Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth ·
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Dydd Mercher ·
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer. |
|
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i
gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher
14 Mawrth 2018 – ·
Cynnig i
ddiwygio Rheol Sefydlog 20 mewn perthynas â'r Datganiad am Gynigion y Gyllideb
Ddrafft (5 munud) ·
Cynnig i
ddiwygio Rheolau Sefydlog 26, 26A a 26B mewn perthynas â'r Gofyniad am
Asesiadau Effaith ar Gyfiawnder (adran 110A o'r Ddeddf) (5 munud) ·
Enwebiad o dan
Reol Sefydlog 10.5 ar gyfer penodi Archwilydd Cyffredinol Cymru (5 munud) ·
Dadl Fer –
Vikki Howells (Cwm Cynon) (30 munud) – wedi'i gohirio o 28 Chwefror Dydd Mercher
18 Ebrill 2018 – ·
Cwestiynau i
Gomisiwn y Cynulliad (30 munud) ·
Adroddiad gan
y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Sut y mae Llywodraeth Cymru
yn paratoi ar gyfer Brexit? (60 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) |
|
Dadl ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau: dewis cynnig i'w drafod Cofnodion: ·
Dewisodd Rheolwyr Busnes gynnig i'w drafod ar 14 Mawrth NNDM6681 Hefin David (Caerffili) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r cynnig ar gyfer Bil ar reoleiddio cwmnïau rheoli ystadau. 2. Diben y Bil hwn fyddai: a) rhoi hawliau sy'n cyfateb i hawliau lesddeiliaid i rydd-ddeiliaid
sy'n talu'r ffioedd ar gyfer gwaith cynnal a chadw mewn mannau cymunedol a
chyfleusterau ar ystâd breifat neu ddefnydd cymysg a fydd yn eu galluogi i
herio rhesymoldeb taliadau gwasanaeth; b) sicrhau, pan mae rhydd-ddeiliad yn talu tâl rhent, nad yw'r
perchennog sy'n codi rhent yn gallu cymryd meddiant neu roi prydles ar yr eiddo
os nad yw tâl rhent yn cael ei dalu am gyfnod byr o amser; ac c) rhoi hawliau i rydd-ddeiliaid yng Nghymru sy'n cyfateb i hawliau
rhydd-ddeliaid yn Lloegr o ganlyniad i newidiadau i reoleiddio cwmnïau rheoli
ystadau a gynlluniwyd gan Lywodraeth y DU. ·
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drefnu'r ddadl nesaf ar Gynnig Deddfwriaethol
gan Aelod ar ôl toriad y Pasg. |
|
Rheolau Sefydlog |
|
Cynigion i ddiwygio Rheol Sefydlog 20: Datganiadau ynghylch y Gyllideb Ddrafft Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes yn ffurfiol ar y newidiadau i Reol Sefydlog 20,
sydd wedi'u nodi yn Atodiad A i'r papur.
Mae cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog wedi'i gynnwys ar yr Agenda ar
gyfer y Cyfarfod Llawn a gynhelir ddydd Mercher 14 Mawrth. |
|
Cynigion i ddiwygio Rheolau Sefydlog 26, 26A a 26B: Asesiadau Effaith ar Gyfiawnder Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes yn ffurfiol ar y newidiadau i Reolau Sefydlog
26, 26A a 26B, sydd wedi'u nodi yn Atodiad A i'r papur. Mae cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog
wedi'i gynnwys yn yr Agenda ar gyfer y Cyfarfod Llawn a gynhelir ddydd Mercher
14 Mawrth. Bydd y cynnig hwnnw'n gwahodd y Cynulliad i gymeradwyo bod y
cynigion yn dod i rym ar 1 Ebrill 2018. |
|
Adolygiad o'r Rheolau Sefydlog Cofnodion: Trafododd y Rheolwyr Busnes y papur cwmpasu, a chytunwyd y byddent yn
ymgynghori â'u grwpiau cyn dychwelyd i'r mater hwn ymhen pythefnos. |