Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Roedd Janet Finch-Saunders wedi anfon ei hymddiheuriadau. Roedd Simon Thomas yn bresennol yn lle Neil McEvoy.

 

2.

Deisebau newydd

2.30

P-05-742 Peidiwch â gadael i Forsythia gau!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yn sgil datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn cadarnhau y bydd Cymunedau yn Gyntaf yn cael ei ddileu'n raddol, cytunwyd y dylid ysgrifennu ato i ofyn:

 

·         sut y mae'n bwriadu cefnogi cynlluniau a phrosiectau llwyddiannus Cymunedau yn Gyntaf yn y dyfodol; ac

·         a fydd parhau i fuddsoddi yn y rhaglenni Dechrau'n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf yn  cefnogi cynaliadwyedd canolfannau ieuenctid fel Forsythia.

 

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ystyried cynnwys datganiad sydd i ddod gan y Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar ddyfodol darpariaeth gwaith ieuenctid.

 

 

2.2

P-05-743 Rhowch Derfyn ar Fasnachu Anifeiliaid Anwes Egsotig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i godi cwestiynau penodol a ofynnwyd gan y deisebydd, a gofyn bod y Pwyllgor yn cael gwybod am ganlyniad y drafodaeth yn y Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru.

 

2.3

P-05-744 Atal Gasympio; Dilyn y Broses Brynu yn yr Alban

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

·         cau'r ddeiseb o ganlyniad i'r eglurder ychwanegol am gadw pwerau'n ôl yn y maes hwn i Senedd y DU a ddarparwyd gan Ddeddf Cymru 2017; ac

·         ysgrifennu at y deisebydd i awgrymu ei fod yn ystyried cyflwyno deiseb i Senedd y DU ac ysgrifennu at Adran Llywodraeth y DU ar gyfer Cymunedau a Llywodraeth Leol ar y mater.

 

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-04-475 Yn eisiau – Bysiau i Feirionnydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ar y sail nad yw'n bosibl i fwrw ymlaen â'r mater o ystyried yr anhawster o ran cysylltu â'r deisebydd, a'r ffaith bod y ddeiseb wedi cael ei hystyried fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes i Fysiau a Chludiant Cymunedol yn y Pedwerydd Cynulliad.

 

3.2

P-04-513 Achub gwasanaeth bws X94 Wrecsam/Abermo

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb yn wyneb y ffaith bod y gwasanaeth X94 wedi cael ei ddisodli gan y gwasanaeth T3 a weithredir gan ddarparwr gwahanol, a diolch i'r deisebydd am godi'r mater hwn.

 

3.3

P-04-515 Darparu rhagor o arian ar gyfer Gwasanaethau Bysiau Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ar y sail nad yw'n bosibl i fwrw ymlaen â'r mater o ystyried yr anhawster o ran cysylltu â'r deisebydd, a'r ffaith bod y ddeiseb wedi cael ei hystyried fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes i Fysiau a Chludiant Cymunedol yn y Pedwerydd Cynulliad.

 

 

3.4

P-04-686 Dylid Gosod System Goleuadau Traffig yng Nghylchfan Cross Hands

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb ar y sail nad yw'n bosibl nodi sut i fynd â'r ddeiseb ymlaen yn absenoldeb y cysylltiad gyda'r deisebwr.

 

3.5

P-05-729 Cael Gwared ar Gyfyngiadau Cyflymder ar yr M4 wrth Dwnelau Bryn-glas

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb ac, wrth wneud hynny, ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith i ofyn iddo roi gwybod i'r Pwyllgor am ganfyddiadau'r adolygiad arfaethedig ar ôl i 12 mis o ddata gael eu casglu o orfodi'r Terfyn Cyflymder Newidiol.

 

 

3.6

P-05-733 Dim gweithredu pellach ar Barthau Perygl Nitradau (NVZ) yng Nghymru o gwbl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i

·         ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, i rannu sylwadau'r deisebwr, a gofyn a yw asesiad effaith rheoleiddiol ar effaith economaidd a chymdeithasol y cynigion wedi cael ei wneud, a sut y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried dulliau amgen; ac

·         aros am gyhoeddiad ynghylch camau gweithredu arfaethedig Llywodraeth Cymru ar ôl yr ymgynghoriad.

 

3.7

P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

  • ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i ofyn a oes modd rhoi'r sicrwydd i'r deisebwyr y maent yn ei geisio ynghylch:
    • a yw fforwm gwneud penderfyniadau cenedlaethol gydag adnoddau yn ddigon ymwybodol o'r risgiau gwasanaeth ac yn pennu blaenoriaeth wybodus i'r sefyllfa; a
    • bod gwasanaethau niwrogyhyrol yn cael eu cynnwys o fewn cwmpas yr adolygiad cenedlaethol o niwrowyddorau yng Nghymru sy'n cael ei arwain gan WHSSC
  • ysgrifennu at yr holl Fyrddau Iechyd Lleol i gael eu barn ar y materion a godwyd gan y ddeiseb.

 

 

 

3.8

P-04-570 Argaeledd Anghyfartal o Ran Triniaethau Nad Ydynt Wedi’u Harfarnu’n Genedlaethol Gan GIG Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am ddatganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar yr adolygiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar y broses Cais Cyllido Cleifion Unigol (IPFR) a gofyn am farn y deisebwyr eto ar y pwynt hwnnw.

 

 

3.9

P-05-699 Cronfa Driniaeth i Gymru - rhaid dod â’r Loteri Cod Post ynghylch Iechyd i ben

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

  • cau'r ddeiseb ar y sail nad yw'n bosibl nodi sut i fynd â'r ddeiseb ymlaen yn absenoldeb  cysylltiad gyda'r deisebwr; ac wrth wneud hynny
  • aros am ddatganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar yr adolygiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar y broses Cais Cyllido Cleifion Unigol  (IPFR), a'i anfon ymlaen at y deisebydd er gwybodaeth.

 

 

3.10

P-05-693 Rhowch y Brechlyn Llid yr Ymennydd B i Bob Plentyn yng Nghymru am ddim

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

  • ysgrifennu at y Gweinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd i rannu'r wybodaeth a dderbyniwyd gan Meningitis Now a'r Sefydliad Ymchwil Llid yr Ymennydd a gofyn a yw tystiolaeth bellach gan y JCVI wedi cael ei hystyried gan Lywodraeth Cymru ers yr ohebiaeth flaenorol ym mis Awst 2016, yn enwedig mewn perthynas â brechu plant hyd at 2 oed, a rhwng 3 a 5; ac
  • ceisio barn y deisebwr eto ar yr holl ohebiaeth ddiweddaraf a dderbyniwyd ar y pwynt hwnnw.

 

 

3.11

P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y pryderon a'r cwestiynau a godwyd gan y deisebwyr.

 

3.12

P-05-704 Dod ag Arholiadau mis Ionawr yn ôl ar gyfer Myfyrwyr Safon Uwch/Uwch Gyfrannol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ar y sail nad yw'n bosibl nodi sut i fynd â'r ddeiseb ymlaen yn absenoldeb cysylltiad gyda'r deisebwr.

 

3.13

P-05-722 Diogelu Anghenion Addysgol Arbennig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • cysylltu â'r deisebydd i ofyn am ei farn ar yr ohebiaeth ddiweddaraf; ac
  • ysgrifennu i Gyngor Castell-nedd Port Talbot i ofyn iddynt fynd i'r afael â'r sylwadau penodol a wnaed gan y deisebydd am ei phrofiadau wrth geisio cael mynediad at wasanaethau cymorth yn ardal y cyngor.

 

 

3.14

P-04-439 Diogelu coed hynafol a choed treftadaeth Cymru ymhellach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth a chytunodd i gau'r ddeiseb, o ystyried bod y deisebwyr yn aelodau o'r grŵp Gorchwyl a Gorffen sydd wedi gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru, ac ymrwymiad Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ystyried pa gamau i'w cymryd ymlaen.       

 

 

3.15

P-04-681 Caniatáu i’r Cyhoedd Recordio Cyfarfodydd Llywodraeth Leol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd y cadarnhad a dderbyniwyd oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar ei fwriad i wneud darlledu cyfarfodydd Cynghorau yn ofyniad statudol.

 

 

3.16

P-05-730 Cyllid ac Ariannu Llywodraeth Leol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ar y sail bod gan y deisebwyr ar hyn o bryd gyfle i roi eu barn o ran datblygu cynigion ar ddiwygio llywodraeth leol, ac nad oes fawr o werth pellach y gall y Pwyllgor Deisebau gynnig ochr yn ochr â'r broses honno.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

5.

Adolygiad o System Ddeisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cofnodion:

Rhoddodd Clerc y Pwyllgor ddiweddariad i'r Aelodau ar gyflwyno newidiadau posibl i System Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.