Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd
Mawrth ·
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem
olaf o fusnes. Dydd
Mercher ·
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl
Fer. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y
Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i aildrefnu'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y
Gymraeg a Chyfathrebu, 'Meithrin Cydnerthedd: Ymchwiliad i gyllid heblaw cyllid
cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau', ar gyfer y cyfnod ar ôl hanner tymor Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau
o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd
Mercher 17 Hydref 2018 –
·
Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60
munud) Dydd
Mercher 24 Hydref 2018 –
·
Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) Dydd
Mercher 7 Tachwedd 2018 – ·
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc
ac Addysg: Cyllid wedi'i Dargedu i Wella Canlyniadau Addysgol (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60
munud) ·
Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y
Deyrnas Unedig (60 munud) |
|
Deddfwriaeth |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Amaethyddiaeth Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes y dylid cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a
Materion Gwledig, a'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i'w
ystyried, a chytunodd y Rheolwyr Busnes ar ddyddiad cau o 14 Rhagfyr ar gyfer
cyflwyno adroddiadau ar y mater. |
|
Pwyllgorau |
|
Cais am ddadl ar Ddeiseb Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i drefnu'r ddadl dan sylw, ond nododd y Rheolwyr y ffaith bod
nifer o geisiadau am ddadleuon yn y Cyfarfod Llawn wedi dod i law yn ddiweddar
mewn perthynas â deisebau sydd wedi cyrraedd y trothwy o 5,000 o lofnodion ond
nad ydynt wedi bod yn destun adroddiad neu ymchwiliad gan y Pwyllgor Deisebau. Dywedodd y
Llywydd wrth y Pwyllgor fod penderfyniadau pellach ar y gweill mewn perthynas â
newidiadau i'w phenderfyniad ynghylch sut y caiff llofnodion eu casglu. |
|
Cais gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau i gynnal ymweliad oddi ar y safle Cofnodion: Trafododd
y Rheolwyr Busnes y cais, gan benderfynu y byddai'n well ganddynt i Aelodau'r
Pwyllgor ddal trên yn hwyrach oni bai bod angen i'r Pwyllgor fod yn Llundain at
ddibenion busnes ar amser penodol y noson honno. |
|
Dyrannu lleoedd ar bwyllgorau a chadeiryddion rhwng grwpiau Cofnodion: Gohiriwyd
y drafodaeth gan y Rheolwyr Busnes tan y cyfarfod wythnos nesaf. |