Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/09/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Michelle Brown.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-893 Achub Ein Parciau yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         ysgrifennu at CLlLC i ofyn am eu barn ar y materion a godwyd gan y ddeiseb ac i ofyn am unrhyw wybodaeth y gallant ei darparu ar nifer y caeau chwarae a’r mannau agored sydd wedi’u colli, neu eu datblygu, o amgylch Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf; ac

·         aros am farn y deisebydd ar yr ymatebion a gafwyd cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach ar y ddeiseb.

 

2.2

P-05-894 Ardrethi busnes tecach i fusnesau Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am sylwadau gan y deisebydd ar yr ymateb a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru, cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach ynglŷn â'r ddeiseb.

 

2.3

P-05-896 Atal Ward 35 yn Ysbyty’r Tywysog Siarl rhag Cau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg i ofyn am ei farn ar y materion a godwyd gan y ddeiseb, a gwybodaeth am y newidiadau sy’n effeithio ar Ward 35 a sut mae’n helpu pobl y mae’r rhain yn effeithio arnynt; ac

·         aros am farn y deisebydd ar yr ymatebion a gafwyd cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach ar y ddeiseb.

 

2.4

P-05-897 Rhwystrwch Ddatblygwyr rhag gosod rhwydi yn y gwrychoedd a’r coed

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am sylwadau gan y deisebydd ar yr ymateb a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru, cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach ynglŷn â'r ddeiseb.

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-05-771 Ailystyried y penderfyniad i roi’r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru a’r angen i gefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ymhellach a chytunodd i:

·         nodi’r cynnydd a wnaed ac aros am ddiweddariad pellach gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol unwaith y bydd yr asesiadau annibynnol o anghenion gofal pobl wedi'u cwblhau; a

·         llongyfarch y deisebydd ar y cynnydd a wnaed gan ei ymgyrch hyd yma.

 

3.2

PP-05-812 Dylid gweithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i aros am ymateb Llywodraeth Cymru i'w hadroddiad ar ddeiseb P-05-736 Darparu Gwasanaethau Iechyd Meddwl Mwy Hygyrch, yn enwedig yr argymhellion ynghylch mynediad at therapïau seicolegol, cyn ystyried a yw'n gallu cymryd camau pellach ar y ddeiseb.

 

3.3

P-05-817 Aelodau prosthetig arbenigol i blant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am ddiweddariad ar:

·         y cynnydd a wnaed mewn perthynas ag achos busnes dros ddatblygu gwasanaeth i ddarparu prostheses chwaraeon arbenigol i blant; ac

·         yr ystyriaeth a roddir i ddarparu copi o'r achos busnes i'r Pwyllgor

 

3.4

P-05-826 Mae sir Benfro yn dweud NA!! i gau adran damweiniau ac achosion brys Llwynhelyg!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a wnaed ers yr ohebiaeth flaenorol ym mis Ionawr 2019, yn enwedig o ran ymgysylltu ac ymgynghori â phobl leol, a gofyn iddynt ymrwymo i ddarparu diweddariad chwarterol i’r Pwyllgor ynghylch y mater hwn.

 

3.5

P-05-842 Rhowch lais i bobl ifanc yn y broses o gomisiynu gwasanaethau lleol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn:

·         am ddiweddariad pellach o'r gwaith sydd ar y gweill a arweinir gan y Gweithgor Cryfhau a Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru; a

·         mynegi cefnogaeth y Pwyllgor dros alwad y deisebwyr am ofyniad statudol i gynnwys plant a phobl ifanc wrth gomisiynu gwasanaethau plant a phobl ifanc.

 

3.6

P-05-849 Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy'r GIG at y profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ymhellach a chytunodd i:

  • ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i:

·         ofyn am ddiweddariad ar weithredu Canllaw NICE newydd ar gyfer canser y prostad;

·         amlinellu’r pryderon a nodwyd gan Prostate Cancer UK a’r deisebydd, a gofyn am ystyriaeth bellach ar sut y gellir rhoi mynediad i’r sganiau hyn i ddynion sy’n byw mewn ardaloedd o Gymru lle nad oes sgan mpMRI ar gael eto fel mesur interim, er enghraifft trwy fyrddau iechyd eraill neu'r sector preifat; ac

·         ysgrifennu at elusennau canser eraill yng Nghymru i ofyn am eu barn ar y materion a nodwyd, gan gynnwys y cynlluniau ar gyfer gweithredu sganio mpMRI.

 

 

3.7

P-05-859 Dylid Darparu Tai Plant yng Nghymru i Blant sy'n Dioddef Camdriniaeth Rywiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i:

  • ofyn am ddiweddariad ar gyflwyno'r model newydd ar gyfer Canolfannau Cyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARCs), gan gynnwys lleoliadau arfaethedig y ddwy ganolfan pediatreg a lleol;
  • gofyn am wybodaeth am amseroedd aros ar gyfer cael mynediad i SARCs presennol; a
  • gofyn a oes gwasanaethau cymorth ar waith eisoes i blant gael mynediad heb fod angen atgyfeiriad. 

 

 

3.8

P-05-809 Is-ddeddfau Pysgota arfaethedig Newydd a methiannau Cyfoeth Naturiol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ddiweddariad a gohebiaeth bellach, a chytunodd i gau'r ddeiseb ar y sail nad oes llawer o gamau pellach y gallai'r Pwyllgor eu cymryd yn dilyn yr ymchwiliad manwl i'r Is-ddeddfau arfaethedig a gynhaliwyd gan yr Arolygiaeth Gynllunio, a phenderfyniad y Gweinidog i gadarnhau'r Is-ddeddfau.

 

3.9

P-05-810 Rhowch Gyfle i Glybiau Pysgota Cymru ac Eog a Brithyll y Môr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ddiweddariad a gohebiaeth bellach, a chytunodd i gau'r ddeiseb ar y sail nad oes llawer o gamau pellach y gallai'r Pwyllgor eu cymryd yn dilyn yr ymchwiliad manwl i'r Is-ddeddfau arfaethedig a gynhaliwyd gan yr Arolygiaeth Gynllunio, a phenderfyniad y Gweinidog i gadarnhau'r Is-ddeddfau.

 

3.10

P-05-813 Gwahardd y DEFNYDD O FAGLAU LARSEN (maglau dal sawl math o frân)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Cyfoeth Naturiol Cymru i dderbyn eu cynnig i ymchwilio i’r arferion o ddefnyddio a rheoleiddio Maglau Larsen, a gofyn iddynt ddarparu amserlen ddangosol ar gyfer pryd y maent yn rhagweld y byddant yn cyflawni'r gwaith hwn.

 

3.11

P-05-856 Rhaid gwahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob gwerthwr trydydd parti masnachol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ddiweddariad a gohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i groesawu'r cyhoeddiad ei bod yn bwriadu cyflwyno gwaharddiad ar werthu cŵn bach a chathod bach trydydd parti, a gofyn am fanylion y broses ac amserlenni arfaethedig.

 

3.12

P-05-874 Gwahardd gwerthu nwyddau sydd wedi eu pecynnu mewn plastig untro ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yn sgil y camau a ddisgrifiwyd gan Trafnidiaeth Cymru a'u bwriad i ddileu'r defnydd o blastigau un defnydd yn llwyr ar ei wasanaethau, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am gyflwyno’r ddeiseb.

 

3.13

P-05-858 Taenellwyr Dŵr i arbed bywydau nid i wneud arian!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yn sgil yr adolygiad o ofynion diogelwch tân, gan gynnwys y rhai o fewn rheoliadau adeiladu, sy’n cael ei gynnal ar hyn o bryd, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am dynnu sylw at y mater hwn.

 

3.14

P-05-867 Gwneud Murlun ‘Cofiwch Dryweryn' yn dirnod Cymreig dynodedig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ymhellach a chytunodd i:

·         ysgrifennu at Tro’r Trai, yr elusen sydd bellach yn ymgymryd â'r rôl o amddiffyn y murlun, i ofyn iddynt amlinellu sut y mae'n bwriadu cyflawni'r rôl hon yn y dyfodol; a

·         diolch i Dilys Davies am ei rôl yn prynu'r murlun er mwyn hwyluso i’w amddiffyn ar gyfer y dyfodol.

 

 

3.15

P-05-884 Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 i gynnwys sefydliadau’r DU sydd â gweithrediadau dramor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu at Sefydliad Prifysgol Llundain ym Mharis i ofyn:

·         am eglurhad ynghylch ei statws rheoleiddio;

·         am ei safbwynt ar y materion a nodwyd yn y ddeiseb; ac

·         am fanylion unrhyw drafodaethau a gynhaliwyd gyda Llywodraeth Cymru ar y mater hwn.

 

3.16

P-05-888 Gwneud TGAU Iaith Gymraeg yn orfodol ym mhob ysgol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Gyngor Ysgolion Annibynnol Cymru (WISC) i ofyn pa ganran o ysgolion annibynnol sy’n cynnig cyfle i'w disgyblion ddysgu TGAU Cymraeg.