Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau gan Paul Davies. Roedd Darren Millar yn bresennol yn ei le. |
|||||||||||||
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi. |
|||||||||||||
Trefn busnes |
|||||||||||||
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth ·
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem
olaf o fusnes. Dydd Mercher ·
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl
Fer. |
|||||||||||||
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y
Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|||||||||||||
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau
o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 26 Medi 2018 – ·
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb,
Llywodraeth Leol a Chymunedau: Wrth eich gwaith: rhianta a chyflogaeth yng
Nghymru (60 munud) ·
Dadl ar Ddeiseb P-05-826 - Mae Sir Benfro yn
dweud NA!! i gau adran damweiniau ac achosion brys Llwynhelyg! (60 munud) ·
·
Dydd Mercher 10 Hydref 2018 – ·
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud) ·
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30
munud) ·
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl
Ifanc ac Addysg: Cyllid wedi'i Dargedu i Wella Canlyniadau Addysgol (60 munud) ·
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y
Gymraeg a Chyfathrebu: Meithrin Cydnerthedd: Ymchwiliad i gyllid heblaw cyllid
cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau (60 munud) |
|||||||||||||
Cais am ddadl ar Ddeiseb Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i'r cais. |
|||||||||||||
Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20 |
|||||||||||||
Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid ynghylch amserlen y Gyllideb Cofnodion: Amserlen
Cyllideb Llywodraeth Cymru 2018-19 Ar ôl
ymgynghori â'r Pwyllgor Cyllid, cytunodd Rheolwyr Busnes i gadarnhau'r amserlen
fel y'i cynigiwyd gan Arweinydd y Tŷ. Fodd bynnag, os cyhoeddir gwybodaeth
newydd ynghylch yr amserlen ar gyfer Cyllideb y DU, bydd y Rheolwyr Busnes yn
adolygu'r amserlen ar yr adeg honno. Cytunodd
Rheolwyr Busnes ar yr amserlen a ganlyn ar gyfer trafod Cyllideb Ddrafft
Llywodraeth Cymru:
|
|||||||||||||
Pwyllgorau |
|||||||||||||
Llythyr gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn gofyn am gyfarfod y tu allan i'r slot arferol Cofnodion: Cytunodd
Rheolwyr Busnes i gais gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth
Ychwanegol bod y pwyllgor yn cynnal cyfarfod y tu allan i'w slot arferol fore
Llun 15 Hydref 2018 i glywed tystiolaeth gan y Gweinidog Gwladol dros bolisi
masnach ar oblygiadau polisi masnach i Gymru. |
|||||||||||||
Llythyr gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn gofyn am gyfarfod y tu allan i'r slot arferol Cofnodion: Cytunodd
Rheolwyr Busnes i gais gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg bod y
pwyllgor yn cynnal cyfarfod y tu allan i'w slot arferol brynhawn dydd Mawrth 15
Tachwedd i gynnal cyfarfod cydamserol â'r Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor
Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. |
|||||||||||||
Effaith Aelod yn ymddiswyddo ac yn gadael grŵp gwleidyddol Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i drafod yr opsiynau â'u grwpiau a dychwelyd at y mater wythnos
nesaf. |
|||||||||||||
Unrhyw fater arall Newid
aelodaeth pwyllgorau Nododd
Rheolwyr Busnes y byddai'r newidiadau i aelodaeth Ceidwadwyr Cymru a UKIP o'r
pwyllgorau perthnasol yn cael eu hychwanegu at agenda'r Cyfarfod Llawn heddiw. Helen Mary
Jones Dywedodd y
Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai'n croesawu'r Aelod Cynulliad newydd
dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru ar ddechrau'r Cyfarfod Llawn heddiw. |