Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Anfonodd y
Dirprwy Lywydd a Darren Millar eu hymddiheuriadau, gan eu bod yn cynrychioli'r
Cynulliad yng Nghynhadledd BIPA yn Llundain. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Gofynnodd
y Rheolwyr Busnes i gofnodion diwygiedig gael eu dosbarthu er mwyn cytuno
arnynt. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr Wythnos Hon Cofnodion: Dydd
Mawrth ·
Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr
eitem olaf o fusnes. Dydd
Mercher ·
Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y
Ddadl Fer. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y
Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau
o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 14 Tachwedd 2018 - ·
Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y
Cynulliad ar gyfer 2019-20 (30 munud)
Dydd Mercher 21 Tachwedd 2018 - ·
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
(60 munud) ·
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau
Ymddygiad: Creu'r Diwylliant Cywir (60 munud) ·
Dadl ar Ddeiseb P-05-828 Rhagdybiaeth o Blaid
Ysgolion Gwledig (60 munud) |
|
Deddfwriaeth |
|
LCM ar y Bil Ifori Cofnodion: Nododd y
Rheolwyr Busnes fod y ddadl yn y Cyfarfod Llawn wedi'i threfnu ar gyfer 6
Tachwedd a chytunodd, y tro yma, nad oes digon o amser i bwyllgor graffu arno'n
llawn. |
|
Pwyllgorau |
|
Cais gan y Pwyllgor Cyllid i drefnu cyfarfod ychwanegol Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i'r cais. |
|
Cais gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Senedd@Aberystwyth Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i'r cais. |
|
Dyrannu llefydd ar bwyllgorau a chadeiryddion rhwng grwpiau Cofnodion: Ar ôl pleidlais, cytunodd y Rheolwyr Busnes
mewn egwyddor i gynnig ailddyrannu Cadeiryddiaeth Pwyllgor Deisebau o UKIP i'r
Ceidwadwyr Cymreig. Fodd bynnag, cytunodd y Rheolwyr Busnes i beidio â
chyflwyno cynnig am y tro - er mwyn caniatáu trafodaethau rhwng Plaid Cymru a'r
Ceidwadwyr Cymreig ynghylch y posibilrwydd o ailddyrannu cadeiryddion eraill
pwyllgorau. O ran galw ar arweinwyr a llefarwyr, dywedodd
y Llywydd unwaith eto y byddai'n cael eu harwain gan farn mwyafrif y Pwyllgor
Busnes o ran y drefn y cânt eu galw. Barn y mwyafrif ymysg y Rheolwyr Busnes
oedd na ddylai'r Pwyllgor Busnes geisio pennu sut mae'r Llywydd yn defnyddio ei
braint yn y fath fodd, ac felly ymrwymodd y Llywydd i gyflwyno papur yn adolygu
holl agweddau ar gwestiynau'r arweinwyr a llefarwyr ar ôl hanner tymor. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gymryd
enwebiadau i ethol Cadeirydd newydd y Pwyllgor Cyllid yn y Cyfarfod Llawn fory. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i newid dyraniad
amser y gwrthbleidiau o 2:2:1 i 6:5:2. |