Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion o'r cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes.

 

Dydd Mercher

 

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer. Bydd pleidlais electronig ar y Ddadl ynghylch Polisi Urddas a Pharch y Cynulliad ddydd Mercher. Ni fydd cynnig i dderbyn y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36 ar ddiwedd yr eitem, ac yn lle hynny caiff y bleidlais ei gohirio'n awtomatig tan y cyfnod pleidleisio.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 13 Mehefin 2018 -

 

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Bywyd ar y strydoedd: atal a mynd i’r afael â chysgu ar y stryd yng Nghymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

Cytunodd Rheolwyr Busnes i gais ar y cyd gan Mick Antoniw a Sian Gwenllian i gyfnewid eu slotiau ar gyfer Dadl Fer (yn wreiddiol ar 13 ac 20 Mehefin, yn y drefn honno). Bydd Dadl Fer Sian Gwenllian bellach yn ymddangos ar y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ar gyfer 13 Mehefin, a bydd Dadl Fer Mick Antoniw yn symud i 20 Mehefin.