Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/12/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.  Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil McEvoy.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-849 Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy'r GIG at y profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am amser ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn o ystyried bod y ddeiseb wedi derbyn dros 5,000 o lofnodion; ac yn y cyfamser

·         ysgrifennu'n ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn:

o   am fanylion canlyniad y gweithdy a drefnwyd gan Fwrdd Wroleg Cymru ar 12 Tachwedd;

o   am asesiad o argaeledd presennol sganiau mpMRI cyn-fiopsi i gleifion yng Nghymru;

o   pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i fabwysiadu sganiau mpMRI a sicrhau eu bod ar gael ledled Cymru;

o   pa gefnogaeth y byddai Llywodraeth Cymru yn ei darparu i fyrddau iechyd pe bai NICE yn adolygu ei ganllawiau i argymell defnyddio sganiau mpMRI cyn-fiopsi; a

o   ph'un a yw'n ystyried bod ateb interim priodol a fyddai'n galluogi mynediad at sganiau mpMRI i gleifion ledled Cymru, megis drwy alluogi mynediad at gyfleusterau preifat ar gyfer sganiau.

 

2.2

P-05-851 Dileu’r cyfyngiadau amser ar y gilfan i’r dwyrain o Grucywel

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn:

 

  • a fydd yn cysylltu ymhellach â Chyngor Sir Powys i drafod y materion sy'n ymwneud â pharcio yn y gilfan yn fwy manwl; a
  • p'un a roddwyd unrhyw ystyriaeth i ymestyn y terfyn amser i 2 neu 3 awr er mwyn helpu i liniaru'r pryderon a fynegwyd.

 

 

2.3

P-05-852 Cyflwyno trwydded i reoli tir ar gyfer saethu adar hela mewn ymgais i roi terfyn ar erlid adar ysglyfaethus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros am ymateb y deisebydd ar yr ymateb a gafwyd gan Weinidog yr Amgylchedd cyn ystyried a ddylid cymryd camau pellach ar y ddeiseb.

 

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-05-771 Ailystyried y penderfyniad i roi’r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru a’r angen i gefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol ynghyd â sylwadau ychwanegol gan y deisebydd a chytunodd i:

 

  • lunio crynodeb o'r dystiolaeth a gafwyd, gyda'r bwriad o baratoi adroddiad neu lythyr manwl i'r Gweinidog yn nodi'r dystiolaeth a gafwyd a chasgliadau neu argymhellion y Pwyllgor; a
  • gofyn am gopi o ganlyniadau'r adolygiad at wraidd y mater o bob achos lle mae bwriad i leihau cymorth uniongyrchol yr awdurdod lleol i dderbynwyr Grant Byw'n Annibynnol Cymru, a manylion am unrhyw gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd o ganlyniad i hyn.

 

 

3.2

P-05-812 Dylid gweithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor grynodeb o'r ymatebion a gafwyd gan fyrddau iechyd yng Nghymru yn ymwneud â manylion am y gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd i bobl ag anhwylder personoliaeth ffiniol yn eu hardaloedd.  Cytunodd yr Aelodau i ofyn am farn y deisebydd ar y gyfres lawn o ymatebion a ddarparwyd gan y byrddau iechyd ac, yn sgil y rhain, gofyn iddo amlinellu unrhyw ffyrdd penodol, yn ei farn ef, y gellir gwella'r gwasanaethau neu'r gefnogaeth a ddarperir ar gyfer Anhwylder Personoliaeth Ffiniol.

 

3.3

P-05-817 Aelodau prosthetig arbenigol i blant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae cwmni yn ei etholaeth yn gwneud aelodau prosthetig drwy argraffu 3D.

 

Trafododd y Pwyllgor ymateb gan Bwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru (WHSSC) ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i:

 

  • ysgrifennu yn ôl at WHSSC i:

o   ofyn am ragor o fanylion am yr adolygiad o fanyleb y Gwasanaethau Adsefydlu Trychedigion a Phrosthetig, gan gynnwys y broses, yr amserlenni a rhestr o'r rhanddeiliaid y mae'n bwriadu ymgynghori â hwy; a

o   cheisio rheswm llawn y tu ôl i'r cyfyngiadau o fewn y fanyleb bresennol ar gyfer Gwasanaethau Adsefydlu Trychedigion a Phrosthetig ar gyfer aelodau isaf hamdden; ac

 

  • ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn:

o   i Lywodraeth Cymru ystyried sicrhau bod cyllid penodol ar gael i blant allu cael gafael ar aelodau prosthetig chwaraeon arbenigol; a

o   pha rwystrau sydd i ddefnyddio argraffu 3D ar gyfer cynhyrchu aelodau prosthetig.

 

 

3.4

P-05-842 Rhowch lais i bobl ifanc yn y broses o gomisiynu gwasanaethau lleol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i:

 

·         ysgrifennu at Gomisiynydd Plant Cymru i ofyn am ei barn ar:

o   arferion cyfredol mewn perthynas â sicrhau bod pobl ifanc yn gallu cymryd rhan yn y broses o gomisiynu gwasanaethau a llywio'r broses honno; a

o   p'un a yw Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn effeithiol wrth sicrhau cyfranogiad pobl ifanc wrth gomisiynu gwasanaethau lleol; a

 

 

3.5

P-05-807 Dylid adolygu a newid y canllawiau o ran gwobrau am bresenoldeb mewn ysgolion yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a chytunodd i gadw golwg ar y ddeiseb hyd nes y cyhoeddir y fframwaith diwygiedig ar bresenoldeb mewn ysgolion y flwyddyn nesaf, cyn penderfynu a ddylid cymryd unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb.

 

3.6

P-05-824 Ffordd Osgoi Derwen Brimmon y Drenewydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Sir Powys i ofyn am fanylion am unrhyw gynigion i gydnabod y Brimmon Oak fel rhan o'r ffordd osgoi newydd yr ymgynghorwyd arnynt yn lleol.

 

3.7

P-05-841 Cynnwys cynnig amgen ‘Pont Bendigeidfran’ ar gyfer trydedd bont dros y Fenai yn y broses asesu ffurfiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ddarparu manylion cyswllt y deisebydd i'r tîm sy'n ystyried dyluniadau posibl ar gyfer y bont newydd. Yn sgil yr ymrwymiad a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth y bydd cynnig Pont Bendigeidfran yn cael ei asesu fel rhan o'r gwaith dylunio ar gyfer y bont, cytunodd y Pwyllgor hefyd i gau'r ddeiseb.

 

 

3.8

P-05-778 Amddiffyn Cyllyll Môr ar Draeth Llanfairfechan

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymarferiad asesu stoc a statws parhaus y bysgodfa.  

 

3.9

P-05-825 Diogelu ysgyfaint plant rhag llygredd niweidiol tra maent yn yr ysgol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd a chytunodd i aros am ymateb gan y deisebwyr i'r wybodaeth a ddarparwyd gan y Gweinidog cyn ystyried a ddylid cymryd unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb.

 

3.10

P-05-844 Adolygu Cynllun Datblygu Lleol Castell-nedd Port Talbot ar unwaith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd. Daeth yr Aelodau i'r casgliad y dylai pob Awdurdod Cynllunio Lleol wneud penderfyniadau ynghylch a ddylid adolygu cynllun datblygu lleol ai peidio ac, ar y sail honno, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.

 

 

3.11

P-05-845 Rhowch Derfyn ar Wrthdaro Buddiant yng Nghyfansoddiad Awdurdodau Lleol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodrath Leol a Gwasaneathau Cyhoeddus, y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol a'r deisebydd, a chytunodd i:

  • ysgrifennu at yr Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus i ofyn am ei fyfyrdodau ar y materion a godwyd yn y ddeiseb, ac i ofyn am arwydd o nifer y gohebiaethau a'r cwynion a gafwyd mewn perthynas â gwrthdaro buddiant yn y broses gynllunio;
  • ysgrifennu'n ôl i'r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol i ofyn am syniad o nifer y gohebiaethau a'r cwynion y maent yn eu cael mewn perthynas â gwrthdaro buddiant yn y broses gynllunio, ac am eglurhad o p'un a yw swyddogion cynllunio yn gallu ymgymryd ag unrhyw waith preifat yn ardal eu hawdurdod lleol, er enghraifft, lle mae'r ardal honno wedi'i rhannu'n bwyllgorau ardal; a
  • gofyn am bapur briffio arall gan y Gwasanaeth Ymchwil ar y cyfyngiadau presennol ar swyddogion cynllunio i ymgymryd â gwaith preifat.