Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sian Wilkins
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod
ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd
Mawrth ·
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y
byddai'n croesawu Delyth Jewell, Aelod newydd y Cynulliad dros Ranbarth Dwyrain
De Cymru, ar ddechrau'r Cyfarfod Llawn heddiw a'i gwahodd i ddweud ychydig
eiriau. ·
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem
olaf o fusnes. Dydd
Mercher ·
Fel yr Aelod Cyfrifol, dywedodd y Llywydd
wrth y Rheolwyr Busnes fod Bil y Senedd ac Etholiadau (Cymru) wedi cael
cydsyniad Gweinidog y Goron ddoe, a'u hatgoffa bod y datganiad rhagarweiniol
wedi'i drefnu ar gyfer yfory. ·
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl
Fer. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y
Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Amserlen
Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau
o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 6 Mawrth 2019 – ·
Cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer
gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Ombwdswmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) (5 munud) Dydd Mercher 13 Mawrth 2019 – ·
Dadl: Cyfnod 3 y
Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) (150 munud)
|
|
Deddfwriaeth |
|
Amserlen ar gyfer y Bil Deddfwriaeth (Cymru) Cofnodion: Amserlen
ar gyfer y Bil Deddfwriaeth (Cymru) Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad Cyfnod 1
tan ddydd Mawrth 26 Mawrth 2019. Mynegodd
Rhun ap Iorwerth bryder mai'r rheswm dros yr oedi oedd bod cyfrifoldebau'r
Cwnsler Cyffredinol fel Gweinidog Brexit wedi effeithio ar ei argaeledd. |
|
Amserlen y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru). Cofnodion: Cafodd yr
eitem hon ei chadeirio gan y Dirprwy Lywydd gan mai'r Llywydd yw'r Aelod sy'n
gyfrifol am y Bil. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer y Bil Senedd ac Etholiadau
(Cymru). Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i'r cais gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol am hyblygrwydd yn amseriad eu cyfarfodydd er mwyn caniatau ar
gyfer craffu ar y Bil. |
|
Unrhyw Fater Arall Cofnodion: Cwestiynau'r
Llefarwyr Gofynnodd
y Llywydd i Reolwyr Busnes sicrhau bod eu haelodau, lle y bo'n rhesymol
ymarferol, yn ei hysbysu drwy'r blwch post Ceisiadau Cyfarfod Llawn pan fyddant
yn bwriadu cyfeirio cwestiynau eu llefarwyr at Ddirprwy Weinidog, a'u bod yn
parhau i hysbysu'r Llywodraeth hefyd. Sŵn
yn y Siambr Yn dilyn
achosion o sŵn yn y Siambr yr wythnos diwethaf, atgoffodd y Llywydd y
Rheolwyr Busnes na ddylai Aelodau adael eu dyfeisiau yn y Siambr heb eu
goruchwylio. Dyraniad
Cadeiryddion Pwyllgorau rhwng grwpiau Dywedodd Darren Millar y byddai'r Ceidwadwyr
Cymreig yn awyddus i ddychwelyd at gynigion blaenorol y Pwyllgor Busnes i
ail-ddyrannu Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau o Grŵp UKIP i'r Ceidwadwyr
Cymreig, ond nad oedd y Grŵp mewn sefyllfa i wneud enwebiad ar hyn o bryd. Dywedodd y
Llywydd y bydd angen i'r pwyllgor ddychwelyd at y penderfyniadau blaenorol a
wnaeth y Pwyllgor Busnes ynglŷn â dyrannu Cadeiryddion pwyllgorau, unwaith
y bydd y Ceidwadwyr Cymreig mewn sefyllfa i enwebu. Nododd
Rhun ap Iorwerth y byddai'n fodlon cefnogi cynnig o'r fath. Dywedodd Neil
Hamilton mai ei farn oedd bod gan Grŵp UKIP, ar sail y cydbwysedd
presennol rhwng y pleidiau, yr hawl i un Cadeirydd pwyllgor. Nododd y
Llywydd nad oedd safbwyntiau'r Rheolwyr Busnes wedi newid ers y tro diwethaf y
cafodd y mater ei ystyried, ac eithrio Darren Millar, a ddywedodd y byddai ei
Grŵp, bellach, yn derbyn ail-ddyrannu Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau. Mewn
ymateb i ymholiad, cadarnhaodd y Llywydd y byddai unrhyw gynnig i ailddyrannu
Cadeiryddion Pwyllgorau yn cael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn, yn agored i'w
drafod. Cynigion
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Rhoddodd y
Trefnydd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Rheolwyr Busnes, mewn perthynas â dau Fil
Brexit. Oherwydd amserlenni Seneddol a thrafodaethau parhaus â Llywodraeth y
DU, mae gosod y Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol hyn wedi cael ei
ohirio a byddai'n arwain at gyfyngu ar yr amser i graffu mewn pwyllgor. |