Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan y Dirprwy Lywydd, a oedd yn cynrychioli'r Cynulliad yng nghynhadledd BIPA yn Sligo.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Cynhelir pob pleidlais ynghylch Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) yn ystod trafodion Cyfnod 3.

 

·         Bydd egwyl o 10 munud cyn dechrau trafodion Cyfnod 3.

 

·         Ni fydd cyfnod pleidleisio heblaw yn ystod trafodion Cyfnod 3.

 

 

Dydd Mercher

 

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 4 Gorffennaf 2018 –

·         Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei ymchwiliad i Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (60 munud)

·         Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Ardaloedd Menter: Mynd Ymhell? (60 munud)

 

3.4

Dadl Aelodau: Dewis y Cynnig ar gyfer y Ddadl

Cofnodion:

·         Detholodd y Pwyllgor Busnes y cynnig a ganlyn ar gyfer dadl ar 20 Mehefin 2018

 

NNDM6733

Simon Thomas

Jenny Rathbone

Dai Lloyd

David Melding

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi:

a) mai 21 Mehefin yw diwrnod aer glân;

b) effaith niweidiol llygredd aer ar ein hiechyd - mae ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod llygredd aer yn achosi 2,000 o farwolaethau y flwyddyn, sef 6 y cant o gyfanswm y marwolaethau yng Nghymru; a

c) bod yn rhaid delio â NO2 a mater gronynnol er mwyn goresgyn llygredd aer.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â llygredd aer parhaus a chyflwyno parthau aer glân i newid ymddygiad a gwella iechyd dinasyddion.

 

Cefnogwyr:

Rhun ap Iorwerth

Siân Gwenllian

Vikki Howells

Lee Waters

 

·         Cytunodd Rheolwyr Busnes i gynnal y Ddadl Aelodau nesaf ar 4 Gorffennaf 2018, a dewisiwyd y cynnig a ganlyn:

 

NNDM6740

 

Lee Waters

Mick Antoniw

Llyr Gruffydd

Mike Hedges

Vikki Howells

Jane Hutt

Jenny Rathbone

Simon Thomas

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi adroddiad ymchwiliad ar y cyd Pwyllgor Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol a Phwyllgor Gwaith a Phensiynau Tŷ'r Cyffredin ar y gwersi i'w dysgu yn sgil methiant Carillion.

 

2. Yn cydnabod adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ar sut y mae GIG Lloegr yn rheoli'r contract gwasanaethau cymorth gofal sylfaenol gyda Capita.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi dadansoddiad o'r gwersi i Gymru o'r ddau adroddiad hyn.

 

Tŷ'r Cyffredin – Y Pwyllgor Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol / Y Pwyllgor Gwaith a Phensiynau - Carillion (Saesneg yn unig)

 

Swyddfa Archwilio Cymru – 'NHS England’s management of the primary care support services contract with Capita' (Saesneg yn unig)

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd ac ati) (Cymru)

Cofnodion:

Cadarnhaodd Rheolwyr Busnes eu penderfyniad mewn egwyddor ar 22 Mai i gyfeirio Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd ac ati) (Cymru) i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar gyfer ystyriaeth Cyfnod 1, a chytunwyd ar 26 Hydref 2018 fel terfyn amser i'r Pwyllgor adrodd ar Gyfnod 1, a 14 Rhagfyr 2018 fel y dyddiad ar gyfer cwblhau trafodion Cyfnod 2 y Pwyllgor.

 

4.2

Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru)

Cofnodion:

Cytunodd Rheolwyr Busnes i'r cais gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i ymestyn yr amser sydd ar gael ar gyfer gwaith craffu yn ystod Cyfnod 1. Y dyddiad newydd ar gyfer cyflwyno adroddiad Cyfnod 1 yw dydd Mercher 18 Gorffennaf 2018 a'r dyddiad newydd ar gyfer cwblhau trafodion Cyfnod 2 yw 26 Hydref 2018. 

 

Fodd bynnag, pwysleisiodd Arweinydd y Tŷ y dylai'r Pwyllgor sicrhau bod ei adroddiad Cyfnod 1 yn trafod agweddau technegol ar y Bil fel mater o flaenoriaeth.

 

4.3

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Meithrinfeydd Planhigion)

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Ardrethu Annomestig (Meithrinfeydd Planhigion).

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau er mwyn craffu arno. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y memorandwm erbyn 5 Gorffennaf 2018, fel y gellir cynnal dadl arno yn y Cyfarfod Llawn ar 10 Gorffennaf.

 

4.4

Bil Awtistiaeth (Cymru)

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i ymgynghori ar amserlen ar gyfer Cyfnod 1 a Chyfnod 2.

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Aelodaeth o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Cofnodion:

Cymeradwyodd y Rheolwyr Busnes y papur, gan gytuno i ddychwelyd at y mater ymhen pythefnos am benderfyniad.

 

Unrhyw fater arall

Cafodd y Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Llywydd fod llefarwyr y pleidiau yn cymryd gormod o amser wrth holi Ysgrifenyddion y Cabinet/Gweinidogion ynghylch datganiadau, a bod Ysgrifenyddion y Cabinet/Gweinidogion hefyd yn rhy hir yn ymateb.  Gofynnodd i'r Aelodau fod yn fwy cryno i'w galluogi i alw cymaint o Aelodau â phosibl.

 

Rhoddodd y Llywydd wybod i'r Rheolwyr Busnes ei bod yn bwriadu rhoi papur ar yr agenda ar gyfer cyfarfod yr wythnos nesaf yn cynnig na ddylai arweinwyr y pleidiau bellach allu cymryd rhan yn y balot ar gyfer Cwestiynau'r Prif Weinidog, ac efallai y bydd Rheolwyr Busnes yn dymuno trafod hyn â'u grwpiau ymlaen llaw.

 

Rhoddodd y Llywydd wybod i'r Rheolwyr Busnes y gallai fod angen cynnal cyfarfod Cyfarfod Llawn ychwanegol ddydd Iau neu ddydd Gwener, oherwydd yr holl symud yn ôl ac ymlaen rhwng Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi ynghylch Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) os byddai angen cynnal pleidlais ar Gynnid Cydsyniad Deddfwriaethol.