Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Nododd nad oedd disgwyl i Janet-Finch Saunders fod yn bresennol ar gyfer dechrau’r cyfarfod.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-719 Cyllid gan Gynulliad Cymru ar gyfer Gwasanaethau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

 

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i gau’r ddeiseb ar y sail nad yw’n swyddogaeth y Pwyllgor i awgrymu wrth fudiadau’r trydydd sector eu bod yn ceisio arian gan Lywodraeth Cymru.

 

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y deisebydd yn awgrymu y gall fod am ddangos llythyr Ysgrifennydd y Cabinet i unrhyw sefydliadau y mae’n teimlo a fyddai’n elwa o gael gwybodaeth am ariannu gan Lywodraeth Cymru neu awdurdodau lleol.

 

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-05-713 Y Wildlife Warriors

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at:

 

·         Cadwch Gymru’n Daclus i ofyn am eu teimladau ynglŷn â’r ddeiseb a’r awgrymiadau a wnaed gan y deisebwyr, gan gynnwys, a allai elfennau o gynnig y Wildlife Warriors gael eu hymgorffori yn y cynllun Eco-Ysgolion; a

·         y deisebwyr, i rannu gwybodaeth a ddarparwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet am brosiect newydd, sef Caru Gwenyn.

 

3.2

P-05-715 Gwahardd cynhyrchu, gwerthu a defnyddio maglau yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor fod y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn cynnal sesiwn graffu ar ddefnyddio maglau ar 30 Tachwedd 2016.

 

Cytunodd y Pwyllgor i aros am y wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn y sesiwn graffu hon, ac i ystyried y ddeiseb mewn cyfarfod yn y dyfodol, ochr yn ochr â diweddariad â ddisgwylir gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig.

 

3.3

P-04-519 Diddymu Taliadau Comisiwn wrth werthu Cartrefi mewn Parciau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn a fyddai ef neu ei swyddogion yn fodlon cyfarfod â’r deisebwyr i drafod eu pryderon a’r camau eraill posibl y mae’r gwaith ymchwil yn ei awgrymu.

 

3.4

P-04-481 Cau’r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae ganddo ddiddordeb arbennig yn y materion a godir gan y ddeiseb gan fod ei chwaer yn hollol fyddar.

 

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i nodi ychydig o gefndir y ddeiseb ac i ofyn am farn Llywodraeth Cymru ar y cynigion ar gyfer gweithredu a nodwyd gan y deisebydd.

 

3.5

P-04-594 Apêl Cyngor Cymuned Cilmeri ynghylch y Gofeb i’r Tywysog Llywelyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf gan y deisebydd am ddatblygiad yr arwyddion.

 

3.6

P-04-475 Yn eisiau – Bysiau i Feirionnydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Gweler y cam gweithredu y cytunwyd arno o dan eitem 3.8.

 

3.7

P-04-513 Achub gwasanaeth bws X94 Wrecsam/Abermo

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Gweler y cam gweithredu y cytunwyd arno o dan eitem 3.8.

 

3.8

P-04-515 Darparu rhagor o arian ar gyfer Gwasanaethau Bysiau Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod hanes y deisebau a chytunodd i ysgrifennu at y deisebwyr i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitem 5.

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

5.

P-04-668 Cefnogi Sgrinio Blynyddol ar gyfer Canser yr Ofari (Prawf gwaed CA125) – Trafodaeth breifat o dan 17.42(vi)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gasglu hanes ystyriaeth y Pwyllgor o’r mater a chyflwyno adroddiad i’r Cynulliad cyn cau’r ddeiseb.