Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/05/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.  Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-876 Amddiffyn rhywogaethau rhestredig Coch ac Amber yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Cyfoeth Naturiol Cymru i ofyn am farn y sefydliad ynghylch y materion a godwyd yn y ddeiseb.

 

2.2

P-05-877 Cynllun gwisgoedd ysgol ail-law i blant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytuno i ysgrifennu at y canlynol:

·         Plant yng Nghymru i'w hysbysu ynghylch cynnig am gynllun gwisgoedd ysgol ail-law yng nghyd-destun y canllawiau y maent yn eu llunio mewn perthynas â chost diwrnod ysgol, ac i ofyn am eu barn ynghylch pa mor y graddau y gellid gweithredu’r cynllun; a

·         Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ofyn beth yw'r sefyllfa ynglŷn â pholisïau gwisg ysgol a ddefnyddir ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru.

 

2.3

P-05-878 Rhaid cau’r drws yn glep ar wastraffu ynni

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytuno i ysgrifennu at y canlynol:

·         Consortiwm Manwerthu Cymru i ofyn am eu barn mewn perthynas â'r materion a godwyd gan y ddeiseb, a gofyn am wybodaeth am y camau perthnasol sy'n cael eu cymryd gan ei aelodau; a

·         y prif archfarchnadoedd i ofyn am eu barn ar y ddeiseb. 

 

2.4

P-05-879 Dylid ychwanegu addysg iechyd meddwl at y cwricwlwm addysgu gorfodol ar gyfer pob ysgol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytuno i ysgrifennu at y canlynol:

·         y Gweinidog Addysg i drafod y pwyntiau ychwanegol a godwyd gan y deisebydd a gofyn:

o   am wybodaeth bellach o ran sut y dylai disgyblion allu cael mynediad at wasanaethau cwnsela mewn ysgolion;

o   sut mae iechyd meddwl a lles disgyblion yn cael ei gynnwys mewn hyfforddiant athrawon a datblygiad proffesiynol parhaus; ac

o   i gael rhagor o wybodaeth am sut y caiff addysg iechyd meddwl ei chynnwys yn y cwricwlwm ABCh cyfredol;

·         y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i'w hysbysu ynghylch y ddeiseb hon yng nghyd-destun eu gwaith craffu parhaus ar les emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc a'r cwricwlwm newydd;

·         Prifysgolion Cymru sy'n darparu hyfforddiant athrawon i ofyn beth sydd wedi'i gynnwys yn eu rhaglenni hyfforddi sy'n ymwneud ag iechyd meddwl plant a phobl ifanc.  

 

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y deisebwyr a chytunodd i rannu tystiolaeth y deisebydd gyda'r Gweinidog Addysg a gofyn iddi weithio gyda'r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar (NDCS) Cymru i weithredu’n unol â'u hargymhellion. Wedi hynny, cytunodd y pwyllgor i gau'r ddeiseb.

 

3.2

P-05-832 Diwygio’r Cod Derbyn i Ysgolion ynghylch Plant a Anwyd yn ystod yr Haf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg er mwyn:

·         gofyn am fanylion unrhyw ganfyddiadau o'i gwaith ymgysylltu gydag awdurdodau lleol ar y mater hwn;

·         gofyn am unrhyw gasgliadau sy'n dod i'r amlwg yn sgil yr adolygiad o'r Cod Derbyn i Ysgolion mewn perthynas â cheisiadau i ohirio mynediad i blant a aned yn yr haf; a

·         gofyn pryd y bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cod Derbyn i Ysgolion yn dechrau.

 

3.3

P-04-667 Cylchfan ar gyfer Cyffordd yr A477/A4075

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am gyhoeddiad yr Archwiliad Diogelwch Ffyrdd 36 mis cyn penderfynu a ddylid cymryd camau gweithredu pellach.

 

3.4

P-05-838 Cefnogwch y Llwybr Du o ran Ffordd Liniaru’r M4

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb, ynghyd â P-05-850 Amddiffyn Gwastatir Gwent ac atal traffordd arfaethedig yr M4, a chytunodd i drafod y ddwy ddeiseb eto ar 11 Mehefin o gofio cynnig y Prif Weinidog y byddai'n gallu cyhoeddi penderfyniad yn ystod wythnos gyntaf mis Mehefin.  

 

3.5

P-05-850 Amddiffyn Gwastatir Gwent ac atal traffordd arfaethedig yr M4

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb, ynghyd â P-05-838 Cefnogwch y Llwybr Du o ran Ffordd Liniaru’r M4, a chytunodd i drafod y ddwy ddeiseb eto ar 11 Mehefin o gofio cynnig y Prif Weinidog y byddai'n gallu cyhoeddi penderfyniad yn ystod wythnos gyntaf mis Mehefin.  

 

 

3.6

P-05-851 Dileu’r cyfyngiadau amser ar y gilfan i’r dwyrain o Grucywel

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Sir Powys i ofyn am eu barn ar y ddeiseb a’r ddarpariaeth parcio yng Nghrucywel a'r cyffiniau.

 

3.7

P-05-853 Na i gau Cyffordd 41 o gwbl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ar y ddeiseb a chytunodd i gadw golwg ar y mater a gofyn am ddiweddariad pellach ymhen chwe mis, neu'n gynt os bydd y sefyllfa'n newid.

 

3.8

P-05-786 Arbedwch ein cefn gwlad – dylid adolygu TAN 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ar y ddeiseb a chytunodd i wahodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i fynychu sesiwn dystiolaeth gyda'r Pwyllgor yn y dyfodol i drafod hyn a sawl deiseb arall yn ymwneud â pholisi cynllunio.

 

3.9

P-05-751 Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n gyn-ddefnyddiwr gwasanaeth Families Need Fathers/Both Parents Matter Cymru ac mae wedi cyflogi'r prif ddeisebydd o'r blaen.

 

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ar y ddeiseb a chytunodd i dderbyn cynnig Cafcass Cymru o ddarparu copi o'i ganllawiau ymarfer yn dilyn ei lansio.

 

3.10

P-05-812 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog ymddiriedolaethau i weithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol neu gyfiawnhau pam nad ydynt yn gwneud hynny

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn am ei farn ynghylch y ddeiseb.

  • sut y caiff yr arian ychwanegol ar gyfer therapïau seicolegol ei wario;
  • cynnwys cynllun gweithredu'r Pwyllgor Cenedlaethol ar Reoli Therapïau Seicolegol;
  • nifer y therapyddion sydd ar gael ar hyn o bryd, y gost fesul person o ddarparu triniaeth - gan gynnwys ar gyfer lleoliadau y tu allan i'r ardal - ac unrhyw ddadansoddiad sy'n ymwneud ag effeithiolrwydd triniaeth ar gyfer anhwylder personoliaeth ffiniol.

 

 

3.11

P-05-817 Aelodau prosthetig arbenigol i blant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn:

·         am ddiweddariad am ei fwriadau mewn perthynas ag argaeledd prostheteg chwaraeon yn y dyfodol,

·         am ei amserlenni disgwyliedig ar gyfer ystyried achos busnes llawn ar y mater hwn, ac i ofyn am gopi o'r achos busnes ar ôl iddo gael ei gwblhau; ac

·         a yw Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o ymchwil i ddatblygiad neu addasrwydd argraffu 3D at y diben hwn, neu a yw wedi cefnogi ymchwil o’r fath.

 

3.12

P-05-849 Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy'r GIG at y profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn:

 

·         gofyn am ddiweddariad ar gamau gweithredu Llywodraeth Cymru a Bwrdd Wroleg Cymru i sicrhau bod Canllaw terfynol NICE ar ganser y brostad yn cael ei weithredu ledled Cymru; a

·         gofyn i ystyriaeth gael ei rhoi i'r ateb dros dro a gynigiwyd gan y deisebydd i alluogi cleifion i gael mynediad at gyfleusterau sganio preifat tra bod capasiti ac offer yn cael eu cronni yn y GIG.

 

 

3.13

P-05-866 Ymgyrch Ymwybyddiaeth Gyhoeddus Sepsis - Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i rannu manylion am y ddeiseb a'r dystiolaeth a gafwyd hyd yma, a gofyn a oes gan y Pwyllgor unrhyw gynlluniau i edrych ar y pwnc hwn.

 

3.14

P-05-743 Rhowch derfyn ar fasnachu anifeiliaid anwes egsotig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Janet Finch-Saunders y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae hi wedi bod yn rhan o'r diwydiant anifeiliaid anwes o'r blaen.

 

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ofyn pryd y bydd y broses o ddiweddaru’r codau ymarfer presennol ar gyfer lles anifeiliaid, a datblygu codau ymarfer newydd yn ôl y gofyn, wedi'i chwblhau.

 

 

 

3.15

P-05-822: Gwahardd gwellt plastig (wrth yfed llaeth) yn ein hysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

·         ysgrifennu at WRAP Cymru i ofyn am ei farn ar y ddeiseb; ac

·         aros hyd nes cyhoeddi'r adroddiad gwerthuso ar yr ymarfer peilot diweddar yn Sir Benfro.

 

3.16

P-05-868 Diogelwch Dŵr/Atal Boddi ac effeithiau Sioc Dŵr Oer i'w haddysgu ym mhob Ysgol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at y Gymdeithas Frenhinol er Achub Bywydau i ofyn am ragor o wybodaeth ynghylch y gwaith sy'n cael ei wneud i ddatblygu Cynllun Diogelwch Dŵr i Gymru a sut y gallai gefnogi datblygiad cyfleoedd nofio diogel yn yr awyr agored.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

Eitem 5

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

5.

Cymhwystra ar gyfer llofnodi deisebau

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor bapur am gymhwystra ar gyfer llofnodi deisebau i'r Cynulliad. Mewn ymateb i rai pryderon a godwyd gyda'r Pwyllgor, trafododd yr Aelodau p’un a ddylai pobl sy'n byw y tu allan i Gymru barhau i allu llofnodi deisebau.

 

Penderfynodd y Pwyllgor beidio gosod unrhyw gyfyngiadau ar allu pobl i lofnodi deisebau, yng nghyd-destun newidiadau diweddar eraill a wnaed i'r rheolau sy'n ymwneud â chyflwyno deisebau a chasglu llofnodion.

 

Mewn perthynas â deisebau gyda dros 5000 o lofnodion, cytunodd yr Aelodau i ystyried nifer y llofnodion a gasglwyd yng Nghymru wrth benderfynu p’un a ddylid gofyn am amser ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn yn y dyfodol.