Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 23/10/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau. 

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P05-840 Cyllid Teg i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (CBSCNPT) a phob Awdurdod Lleol arall

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n Gynghorydd ar Gyngor Caerdydd ar hyn o bryd.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytuno ar y camau a ganlyn:

  • Rhannu manylion y ddeiseb â Chadeiryddion Pwyllgorau eraill, lle y bo'n briodol, cyn eu sesiynau craffu ar y gyllideb;
  • Ysgrifennu at bob awdurdod lleol a CLlLC i ofyn am eu barn am broses cyllideb Llywodraeth Cymru a'r heriau presennol i awdurdodau lleol;
  • Ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet i wneud y canlynol;
    • gofyn iddo roi rhagor o fanylion am ddyraniadau cyllideb llywodraeth leol drafft ar ôl i'r cynlluniau gwariant gael eu cyhoeddi ar 23 Hydref; a

o   cheisio eglurhad ar sut y bydd y £30 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer Gofal Cymdeithasol a nodir yn y gyllideb ddrafft yn cael ei ddyrannu a'i ddarparu.

 

2.2

P-05-841 Cynnwys cynnig amgen ‘Pont Benidgeidfran’ ar gyfer trydedd bont dros y Fenai yn y broses asesu ffurfiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytuno i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am ei farn am sylwadau manwl y deisebydd ac a yw'n barod i gynnwys cynnig y deisebydd yn ffurfiol ochr yn ochr â'r opsiynau gwreiddiol yn ystod dadansoddiad arall o strwythur y bont.

 

 

2.3

P-05-842 Rhowch lais i bobl ifanc yn y broses o gomisiynu gwasanaethau lleol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytuno i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i rannu sylwadau'r deisebwyr a gofyn iddo am ymateb manwl.

 

2.4

P-05-843 Mwy o hawliau trydydd parti mewn apeliadau cynllunio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytuno ar y camau a ganlyn:

  • Ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ofyn iddi ymateb i bryderon manwl y deisebwyr.  Nododd y Pwyllgor y bydd, efallai, am gynnal sesiwn dystiolaeth ar hyn a materion cynllunio eraill yn y dyfodol pan fydd wedi trafod yr ymateb a geir; ac
  • Ysgrifennu at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru er mwyn:
    • ceisio ei farn am y ddeiseb; a
    • gofyn iddo rannu pryderon sydd ganddo ynghylch y modd y mae awdurdodau cynllunio lleol yn ystyried barn trydydd partïon yn y broses gynllunio.

 

2.5

P-05-844 Adolygu Cynllun Datblygu Lleol Castell-nedd Port Talbot ar unwaith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytuno i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ofyn am ei barn am y manteision o gyflwyno dull i sicrhau y dylai ceisiadau i newid cynnwys CDLl, rhwng adolygiadau statudol, gael eu cofnodi a'u hystyried yn briodol.  Nododd y Pwyllgor y bydd, efallai, am gynnal sesiwn dystiolaeth ar hyn a materion cynllunio eraill yn y dyfodol pan fydd wedi trafod yr ymateb a geir.

 

2.6

P-05-845 Rhowch Derfyn ar Wrthdaro Buddiant yng Nghyfansoddiad Awdurdodau Lleol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytuno i ysgrifennu at y canlynol:

 

  • Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus i ofyn am ei farn am ymateb manwl y deisebydd ac, yn benodol, pa mor effeithiol y mae'r Cod presennol yn cael ei fonitro ac a fyddai'n ystyried adolygiad o'r Cod mewn perthynas â threfniadau ar gyfer swyddogion cynllunio lleol; a'r

·         Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol i ofyn am ei farn am y materion a godwyd yn y ddeiseb.

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-05-771 Ailystyried y penderfyniad i roi’r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru a’r angen i gefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan nifer o randdeiliaid a chytuno i ysgrifennu at y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol i wneud y canlynol:

 

  • ceisio diweddariad manwl ar gynnydd y trefniadau pontio hyd yn hyn, gan gynnwys canlyniad yr adolygiad o'r holl anghenion cymorth y disgwyliwyd ei gwblhau erbyn diwedd mis Medi; a
  • gofyn a fydd, fel ffordd ganol rhwng clustnodi arian a darparu cyllid drwy'r Grant Cynnal Refeniw, yn ystyried ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu adroddiad sy'n manylu ar wariant gwirioneddol ar becynnau gofal ar gyfer derbynwyr blaenorol Grant Byw'n Annibynnol Cymru, gan gynnwys nifer y derbynwyr, y swm cyfartalog a gafodd pob un a'r cyfanswm a ddyfarnwyd.

 

 

3.2

P-05-825 Diogelu ysgyfaint plant rhag llygredd niweidiol tra maent yn yr ysgol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r deisebydd a chytuno i ysgrifennu yn ôl at Weinidog yr Amgylchedd i wneud y canlynol:

 

  • gofyn am ei barn am y sylwadau manwl a wnaed gan y deisebydd, yn enwedig ar y risgiau a amlinellwyd mewn perthynas â'r darpariaethau monitro presennol; a

·         gofyn a fyddai'r awgrymiadau a wnaed yn helpu i lywio Cynllun Aer Glân i Gymru.

 

3.3

P-05-824 Ffordd Osgoi Derwen Brimmon y Drenewydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Cyngor Powys a'r deisebwyr a chytuno i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn iddo roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor ar ôl iddo ymateb i Gyngor Sir Powys.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 7.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitem 5

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

5.

Trafodaeth ar Flaenraglen Waith y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei Flaenraglen Waith a chytuno ar amserlen o sesiynau tystiolaeth yn ystod mis Tachwedd, ac i ailedrych ar y Flaenraglen Waith yn ddiweddarach yn nhymor yr hydref.