Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/11/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad gan Janet Finch-Saunders.

 

Croesawodd y Cadeirydd Leanne Wood i'r Pwyllgor a diolchodd i Rhun ap Iorwerth am ei waith yn ystod ei gyfnod fel aelod.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-839 Mabwysiadu canllawiau WHO a chyflwyno Deddf Aer Glân i Gymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at Weinidog yr Amgylchedd i ofyn iddi ymateb i'r sylwadau ychwanegol a wnaed gan y deisebwyr cyn penderfynu a ddylid trefnu i gasglu tystiolaeth.

 

2.2

P-05-846 Achub Ysbyty Tywysog Philip Llanelli

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i:

·         ofyn am eu hymateb i'r ddeiseb a'r sylwadau a gafwyd gan y deisebwyr; ac i

·         ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am gynigion yn ymwneud â newid gwasanaethau yn Ysbyty Tywysog Phillip.

 

Gofynnodd yr Aelodau hefyd am bapur yn nodi’r deisebau hynny a gafodd dros 5,000 o lofnodion ers Mawrth 2017

 

2.28

P-05-848 Rhowch gyfle i Fyfyrwyr Cymru ddewis yr opsiwn astudio gorau ar eu cyfer hwy

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn:

 

·         a allai ei swyddogion gyfarfod â'r deisebydd i drafod y mater a godwyd yn y ddeiseb yn fwy manwl; ac

·         a oedd wedi ystyried sicrhau bod arian ar gael i fyfyrwyr o Gymru sy’n dymuno astudio yn unrhyw un o’r 100 prifysgol gorau yn y byd.

 

Gofynnodd y Pwyllgor hefyd a yw'r un trefniadau'n berthnasol i fyfyrwyr yn Lloegr ac yn yr Alban.

 

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-04-667 Cylchfan ar gyfer cyffordd yr A477/A4075

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor sylwadau ychwanegol gan y deisebydd ynghyd â llythyr ategol gan gwmni cludiant lleol a chytunodd i:

·         roi rhagor o amser i Valero ac eraill anfon sylwadau, cyn anfon y rhain ymlaen at Lywodraeth Cymru a gofyn am ymateb; ac

·         ysgrifennu at Gyngor Sir Penfro i ofyn am ei farn am y mater a godwyd yn y ddeiseb.

 

3.2

P-05-731 Gwerthu tir a lonydd mynediad yn Abercwmboi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor sylwadau gan y deisebydd ac, o gofio bod y Pwyllgor eisoes wedi gofyn i'r preswylwyr gael cyfle i roi sylwadau os bydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu bwrw ymlaen i werthu'r tir dan sylw a bod y deisebydd wedi bod mewn cysylltiad â swyddogion y Llywodraeth, cytunodd mai ychydig iawn y gallai’r Pwyllgor ei wneud eto. Gan hynny, cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb.

 

 

3.3

P-05-770 Ailagor gorsaf drenau Crymlyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd. O gofio bod Llywodraeth Cymru yn datblygu proses o asesu gorsafoedd newydd posibl, a'r ffaith bod Crymlyn yn cael ei asesu fel rhan o’r gwaith hwn, cytunodd yr aelodau i gau'r ddeiseb.  Wrth wneud hynny, roeddent am ddiolch i'r deisebydd am ymgyrchu dros y mater hwn.

 

 

3.4

P-04-399 Arferion lladd anifeiliaid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol yn ymwneud â’r ddeiseb a chytunodd i baratoi adroddiad yn crynhoi'r dystiolaeth sydd wedi dod i law ac i ffurfioli ei argymhellion i Lywodraeth Cymru.

 

 

3.5

P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol yn ymwneud â’r ddeiseb a chytunodd i baratoi adroddiad yn crynhoi'r dystiolaeth a oedd wedi dod i law ac i ffurfioli ei argymhellion i Lywodraeth Cymru.

 

 

3.6

P-05-743 Rhowch derfyn ar fasnachu anifeiliaid anwes egsotig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor sylwadau gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ofyn:

·         am y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw  drafodaeth a gafwyd ynghylch y datblygiadau yn Lloegr a’r Alban ers ei gohebiaeth flaenorol ym mis Chwefror 2018;

·         am safbwynt pendant Llywodraeth Cymru ynghylch a fyddai’n fuddiol gwahardd masnachu anifeiliaid egsotig ar hyn o bryd; ac

·         am restr o'r anifeiliaid y gellid eu diffinio’n anifeiliaid egsotig ac sydd felly'n anaddas i'w cadw fel anifeiliaid anwes.

 

3.20

P-05-783 Sicrhau Cydraddoldeb Cwricwlwm i Ysgolion Cyfrwng Cymraeg e.e. Seicoleg TGAU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a chytunodd i:

 

·         ysgrifennu yn ôl i holi ai dyletswydd Llywodraeth Cymru yw sicrhau cydraddoldeb rhwng darpariaeth addysg Gymraeg a darpariaeth addysg cyfrwng Saesneg, o ystyried bod gan y ddwy iaith statws swyddogol yng Nghymru;

·         yn y cyfamser, ysgrifennu at Gomisiynydd y Gymraeg yn gofyn am ei barn am y materion a godwyd yn y ddeiseb.

 

3.8

P-05-799: Newid y Cwricwlwm Cenedlaethol a dysgu hanes Cymru, a hynny o bersbectif Cymreig, yn ein hysgolion cynradd ac uwchradd ac yn y chweched dosbarth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i:

 

·         rhoi'r dystiolaeth y mae wedi'i chasglu mewn perthynas â’r ddeiseb hyd yma i'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i gyfrannu at ei ymchwiliad i ‘Addysgu hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru’; ac i

·         gau'r ddeiseb yn awr o ystyried y sylw manwl a gaiff ei roi i’r pwnc gan un o bwyllgorau eraill y Cynulliad. 

Wrth wneud hynny, roedd yr Aelodau'n dymuno diolch i'r deisebydd am gyflwyno’r ddeiseb ac am weithio mor ddiwyd gyda'r Pwyllgor i godi ymwybyddiaeth o'r mater hwn.

 

3.9

P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae wedi gweithio fel athro cyflenwi yn y gorffennol.

 

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghyd â sylwadau ychwanegol gan y deisebydd a chytunodd i:

 

·         ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn a yw Llywodraeth Cymru yn dal i ystyried datblygu model gwahanol i gadw rhestr o athrawon cyflenwi – fel ffordd o ymdrin â’r mater yn y sector cyhoeddus - ochr yn ochr â'r gwaith o adolygu'r fframwaith gwasanaeth a reolir ar gyfer gweithwyr asiantaeth; a

·         gofyn am ragor o wybodaeth am ysgolion unigol neu awdurdodau lleol sy'n cyflogi athrawon cyflenwi heb ddefnyddio asiantaethau.

 

3.10

P-05-832 Diwygio’r cod derbyn i ysgolion ynghylch plant a anwyd yn ystod yr haf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ynghyd â sylwadau ychwanegol gan y deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu at bob awdurdod lleol i ofyn am fanylion eu polisïau mewn perthynas â cheisiadau i ohirio derbyn plant sy'n cael eu geni yn yr haf, gan gynnwys:

·         nifer y ceisiadau a gafwyd;

·         nifer y ceisiadau a gafodd eu derbyn neu eu gwrthod; ac

·         os cytunir i ohirio derbyn plentyn, pa flwyddyn ysgol y byddai’r disgybl yn ymuno â hi wedyn.

 

3.11

P-05-798 Gwasanaethau cymorth i ddynion sy'n ddioddefwyr trais yn y cartref i gael eu rhedeg a'u cyllido'n annibynnol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Bu'n ddefnyddiwr gwasanaeth ac yn wirfoddolwr yn Both Paretns Matter; ac

mae'r deisebydd yn gweithio iddo dros dro.

 

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip ynghyd â sylwadau eraill gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at Ysgrifennydd y Tŷ i ofyn:

 

·         a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried ariannu gwasanaeth cenedlaethol yn uniongyrchol i ddarparu cymorth i ddynion yn benodol;

·         am wybodaeth am y modd y bydd y mathau o wasanaethau a gaiff eu comisiynu o dan y trefniant rhanbarthol newydd yn cael eu monitro; ac

·         am wybodaeth am sut y caiff methodolegau'r gwasanaethau hynny sy'n cael cyllid cyhoeddus eu hachredu neu eu gwerthuso'n briodol.

 

3.12

P-05-836 Adroddiadau ar y Bwlch Cyflog rhwng y Rhyweddau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n adnabod y deisebydd.

 

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at Arweinydd y Tŷ i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau ers ei llythyr blaenorol ar 6 Medi, ac am ragor o wybodaeth am yr amserlenni i sicrhau bod data’n ymwneud â’r bwlch cyflog rhwng y ddau ryw gan gyrff cyhoeddus Cymru yn cael eu cyhoeddi mewn fformatau mwy agored a hygyrch.

 

3.13

P-05-819 Enwau Lleoedd Cymru - Bil Diogelu a Hyrwyddo

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ynghyd â sylwadau ychwanegol gan y deisebydd ac, oherwydd bod y Pwyllgor Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi rhoi sylw i’r mater penodol hwn yn ystod ei ymchwiliad i'r Amgylchedd Hanesyddol yn ddiweddar, ac oherwydd ei argymhelliad i barhau i adolygu’r mater, cytunodd i gau'r ddeiseb.

 

3.14

P-05-830 Ailagor Canolfan Feddygol Dewi Sant, Pentwyn yn Amser Llawn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, ynghyd â sylwadau ychwanegol gan y deisebydd ac, o ystyried bod y Bwrdd Iechyd wedi gwrthod y cais i gau'r Ganolfan a bod y deisebydd yn fodlon ar y sefyllfa, cytunodd i gau'r ddeiseb.

 

(9:45-10:30)

4.

Sesiwn dystiolaeth P-05-801 Rhaid achub y coed a'r tir yng Ngerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath cyn iddi fynd yn rhy hwyr

Lee Fisher

Sarah Jones

Nick Clifton

 

Ffrindiau Nant y Rhath

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Nick Clifton, Lee Fisher a Sarah Jones.

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitem 6

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

6.

Trafodaeth yn ystod y sesiwn dystiolaeth flaenorol P-05-801 Rhaid achub y coed a'r tir yng Ngerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath cyn iddi fynd yn rhy hwyr

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i geisio trefnu cyfarfod rhwng yr holl randdeiliaid cyn y sesiwn dystiolaeth gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ar 27 Tachwedd.