Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/03/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-864 Gwahardd y defnydd o 'Bensaernïaeth Elyniaethus'

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i:

·         ofyn am ei barn yn benodol mewn perthynas â rhinweddau ac ymarferoldeb galwad y ddeiseb am wahardd neu foratoriwm ar y defnydd o bensaernïaeth elyniaethus yng Nghymru;

·         gofyn iddi ystyried cyflwyno nodyn cyngor technegol ynghylch y defnydd o bensaernïaeth elyniaethus; a

·         gofyn iddi pa fesurau rheoli ym maes cynllunio y gellid eu gweithredu er mwyn darparu goruchwyliaeth agosach ar gread pensaernïaeth elyniaethus yn ôl-weithredol.

 

 

 

 

2.2

P-05-865 Dylid gwarantu bod dewisiadau sy’n seiliedig yn llwyr ar blanhigion ar bob bwydlen y sector cyhoeddus, i ddiogelu hawliau figaniaid ac er budd ein hiechyd, yr amgylchedd ac anifeiliaid.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog Addysg i ofyn pa asesiad neu waith ymchwil sydd wedi ei wneud mewn perthynas â digonolrwydd yr opsiynau sydd ar gael ar fwydlenni ysbytai ac ysgolion yng Nghymru ar hyn o bryd i bobl sy'n dilyn deiet fegan.

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-04-648 Ceisiadau Cynllunio Nwy ac Olew Anghonfensiynol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgil y cadarnhad a gafwyd bod polisi Llywodraeth Cymru wedi ei ddiwygio gan olygu y bydd Gweinidogion yn cael eu hysbysu ynghylch, ac yn ystyried ailystyried, bob cais cynllunio yn y dyfodol ar gyfer datblygiadau olew a nwy anghonfensiynol, lle nad yw awdurdodau cynllunio lleol wedi penderfynu eu gwrthod.

 

3.2

P-05-788 Cael gwared ar agwedd orfodol Bagloriaeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i:

·         aros tan cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch statws Bagloriaeth Cymru a'i anfon at y deisebydd iddo wneud sylwadau; ac

·         ysgrifennu eto at CBAC i ofyn am ymateb ar y mater hwn ac i fynegi siom na chafwyd ymateb i'r ohebiaeth flaenorol. 

 

3.3

P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunwyd i wahodd y Gweinidog Addysg i ddod i un o gyfarfodydd y Pwyllgor i roi rhagor o dystiolaeth ynghylch y mater.

 

 

3.4

P-05-828 Rhagdybiaeth o blaid ysgolion gwledig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i:

·         ysgrifennu at y deisebwyr ac eraill i roi gwybod iddynt mai'r cam gweithredu priodol yw iddynt godi eu pryderon yn uniongyrchol gyda'r Gweinidog Addysg a gofyn iddi ystyried a oes cyfiawnhad iddi ymyrryd yn yr achos hwn, fel yr amlinellir yn ei llythyr; a 

·         ysgrifennu at y Gweinidog Addysg yn gofyn iddi am ymateb i'r cynnig y dylid cael ffordd uniongyrchol i lywodraethwyr ysgolion apelio penderfyniadau a wneir o dan y Cod Trefniadaeth Ysgolion, a gofyn iddi ddarparu manylion ynghylch unrhyw ystyriaeth a roddwyd i'r broses apeliadau yn ystod yr adolygiad o'r Cod.

 

3.5

P-05-812 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog ymddiriedolaethau i weithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol neu gyfiawnhau pam nad ydynt yn gwneud hynny

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan y deisebydd a chytunwyd  ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch datblygu gwasanaethau therapi seicolegol, gan gynnwys y cyllid a roddwyd i fyrddau iechyd, ers ei lythyr blaenorol ym mis Mehefin 2018.

 

3.6

P-05-854 Gwneud hyfforddiant Anabledd Dysgu yn orfodol ar gyfer staff ysbytai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunwyd i aros tan y cyhoeddiad a ddisgwylir ynghylch cyllid i gefnogi'r Rhaglen Gwella Bywydau a chanlyniad yr ymgynghoriad a gynhelir gan yr Adran Iechyd yn Lloegr, cyn ystyried pa gamau pellach i'w cymryd mewn perthynas â'r ddeiseb.

 

3.7

P-04-667 Cylchfan ar gyfer Cyffordd yr A477/A4075

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am ymateb i'r wybodaeth a'r awgrymiadau a gynigiwyd gan Gyngor Sir Benfro, i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch asesiadau pellach a wnaed mewn perthynas â dyluniad y ffordd a diogelwch y cyffordd, a gofyn am gopi o'r adolygiad 36 mis RSA.

 

3.8

P-05-748 Bysiau Ysgol i Blant Ysgol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gomisiynydd Plant Cymru i ofyn am ei barn ynghylch y materion a godwyd yn y ddeiseb a gofyn am unrhyw sylwadau sydd ganddi ynghylch priodoldeb a diogelwch plant sy'n defnyddio bysiau cyhoeddus i deithio i ac o'r ysgol.

 

3.9

P-05-833 Gwella gwasanaethau rheilffordd i Gas-gwent

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ac, yn sgil gwybodaeth a gafwyd gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, cytunwyd i gau'r ddeiseb ar y sail ei bod yn ymddangos mai ychydig iawn yn fwy y gellid ei gyflawni ar yr adeg yma.

 

3.10

P-05-818 Cyflwyno Cofrestr o Lobïwyr yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Safonau i ofyn:

  • am amlinelliad o unrhyw ystyriaeth y mae'r Pwyllgor wedi'i rhoi'n flaenorol i'r manteision o gyflwyno cofrestr statudol o lobïwyr yng Nghymru;
  • a wnaeth y Pwyllgor edrych ar fodelau ar gyfer cofrestru lobïwyr a ddefnyddir mewn mannau eraill, gan gynnwys Senedd Ewrop;
  • a roddwyd ystyriaeth i'r posibilrwydd o godi tâl ar unigolion neu sefydliadau i gofrestru er mwyn rheoli'r gost o gyflwyno'r mesur yma; ac
  • am wybodaeth ynghylch unrhyw waith pellach y mae'n bwriadu ei wneud ar y mater hwn.

 

 

3.11

P-05-813 Gwahardd y DEFNYDD O FAGLAU LARSEN (maglau dal sawl math o frân)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a Chyfoeth Naturiol Cymru er mwyn tynnu sylw at y wybodaeth a dderbyniwyd gan ystod o randdeiliaid, a gofyn am ymatebion i'r pryderon a godwyd ynghylch defnyddio a rheoleiddio baglau Larsen yn ogystal â gwybodaeth bellach am unrhyw gamau sy'n cael eu cymryd neu eu hystyried yn y maes hon.

 

4.

Sesiwn dystiolaeth – P-05-771 Ailystyried y penderfyniad i roi’r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru a’r angen i gefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol

Julie Morgan AC, Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd

Gareth Griffiths, Pennaeth Talu am Ofal, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Gareth Griffiths.

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

Eitem 6

6.

Trafod Sesiynau Tystiolaeth Blaenorol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddarparwyd gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a chytunodd i ofyn mewn chwe mis am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y broses bontio a chanlyniadau'r adolygiadau a gynhaliwyd gan weithwyr cymdeithasol annibynnol.