Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Anfonodd y Dirprwy Lywydd ei hymddiheuriadau, oherwydd ei bod mewn cynhadledd Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad yn Uganda.

 

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.

Dydd Mercher

 

·         Cynhelir yr holl bleidleisiau cyn y Ddadl Fer.

 

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i'r Rheolwyr Busnes am y newid canlynol i Fusnes y Llywodraeth am y 3 wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 8 Hydref 2019

 

·         Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Gynllun Peilot Bwndel Babanod (30 munud) - tynnwyd yn ôl

 

Gofynnodd Rhun ap Iorwerth pryd y byddai datganiad ar anhwylderau bwyta yn cael ei drefnu. Byddai'r Trefnydd yn cadarnhau a fyddai'n ddatganiad ysgrifenedig neu lafar, ac yn nodi'r cais am ddatganiad llafar.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 2 Hydref 2019 -

 

·         Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (15 munud)

·         Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (15 munud)

 

Dydd Mercher 16 Hydref 2019 -

 

·         Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: y Cynllun Bathodyn Glas yng Nghymru: Cymhwysedd a Gweithredu (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

 

3.4

Dadl Aelod: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Cofnodion:

Dewisodd y Rheolwyr Busnes y cynnig a ganlyn ar gyfer dadl ar 2 Hydref:

 

David Rees

NNDM7143

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r rhwydwaith cyfoethog ac amrywiol o seilwaith diwydiannol hanesyddol ledled Cymru.

2. Yn nodi'r potensial o ran yr economi, adfywio a thrafnidiaeth integredig o ail-agor hen linellau rheilffordd a thwneli segur ledled Cymru. 

3. Yn cydnabod yr heriau ymarferol ac ariannol o ddod â seilwaith o'r fath yn ôl i ddefnydd.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i anelu at gael perchenogaeth ar seilwaith o'r fath a fyddai'n helpu i chwilio am gyfleoedd ariannu.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i chwarae eu rhan wrth archwilio'r cyfleoedd ymarferol ar gyfer ailagor seilwaith o'r fath ledled Cymru 

Cefnogir gan:

Vikki Howells

Leanne Wood

 

Cytunodd y Rheolwr Busnes hefyd i gynnal dadl ar y cynnig a ganlyn ar 23 Hydref:

Siân Gwenllian

NNDM7144

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu adroddiad o gynnydd am ei gwaith i fynd i'r afael â throseddau casineb LHDT yng Nghymru.

2. Yn galw am ddatganoli cyfiawnder er mwyn sicrhau dull integredig o fynd i'r afael â throseddau casineb LHDT ac amddiffyn pobl LHDT yng Nghymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu ei chynigion ar sut y gallai creu system gyfiawnder ddatganoledig i Gymru hybu diogelwch a llesiant pobl LHDT.

Cefnogir gan:

Mick Antoniw

Leanne Wood

 

 

3.5

Llythyr gan y Dirprwy Lywydd

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drefnu cyfarfod byr o Bwyllgor y Cynulliad Cyfan ar 1 Hydref 2019, yn syth ar ôl yr eitem olaf o fusnes y Cyfarfod Llawn y diwrnod hwnnw, er mwyn cytuno ar gynnig i amrywio trefn drafod trafodion Cyfnod 2 y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) ar gyfer yr wythnos ganlynol.

 

 

4.

Y Cyfarfod Llawn

4.1

Cais i amserlennu dadl ar NNDM7127.

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes y cais. Roedd Darren Millar a Caroline Jones o blaid, ond roedd Rhun ap Iorwerth a Rebecca Evans yn erbyn, ac felly penderfyniad y mwyafrif oedd peidio â threfnu'r ddadl. Dywedodd Rhun ap Iorwerth mai'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fyddai yn y sefyllfa orau i drafod y mater, gan ei fod wedi ystyried y mater cyn yr haf, ond dywedodd Darren Millar fod Cadeirydd y Pwyllgor wedi nodi na fyddai, yn dilyn y datganiad gan y Prif Weinidog, yn dychwelyd at y mater.

 

Cafwyd trafodaeth onest ynghylch cymhellion posibl gwahanol grwpiau wrth gefnogi neu wrthwynebu amserlennu'r cynnig.

 

5.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21

5.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes y llythyr a chytunwyd i gyhoeddi amserlen gyllidebol ddiwygiedig, gyda dyddiad cau dydd Mawrth 14 Ionawr 2020 ar gyfer adrodd gan bwyllgor.

 

 

 

6.

Deddfwriaeth

6.1

Amserlen ar gyfer Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru)

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i gyfeirio'r Bil i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i ystyried ei egwyddorion cyffredinol, ac ysgrifennu at y pwyllgor i ymgynghori ar yr amserlen arfaethedig.

 

 

7.

Pwyllgorau

7.1

Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyflwyno cynnig i ddyrannu cadeirydd y pwyllgor newydd i'r grŵp Llafur heddiw. Cytunwyd hefyd y dylai aelodaeth y pwyllgor fod yn un aelod o bob grŵp yn ychwanegol at y cadeirydd. Esboniodd Darren Millar na fyddai'r grŵp Ceidwadol yn enwebu aelod i gymryd y lle hwnnw.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes hefyd y byddai enwebiadau ar gyfer y cadeirydd a'r bleidlais gudd (os bydd angen) yn digwydd yfory. Dywedodd y Llywydd y byddai'n ystyried gofyn i'r rhai a gaiff eu henwebu wneud anerchiad byr yfory.