Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod
ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd
Mawrth ·
Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes y
bydd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn ateb cwestiynau ar ran
y Prif Weinidog heddiw, gan y bydd yn absennol o ddechrau'r Cyfarfod Llawn ·
Mae'r Llywodraeth wedi cyflwyno cynnig i atal
y Rheolau Sefydlog i ganiatáu trafodaeth ar “Drafodaethau Ymadael â'r UE” fel
yr eitem olaf o fusnes yn y Cyfarfod Llawn heddiw. Mae cynnig sydd bron yn
union yr un fath wedi'i gyflwyno yn Senedd yr Alban a chynhelir dadl a
phleidlais 90 munud i gyd-redeg mor agos â phosibl gyda Senedd yr Alban. Caiff
y ddadl honno ei ffrydio'n fyw mewn rhai rhannau penodol o'r Senedd. Dywedodd y
Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes mai'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno gwelliannau
fyddai 1.30pm heddiw. ·
Mae'r Llywodraeth wedi gohirio'r datganiadau
canlynol tan 12 Mawrth 2019 i gynnwys y ddadl: - Datganiad
gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Prentisiaethau: Buddsoddi Mewn Sgiliau
ar gyfer y Dyfodol (45 munud) - Datganiad
gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Rheoli'r Risg o Lifogydd
ac Erydu Arfordirol (45 munud) ·
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem
olaf o fusnes. Dydd
Mercher ·
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl
Fer. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf a
ddiwygiwyd i adlewyrchu'r eitemau a aildrefnwyd o ddydd Mawrth 5 Mawrth.
Rhannwyd copïau caled o'r fersiwn wedi'i diweddaru gyda'r Rheolwyr Busnes. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Amserlen
Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau
o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 27 Mawrth 2019 – ·
Dadl Aelodau o dan
Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
|
|
Deddfwriaeth |
|
Amserlen ar gyfer ystyried y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i gyfeirio'r Bil i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc
ac Addysg i ystyried ei egwyddorion cyffredinol, ac ysgrifennu at y pwyllgor i
ymgynghori ar yr amserlen arfaethedig. |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Gofal Iechyd (Trefniadau Rhyngwladol) Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i beidio â chyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol i bwyllgor i graffu ymhellach arno, o ystyried amserlen Seneddol dynn y
Bil yn San Steffan, ond nodwyd y gallai'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
ei ystyried yn ei gyfarfod ddydd Iau. Nododd y Rheolwyr Busnes fod y ddadl yn y
Cyfarfod Llawn ar gyfer y Memorandwm wedi'i threfnu ar gyfer 12 Mawrth. |
|
Y Pwyllgor Busnes |
|
Casglu ynghyd Ganllawiau a gyhoeddir gan y Llywydd o dan Reol Sefydlog 6.17 Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i gais gan y Trefnydd i ohirio unrhyw drafodaeth tan 19 Mawrth
i ganiatáu ystyriaeth bellach gan y grŵp Llafur. |