Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod
ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd
Mawrth ·
Atgoffodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes y bydd
ffotograffydd allanol yn y Cyfarfod Llawn heddiw ar gyfer dechrau'r Cwestiynau
i'r Prif Weinidog. ·
Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr
eitem olaf o fusnes. Dydd
Mercher ·
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i'r cais gan y
Pwyllgor Safonau Ymddygiad i drefnu dadl ar ei 'Adroddiad 01-19' yn ystod
Cyfarfod Llawn yfory. Bydd cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro yn cael ei
gyflwyno yn enw'r Llywydd, fel rhagflaenydd i'r ddadl. ·
Cynhelir yr holl bleidleisiau cyn y Ddadl
Fer. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. Nododd y
Rheolwyr Busnes y canlynol, i'w gynnal ar ôl datganiad y Llywydd ddydd Mawrth 7
Mai: ·
Anerchiad gan y Prif Weinidog i nodi ugain
mlynedd ers datganoli (15 munud) |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau
o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd
Mawrth 7 Mai 2019 - ·
Anerchiad gan y Llywydd i nodi ugain mlynedd
ers datganoli (15 munud) Dydd
Mercher 15 Mai 2019 – ·
Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau
Ymddygiad: Cynnal Hyder yn y Weithdrefn Safonau (30 munud) ·
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30
munud) ·
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
(60 munud)
|
|
Cais i drefnu dadl ar NNDM7031 Cofnodion: Cytunodd
Rheolwyr Busnes i'r cais a chytunodd i ddychwelyd at y mater ar ôl toriad y
Pasg. |
|
Deddfwriaeth |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar y Bil Amaethyddiaeth Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol at yr
un pwyllgorau â'r memorandwm cyntaf - y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol, y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig,
a'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - gyda dyddiad terfynol
o 11 Mehefin ar gyfer adrodd. Nododd y
Rheolwyr Busnes yr ansicrwydd ynghylch y llinell amser Seneddol yn San Steffan. |
|
Busnes y Cynulliad |
|
Sesiwn ar y Cyd rhwng y Cynulliad a Senedd Ieuenctid Cymru Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i eitem fusnes ar y cyd rhwng Senedd Ieuenctid
Cymru a'r Cynulliad ar 26 Mehefin 2019 ac, yn unol â Rheol Sefydlog 13.3,
cytunwyd y dylai'r Llywydd wahodd rhai o Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru i
gymryd rhan yn nhrafodion y Cynulliad at y diben hwnnw. |
|
Rheolau Sefydlog |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol – Rheolau Sefydlog 21.8 - 28.11 Cofnodion: Nododd y
Rheolwyr Busnes y llythyr a gwahoddwyd swyddogion i gyflwyno papur ar effaith
Brexit ar y Rheolau Sefydlog ar ôl toriad y Pasg. |
|
Papur i'w nodi - Llythyr gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Deddfwriaeth (Bil Cymru) Cofnodion: Nododd y
Rheolwyr Busnes y papur a chytunwyd i ymgynghori â'r Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol unwaith y bydd y Pwyllgor Busnes wedi cytuno ar
Reol Sefydlog ddrafft ar gyfer Biliau Cydgrynhoi. |
|
Unrhyw Fater Arall Cwestiynau
Llafar y Cynulliad Cadarnhaodd
y Rheolwyr Busnes eu penderfyniad mewn egwyddor o gyfarfod yr wythnos diwethaf
i leihau nifer y Cwestiynau Llafar a gyflwynir o 15 i 12. Fodd bynnag,
penderfynodd y Rheolwyr Busnes barhau â'r trefniadau pleidleisio presennol lle
y caiff 20 Aelod eu dewis i gyflwyno cwestiynau yn y lle cyntaf (yna gymysgiad
i ddewis 12 uchaf) am y tro. Caiff y newid hwn ei weithredu yn union ar ôl
toriad y Pasg. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes hefyd i dreialu caniatáu i Aelodau gael eu cynnwys yn y bleidlais
unwaith yn unig ar gyfer sesiynau Cwestiynau Gweinidogol Llafar drwy gydol
tymor yr haf, gyda'r bwriad o ddiwygio Rheolau Sefydlog pe bai'n llwyddiant. Cwestiynau
Arweinwyr a Llefarwyr, llefydd gwag o ran aelodaeth pwyllgorau, a dadleuon y
gwrthbleidiau Trafododd
y Rheolwyr Busnes y materion hyn yng ngoleuni digwyddiadau diweddar a
arweiniodd at leihau maint Grŵp UKIP i 3 Aelod, a chreu nifer o lefydd
gwag ar bwyllgorau. Gofynnodd y Pwyllgor i swyddogion gyflwyno papur ar ôl
toriad y Pasg a fyddai'n llywio ei benderfyniadau. |