Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd Julian Luke, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth a'i gyflwyno i'r Aelodau

 

 

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

·         Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.

 

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes. 

 

Dydd Mercher

 

  • Bydd y bleidlais ar Gyfnod 4 y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) yn digwydd yn syth ar ôl yr eitem.

 

  • Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar bob eitem arall cyn y Ddadl Fer.

 

 

 

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

 

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes gais David Melding am ddadl ar y Cynnig i ddirymu Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Gwybodaeth Benodedig) (Cymru) 2019, a chytunwyd i drefnu'r ddadl ar gyfer 11 Rhagfyr 2019.

 

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 11 Rhagfyr 2019

·         Cynnig i ddirymu Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Gwybodaeth Benodedig) (Cymru) 2019 (15 munud)

 

Dydd Mercher 8 Ionawr 2020

 

  • Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad: Diweddariad ar waith y Pwyllgor (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Ar iechyd meddwl yn nalfa'r heddlu (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Buddion yng Nghymru: Opsiynau ar gyfer cyflawni'n well (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer Suzy Davies (Gorllewin De Cymru) (30 munud) – Gohiriwyd o 20 Tachwedd 2019

 

 

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Amserlen ar gyfer y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes ymateb y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i'r amserlen arfaethedig ar gyfer y Bil, a'r cyfaddawd arfaethedig a ddaeth i'r amlwg ar ôl y cyfarfod yr wythnos diwethaf ar gyfer ymestyn Cyfnod 1 trwy gael Cyfnod 2 byrrach.

 

Mynegodd Darren Millar, Rhun ap Iorwerth a Caroline Jones gefnogaeth i safbwynt y pwyllgor, gan bwysleisio pwysigrwydd tystiolaeth dda ar gyfer deddfwriaeth dda. Fe wnaethant nodi y dylid cael isafswm o 12 wythnos ar gyfer Cyfnod 1, yn hytrach na chyfnod safonol neu uchaf, yn enwedig ar gyfer Bil mor sylweddol.

 

Gwrthwynebodd y Trefnydd unrhyw newid i'r amserlen arfaethedig, gan bwysleisio bod yr amserlen eisoes yn dynn ar gyfer ei gweithredu a bod angen ffenestr lawn ar gyfer Cyfnod 2 er mwyn caniatáu ar gyfer cyflwyno gwelliannau, gan gynnwys amser i weithredu argymhellion disgwyliedig y pwyllgor.

 

Gan fod mwyafrif ar gyfer amserlen arfaethedig y llywodraeth o dan system bleidleisio wedi'i phwysoli'r Pwyllgor Busnes, cytunwyd ar yr amserlen a gynigiwyd gan y llywodraeth. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ysgrifennu at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i'w hysbysu o'u barn. Cytunodd y Pwyllgor i edrych ar amserlennu gwaith craffu ar ddeddfwriaeth fel rhan o'i baratoadau ar gyfer y Chweched Cynulliad.

 

 

 

5.

Busnes y Cynulliad

5.1

Trefniadau Cyflwyno

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes y trefniadau ar gyfer cyflwyno busnes y cyfarfod llawn a gwelliannau yn ystod cyfnod toriad y Nadolig a chytunwyd ar y trefniadau ar gyfer cyflwyno cwestiynau ysgrifenedig y Cynulliad.