Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd
Mawrth
Dydd
Mercher
|
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Rhoddodd y
Trefnydd wybod i'r Rheolwyr Busnes am y newid canlynol i Fusnes y Llywodraeth
ar gyfer y 3 wythnos nesaf: Dydd
Mawrth 5 Tachwedd 2019 - ·
Datganiad
gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Diweddariad Blynyddol ar Ddiwygio Cyllid
Llywodraeth Leol (45 munud) ·
Cynnig
Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Dedfrydu) (15 munud) -
tynnwyd yn ôl |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau
o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd
Mercher 13 Tachwedd 2019 -
|
|
Pwyllgorau |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes ar gais y Pwyllgor i gynnal cyfarfod y tu allan i'w amser
arferol ar yr amserlen. |
|
Rheolau Sefydlog |
|
Cwestiynau Llafar y Cynulliad Cofnodion: Cadarnhaodd
y Rheolwyr Busnes eu penderfyniad i leihau nifer y Cwestiynau Llafar sy'n
ymddangos ar agenda'r Cyfarfod Llawn o 15 i 12, ac i ddiweddaru'r Canllawiau ar
Ymddygiad Priodol busnes y Cynulliad yn unol â hynny. Cytunwyd
hefyd i gynnig y newid i Reol Sefydlog 12.63 i wneud y gostyngiad yn y nifer o
weithiau y gall Aelod fynd i mewn i'r bleidlais ar gyfer Cwestiynau Llafar
Gweinidogol yn barhaol o ddwywaith i unwaith, a gosod adroddiad i'r perwyl hwn.
Mae
Rheolwyr Busnes yn fodlon i'r Aelodau barhau i allu cyflwyno dau Gwestiwn
Llafar i'r Cwnsler Cyffredinol yn ei rôl fel swyddog cyfreithiol. Cytunwyd
hefyd i leihau nifer yr Aelodau a ddewisir yn y bleidlais gychwynnol o 20 i 16,
a diweddaru'r Canllawiau ar Ymddygiad Priodol busnes y Cynulliad yn unol â
hynny. |
|
Papur i'w nodi - Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Cofnodion: Nododd y
Rheolwyr Busnes y llythyr yn nodi sylwadau'r Pwyllgor ar Reol Sefydlog Biliau
Cydgrynhoi arfaethedig. |