cymru):

Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):

David Rees (Aberafan):

Jenny Rathbone (Canol Caerdydd):

Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod pwysigrwydd rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus fodern i leddfu’r pwysau ar rwydwaith ffyrdd Cymru.

 

2. Yn nodi'r dystiolaeth bod angen system trafnidiaeth gyhoeddus gwbl integredig - gan gynnwys teithio llesol - i ddarparu dewis amgen ymarferol a deniadol yn hytrach na defnyddio’r car.

 

3. Yn croesawu'r ymrwymiad i’r camau cyntaf tuag at metro de Cymru.

 

4. Yn cymeradwyo'r ymrwymiad i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer metro i ogledd-ddwyrain Cymru, a dyrannu cyllid i ddatblygu achos amlinellol strategol ar gyfer metro Bae Abertawe, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganfod cyllid ar gyfer astudiaethau dichonoldeb llawn fel cam nesaf .

 

5. Yn credu bod yn rhaid i Trafnidiaeth Cymru gael y pŵer i weithredu fel corfforaeth ddatblygu - gyda'r gallu i fanteisio ar y cynnydd mewn gwerthoedd tir mewn ardaloedd sy'n agos at orsafoedd metro - er mwyn denu rhagor o arian i ehangu'r rhwydwaith metro.

 

  • Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drefnu'r Ddadl nesaf gan Aelod ar 17 Ionawr 2018, a dewisodd y cynnig canlynol:

17 Ionawr 2018

 

Mark Isherwood (Gogledd Cymru):

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):

Leanne Wood (Rhondda):

Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod bod tystiolaeth glinigol o effeithiolrwydd canabis at ddibenion meddyginiaethol.

2. Yn cydnabod, er mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU lle mae'r cyffur rheoli symptomau canabinoid Sativex ar gael ar y GIG, ei fod dim ond wedi’i drwyddedu i drin sbastigedd ac yna dim ond ar gael i grŵp bach o bobl sy'n byw gyda sglerosis ymledol (MS) a sy'n bodloni'r meini prawf.

3. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ofyn i Lywodraeth y DU ailddyrannu canabis at ddibenion meddyginiaethol; ac, wrth baratoi ar gyfer y canlyniad hwn, y dylai Llywodraeth Cymru nodi sut y gellid sicrhau bod system o fewn y GIG lle gallai canabis at ddibenion meddyginiaethol fod ar gael drwy bresgripsiwn i'r rhai a allai elwa ohono.

4. Yn nodi     

a) bod llawer o bobl sy'n byw gyda chyflyrau fel sglerosis ymledol, dystonia, epilepsi a chanser yng Nghymru yn defnyddio canabis y cawsant yn anghyfreithlon at ddibenion meddyginiaethol ond, drwy wneud hynny, yn wynebu’r risg o gael eu herlyn a hefyd wynebu perygl o gyffuriau eraill;

b) bod y grŵp seneddol hollbleidiol (APPG) ar ddiwygio polisi cyffuriau yn Nhŷ'r Cyffredin wedi galw’n bendant ar Lywodraeth y DU i gyfreithloni canabis meddygol yn seiliedig ar ganlyniadau ei ymchwiliad saith mis i'r mater a chanfyddiadau’r adolygiad annibynnol o dystiolaeth fyd-eang o dan arweiniad yr Athro Michael P Barnes;

c) bod nifer cynyddol o wledydd sy'n rheoleiddio canabis a deilliadau canabis at ddefnydd meddygol, megis Canada, yr Iseldiroedd, Israel a bod dros 20 talaith yn yr Unol Daleithiau yn rheoleiddio canabis gwair at ddefnydd meddygol;

d) bod nifer o wledydd, gan gynnwys yr Almaen a'r Swistir, yn galluogi cleifion i fewnforio canabis at ddefnydd meddygol o'r Iseldiroedd;

e) bod MS Society UK wedi newid ei safbwynt polisi i alw ar Lywodraeth y DU a chyrff iechyd i 'ddatblygu system sy'n cyfreithloni canabis at ddefnydd meddyginiaethol' yn sgil tystiolaeth gadarnhaol am ddefnyddio canabis i drin poen a sbastigedd;

f) y cafodd Bil rheol 10 munud yr Aelod Seneddol dros Gasnewydd, Paul Flynn ar gyfreithloni canabis at ddefnydd meddyginiaethol ei drosglwyddo’n ddiwrthwynebiad ar 10 Hydref i'r darlleniad nesaf ar 23 Chwefror 2018.

Adroddiad ar Ymchwiliad y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Ddiwygio Polisi Cyffuriau i ganabis meddyginiaethol

Canabis: Y Dystiolaeth ar gyfer Defnydd Meddygol - Yr Athro Michael P Barnes

MS Society UK - Cannabis ac MS

Legalisation of Cannabis (Medicinal Purposes) Bill 2017-19

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Arweiniad a Hawliadau Ariannol

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ysgrifennu at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau  ynglŷn â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol, a chynnig y llywodraeth i beidio â'i gyfeirio at bwyllgor i graffu arno, a dychwelyd at y mater yng nghyfarfod yr wythnos nesaf.

5.

Trefniadau cyflwyno

5.1

Trefniadau Cyflwyno yn ystod Toriad y Nadolig 2017

Cofnodion:

Business Managers agreed the proposed tabling arrangements during the Christmas recess period.

 

6.

Y Pwyllgor Busnes

6.1

Cwestiynau Llafar y Cynulliad

Cofnodion:

Dywedodd Julie James y bydd yn cyflwyno papur yn nodi barn ei grŵp ar y materion hyn.  Bydd y Rheolwyr Busnes yn ystyried y materion yn y papur bryd hynny.

 

Cododd Rhun ap Iorwerth y mater bod nifer o Aelodau wedi dweud eu bod yn anfodlon â'r atebion a gafwyd i gwestiynau ysgrifenedig yn ddiweddar, yn enwedig mewn perthynas â'r gwahanol ymchwiliadau a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog. Gofynnodd y Llywydd i Arweinydd y Tŷ fod yn ymwybodol o'r angen cyffredinol i'r llywodraeth ddarparu cymaint o wybodaeth â phosib i'r Aelodau, ac am yr angen penodol yn yr amgylchiadau presennol i fod yn glir ynghylch yr hyn sydd o fewn cwmpas y gwahanol ymchwiliadau a’r hyn sydd ddim.