Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.

 

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Ni fydd Cyfnod Pleidleisio.

Dydd Mercher

 

·         Cynhelir yr holl bleidleisiau cyn y Ddadl Fer.

 

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Yn eu cyfarfod ar 2 Ebrill, cytunodd y Rheolwyr Busnes, dros dro, i drefnu eitem ar y cyd â'r Senedd Ieuenctid ar 26 Mehefin. Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor nad yw'r manylion wedi'u cadarnhau eto, felly nid yw'r eitem ar y Datganiad Busnes ar hyn o bryd, ond y bydd papur yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Busnes yr wythnos nesaf.

 

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 19 Mehefin 2019 -

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Bagloriaeth y Dyfodol: Statws cymhwyster Bagloriaeth Cymru (60 munud) wedi'i gohirio tan 3 Gorffennaf

·         Dadl ar Ddeiseb P-05-869: Datgan Argyfwng Hinsawdd a gosod targedau di-garbon ym mhob polisi (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Brexit (60 munud)

 

Dydd Mercher 26 Mehefin 2019 -

 

·         Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)

·         Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

 

4.

Busnes y Cynulliad

4.1

Llythyr gan Dai Lloyd AC

Cofnodion:

Ar gais yr Aelod, cytunodd y Rheolwyr Busnes i drefnu dadl yn y Cyfarfod Llawn ar gyfer 19 Mehefin mewn perthynas â Rheoliadau y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (y Gymraeg mewn Gwasanaethau Gofal Sylfaenol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019.

 

 

 

4.2

Effaith newidiadau diweddar i aelodaeth grwpiau ar bwyllgorau.

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i leihau maint y saith pwyllgor polisi a deddfwriaeth wyth-Aelod i chwe Aelod yr un. Gofynnwyd i swyddogion ysgrifennu at Blaid Brexit ac Aelodau Annibynnol i ofyn am eu dewisiadau ar gyfer y lleoedd sy'n weddill ar Bwyllgorau.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes hefyd y dylai dyraniad amser y Cyfarfod Llawn i grwpiau gwrthbleidiau ddilyn y gymhareb 11:10:4, er mwyn cynnal adlewyrchiad manwl o faint cymharol y grwpiau.

 

Nododd y Rheolwyr Busnes fod y Llywydd wedi cytuno i ganiatáu i Grŵp Brexit ofyn dau gwestiwn Arweinydd i'r Prif Weinidog, ac enwebu tri Gweinidog i ofyn dau gwestiwn llefarydd iddynt.

 

 

5.

Rheolau Sefydlog

5.1

Cyngor cyfreithiol ar y cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 1.3

Cofnodion:

Ystyriodd y Rheolwyr Busnes y cyngor cyfreithiol ar y cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 1.3. Gofynnwyd i'r swyddogion ddrafftio adroddiad yn nodi pam eu bod wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen â'r newid ar hyn o bryd, ond i adolygu'r Rheolau Sefydlog perthnasol erbyn y chweched Cynulliad.

 

 

6.

Y Pwyllgor Busnes

6.1

Coladu Canllawiau - Cwestiynau Llefarwyr

Cofnodion:

Ystyriodd y Rheolwyr Busnes y canllawiau cyfredol ar gwestiynau llefarwyr a chytunwyd i newid y geiriad ychydig, er mwyn caniatáu i'r cwestiynau wyro oddi wrth thema eang mewn amgylchiadau eithriadol. Felly, mae'r Rheolwyr Busnes wedi cytuno ar y canllawiau a gasglwyd yn eu cyfanrwydd ac fe'u cyhoeddir yn fuan.

 

 

7.

Papurau i'w nodi - Y Pwyllgor Busnes

7.1

Llythyr gan y Prif Weinidog at y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ynghylch slotiau gweinidogion ar ddydd Llun

7.2

Llythyr at y Prif Weinidog gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ynghylch slotiau gweinidogion ar ddydd Llun

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes y ddau lythyr, ac awgrymu y gallai Cadeirydd y Pwyllgor ddymuno codi'r mater o Weinidogion yn mynychu slotiau Pwyllgorau ar brynhawn dydd Llun yn Fforwm y Cadeiryddion.

 

 

8.

Unrhyw Fater Arall

Cofnodion:

Aelodau'r Pwyllgor Busnes

 

Er bod Plaid Brexit yn gymwys i gael ei chynrychioli ar y Pwyllgor Busnes, cafodd y cynnig i ethol Caroline Jones fel aelod ei drechu ar 22 Mai. Mae'r Llywydd wedi derbyn cais gan Blaid Brexit i ail-gyflwyno'r cynnig i ethol Caroline Jones. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ail-gyflwyno'r cynnig a'i drefnu, dros dro, ar gyfer yfory, ond gofynnwyd i swyddogion wirio gyda Phlaid Brexit a oedd yr amseru yn briodol iddyn nhw.