Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.

 

Dydd Mercher

 

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 3 Hydref 2018 -

·         Dadl ar ddeiseb P-04-682 Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc (60 munud)

·         Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

3.4

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.2 - cais i ailystyried cais am Gynnig Heb Ddyddiad Trafod

Cofnodion:

Cytunodd Rheolwyr Busnes i ddychwelyd i'r mater ar ôl toriad yr haf.

 

4.

Rheolau Sefydlog

4.1

Cynigion i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor o dan Adran 116C

Cofnodion:

Pleidleisiodd Rheolwyr Busnes ar a ddylid cynnwys Rheol Sefydlog 25A annibynnol ynteu diwygio Rheol Sefydlog 27. Penderfyniad y mwyafrif oedd diwygio Rheol Sefydlog 27.

 

Cytunodd Rheolwyr Busnes i siarad â'u grwpiau a rhoi gwybod i'r Llywydd y tu allan i'r Pwyllgor Busnes ynghylch a fydd eu haelodau yn cefnogi'r newid i Reol Sefydlog 27 pan gyflwynir cynnig yn y Cyfarfod Llawn yn nhymor yr hydref.

 

4.2

Ymgynghoriad ar Filiau Cydgrynhoi

Cofnodion:

Nododd Rheolwyr Busnes y papur a chytunodd i ymgynghori â Chomisiwn y Gyfraith ar y weithdrefn amlinellol. Cytunodd Rheolwyr Busnes hefyd i ymgynghori â'u grwpiau ar y materion a godwyd a dychwelyd i'r mater mewn cyfarfod yn y dyfodol, ynghyd ag unrhyw ymateb a geir gan Gomisiwn y Gyfraith.

 

5.

Gadael yr Undeb Ewropeaidd

5.1

Gweithdrefnau'r Pwyllgor Busnes ar gyfer craffu ar Brexit

Cofnodion:

Nododd Rheolwyr Busnes y wybodaeth ddiweddaraf am system rhybuddio cynnar ar gyfer cywiro Offerynnau Statudol ac ar Femoranda Cydsyniad Offeryn Statudol, a gwnaethant drafod y newidiadau arfaethedig i'r Rheolau Sefydlog yn ymwneud â chraffu ar Offerynnau Statudol sy'n deillio o Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018 fel y'u nodir yn y papur

.

 

5.2

Trefniadaeth busnes y Pwyllgor Busnes i hwyluso craffu ar Brexit

Cofnodion:

Nododd Rheolwyr Busnes y sefyllfa ddiweddaraf o ran newidiadau posibl i amserlen y Cynulliad a chytunwyd ar barhau i adolygu'r sefyllfa. Yn dilyn cynnig gan Arweinydd y Tŷ, cytunodd Rheolwyr Busnes mai yn nhymor yr hydref y dylai'r aelodau Llafur ychwanegol gael eu hethol i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

 

Enwebiad UKIP ar gyfer Comisiynydd y Cynulliad

Penderfynodd Rheolwyr Busnes ar ddychwelyd i'r mater yn nhymor yr hydref.