Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Anfonodd Darren Millar ei ymddiheuriadau ac roedd Russell George yn bresennol yn ei le.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.

 

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes fod y Llywodraeth yn tynnu'r datganiad llafar gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar Fesurau Datblygu Economaidd yn ôl.

 

Dydd Mawrth

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.

 

Dydd Mercher

 

·         Cynhelir yr holl bleidleisiau cyn y Ddadl Fer.

 

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

 

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 10 Gorffennaf 2019

 

·         Cynnig i ddirymu Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) (Diwygio) 2019 (30 munud)

 

Dydd Mercher 17 Gorffennaf 2019 -

 

·         Adroddiadau'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad (30 munud)

Dydd Mercher 18 Medi 2019 -

 

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Gwasanaethau Endosgopi yng Nghymru (30 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

 

3.4

Llythyr gan Suzy Davies AC

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes y llythyr a chytunwyd i drefnu dadl ar y cynnig i ddirymu Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) (Diwygio) 2019 ar 10 Gorffennaf.

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Llythyr gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Amserlen ar gyfer y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru)

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar amserlen y Bil a nodwyd y sylwadau yn y llythyr yn ymwneud â Biliau posibl eraill.

 

 

4.2

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus)

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol at Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar gyfer craffu gan y pwyllgor, gyda dyddiad cau ar gyfer adrodd yn ôl ar 11 Gorffennaf. Nodwyd ganddynt fod y llywodraeth yn cynnig y dylid trafod y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar 16 Gorffennaf.

 

 

5.

Busnes y Cynulliad

5.1

Dyddiadau Toriadau

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes y dyddiadau ar gyfer toriad hanner tymor y gwanwyn a thoriad y Pasg 2020, a chytunwyd ar y dyddiadau dros dro ar gyfer hanner tymor y Sulgwyn a thoriad yr haf 2020.

 

 

5.2

Trefniadau cyflwyno yn ystod toriad yr haf

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes y trefniadau ar gyfer cyflwyno busnes y cyfarfod llawn yn ystod cyfnod toriad yr haf a chytunwyd ar y trefniadau ar gyfer cyflwyno cwestiynau ysgrifenedig y Cynulliad.