Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.

 

Dydd Mercher

 

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

Dywedodd Arweinydd y Tŷ y byddai dadl ar Raglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru yn yr hydref, yn ystod amser y llywodraeth.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 18 Gorffennaf 2018 –

 

·         Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad 02-18 i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 22.9 (15 munud) 

Dydd Mercher 26 Medi 2018 –

·         Dadl ar Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig: Cynnydd Llywodraeth Cymru o ran lliniaru effeithiau newid hinsawdd (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

4.

Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20

4.1

Amserlen Cyllideb Llywodraeth Cymru 2018-19

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes y llythyr a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid yn gofyn am ei farn ar yr amserlen ac i ddychwelyd at y mater yn eu cyfarfod cyntaf ym mis Medi.

 

5.

Trefniadau Cyflwyno

5.1

Trefniadau Cyflwyno yn ystod Toriad yr Haf 2018

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar y papur.

 

Unrhyw fater arall

Biliau Aelodau

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes nad oedd hi o blaid cynnal pleidlais arall ar Filiau Aelodau nes ei bod yn fodlon na fyddai'n ymyrryd â llwyth gwaith deddfwriaethol y Cynulliad, gan gynnwys Biliau anllywodraethol sydd eisoes ar y gweill, a materion yn codi o Brexit, ond y byddai'n parhau i'w adolygu. Gofynnodd y Rheolwyr Busnes am bapur yn nodi amserlenni, dyddiadau allweddol a chyfnodau o bwysau ar gyfer Biliau Aelodau.

 

Enwebiad ar gyfer Comisiynydd y Cynulliad

 

Dywedodd Gareth Bennett wrth y Pwyllgor Busnes yr hoffai UKIP ail-enwebu Neil Hamilton fel aelod o Gomisiwn y Cynulliad. Eglurodd y Llywydd, y byddai'n rhaid i'r Pwyllgor Busnes gyflwyno cynnig i'r Cynulliad ei ystyried er mwyn i'r enwebiad fynd rhagddo.

 

Nododd y Rheolwyr Busnes nad oedd ganddynt unrhyw reswm i feddwl y byddai eu haelodau'n pleidleisio'n wahanol pe bai cynnig arall i enwebu Neil Hamilton yn cael ei gyflwyno, ac felly cytunodd nad oedd unrhyw ddiben i'r Pwyllgor Busnes gyflwyno cynnig o'r fath.

 

Gofynnodd y Llywydd i Grŵp UKIP ystyried y drafodaeth hon ac a ellid cyflwyno enwebiad amgen a fyddai'n cael cefnogaeth y Cynulliad.  Nododd y Llywydd na fyddai gan y Pwyllgor Busnes unrhyw reswm i beidio â chyflwyno cynnig yn enwebu Aelod arall o grŵp UKIP i'r Cynulliad ei ystyried.