Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-769 Canolfan Trawma Difrifol De Cymru – Caerdydd ac Abertawe

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, gan gytuno i aros am safbwyntiau'r deisebydd cyn penderfynu pa gamau pellach i'w cymryd ynghylch y ddeiseb.

 

2.2

P-05-770 Ailagor Gorsaf Drenau Crymlyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, gan gytuno i anfon y wybodaeth fanwl a ddarparwyd gan y deisebydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, gan ofyn:

 

·         a ellir defnyddio'r wybodaeth hon wrth lunio unrhyw asesiad yn y dyfodol o'r potensial ar gyfer gorsaf newydd yn yr ardal; ac

·         a fydd cyfle i ystyried barn pobl leol yn ystod yr asesiad hwnnw.

 

2.3

P-05-772 Na i Gylch Haearn arfaethedig Castell y Fflint

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, gan gytuno i aros am ymateb ffurfiol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith a gofyn am safbwyntiau'r deisebydd arno, gyda'r bwriad o gau'r ddeiseb a llongyfarch y deisebydd ar lwyddiant yr ymgyrch ar y cam hwnnw.

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-05-692 Adeiladu Cofeb Mamieithoedd Rhyngwladol ym Mae Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, gan gytuno i gau'r ddeiseb am nad oes cyllid ar gael gan y Llywodraeth i adeiladu'r gofeb.  Wrth wneud hynny, roedd yr Aelodau am dynnu sylw'r deisebydd at bapur briffio'r Gwasanaeth Ymchwil, sy'n nodi sefydliadau ac elusennau a allai helpu â'r ymgyrch.

 

3.2

P-05-737 Achubwch ein Bws

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Stagecoach, gan gytuno i gau’r ddeiseb yn sgil y wybodaeth a gafwyd.

 

3.3

P-05-716 Cludiant am ddim ar drenau i ddisgyblion ysgol gyda Threnau Arriva Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         Trenau Arriva Cymru er mwyn rhannu sylwadau pellach y deisebydd a gofyn am ei ymateb i'r pryderon diogelwch a godwyd gan y deisebydd; a

·         Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i ofyn am ei farn ar y drafnidiaeth a ddarperir ar gyfer disgyblion yn Ysgol Treorci ac a ydyw wedi cael unrhyw drafodaethau am ddiogelwch y disgyblion sy'n defnyddio'r orsaf.

 

3.4

P-04-688 Gorsaf Bŵer Tata Steel ym Mhort Talbot

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i ofyn a gafwyd unrhyw drafodaethau diweddar â Llywodraeth Cymru ynghylch gorsaf bŵer newydd ym Mhort Talbot, cyn ystyried pa gamau pellach y gallai'r Pwyllgor eu cymryd .

 

3.5

P-05-690 Arwynebu Ffordd A40 Rhaglan–Y Fenni

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, gan gytuno i ysgrifennu at y deisebydd i gael y wybodaeth ddiweddaraf cyn penderfynu pa gamau i'w cymryd yn y dyfodol o ran y ddeiseb.

 

3.6

P-05-740 Deiseb i Warchod Ein Stryd Fawr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor sylwadau pellach gan y deisebydd, gan gytuno i:

 

·         ofyn am farn y deisebydd ar y cynigion a geir yn yr ymgynghoriad cyfredol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar gynigion ar gyfer Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach parhaol newydd; ac

·         annog y deisebydd i ymateb yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru fel rhan o'r ymgynghoriad hefyd. 

 

3.7

P-05-726 Rhoi Rhyddhad Ardrethi i Awdurdodau Lleol ar gyfer Cyfleusterau Hamdden a Diwylliannol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol a chytunodd i ofyn am ragor o sylwadau gan y deisebydd ac ystyried cau'r ddeiseb yn y cyfarfod nesaf os na ddaw ymateb i law.

 

3.8

P-05-734 Gwahardd Codi Ffioedd Asiantau Gosod ar Denantiaid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant a chytunodd i aros am safbwyntiau'r deisebydd cyn penderfynu pa gamau pellach i'w cymryd o ran y ddeiseb.

 

3.9

P-05-751 Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae wedi ymwneud â’r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (CAFCASS) yn y gorffennol.

 

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a, gan gytuno i wahodd y deisebydd i roi tystiolaeth lafar i'r Pwyllgor gyda'r bwriad o wahodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i gyfarfod yn y dyfodol. 

 

 

3.10

P-05-711 Sicrhau bod Anghenion Pobl Anabl am Addasiadau i Dai yn cael eu Diwallu’n Ddigonol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y deisebydd a chytunodd i gau’r ddeiseb yn sgil yr ymateb cadarnhaol a gafwyd.

 

3.11

P-05-712 Byddai Adran Llywodraeth Cymru o fewn Ewrop yn sicrhau llais clir, strategol ac atebol i Gymru mewn trafodaethau parhaus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y Prif Weinidog a chytunodd i gau'r ddeiseb gan fod trefniadaeth Llywodraeth Cymru yn fater i'r Prif Weinidog a chan fod gwybodaeth yn cael ei darparu'n rheolaidd yn ystod trafodion eraill y Cynulliad am ymateb Llywodraeth Cymru i'r broses o adael yr UE.  Wrth wneud hynny, ystyriodd yr Aelodau sylwadau a gafwyd gan y deisebydd ar ôl i'r papurau gael eu cyhoeddi, a oedd yn cydnabod, yn ôl pob golwg, nad oedd hi'n werth parhau â'r ddeiseb.

 

3.12

P-04-667 Cylchfan ar gyfer Cyffordd yr A477/A4075

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith a'r deisebydd a chytunodd i:

 

·         anfon sylwadau pellach y deisebydd at Ysgrifennydd y Cabinet er gwybodaeth; a

·         gofyn a ellid darparu copi o'r Archwiliad Diogelwch Ffyrdd Cam 4 at y deisebydd pan fydd y broses wedi'i chwblhau.

 

 

3.13

P-05-701 Gwelliannau i Ddiogelwch y Ffordd ar Hyd Cefnffordd yr A487 Rhwng Aberteifi ac Aberystwyth, i Gynnwys Mannau Pasio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, gan gytuno i ofyn am farn y deisebydd ar y wybodaeth ddiweddaraf a gafwyd.

 

3.14

P-05-714 Cynnwys Gorsaf ar Gyfer Mynachdy a Thal-y-bont fel Rhan o Unrhyw Gynnig ar Gyfer Metro Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith a'r deisebydd a chytunodd i:

 

·         gau'r ddeiseb, o gofio bod yr ardal hon wedi'i chynnwys yn y broses asesu manwl ar gyfer gorsafoedd newydd posibl; ac wrth wneud hynny

·         anfon safbwyntiau'r deisebydd ar leoliad orsaf at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith a gofyn iddo ystyried hyn fel rhan o unrhyw drafodaethau yn y dyfodol.

 

 

3.15

P-05-738 Deiseb Gyhoeddus ar gyfer Ffordd Osgoi i Ddinas Powys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg a'r deisebydd a chytunodd i ysgrifennu llythyr pellach at Gyngor Bro Morgannwg i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf pan benderfynir a ddylid bwrw ymlaen ag adroddiad Cam 2 Arweiniad ar Arfarnu a Chynllunio Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) ai peidio.

 

3.16

P-05-755 Galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr A48 ger Trelales, Broadlands a Merthyr Mawr yn ddiogel i holl ddefnyddwyr y ffyrdd ac i gerddwyr.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ofyn iddo ystyried ymchwilio i'r materion a godwyd yn y ddeiseb. Wrth wneud hynny, cytunodd yr aelodau i gau'r ddeiseb ac i ysgrifennu at y deisebydd i egluro mai mater i'r awdurdod lleol fyddai gwelliannau i'r rhan hon o'r A48.

 

3.17

P-05-732 Amseroedd Aros Annerbyniol i Gleifion y GIG yn Adran Damweiniau ac Achosion Brys Wrecsam/Ysbyty Maelor Wrecsam

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor pan fydd canlyniad yr ymyrraeth chwe mis wedi'i thargedu bresennol, a'i heffaith ar amseroedd aros brys, yn hysbys.

 

3.18

P-05-736 Gwneud gwasanaethau iechyd meddwl yn fwy hygyrch

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a chytunodd i:

 

·         wahodd y deisebydd i un o gyfarfodydd y Pwyllgor i roi rhagor o dystiolaeth am ei deiseb ochr yn ochr â Hafal a'r deisebydd ar gyfer P-05-764 Gwell Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion; ac

·         ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i roi gwybod iddo am y sesiwn dystiolaeth sydd ar ddod a nodi pa mor siomedig oedd y deisebydd â'i ymateb diweddaraf.   

 

 

3.19

P-05-754 Diffyg cymorth i blant ag anableddau mewn argyfwng

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae wedi gweithio yn y gorffennol mewn maes sy'n berthnasol i bwnc y ddeiseb ac wedi atgyfeirio achosion at Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS). 

 

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a chytunodd i ofyn am farn y deisebydd ar yr ymateb a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet cyn penderfynu pa gamau pellach i'w cymryd o ran y ddeiseb.

 

3.20

P-05-766 Dylid Gwneud Opsiwn Fegan yn Orfodol Mewn Ffreuturiau Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd cyn penderfynu sut i fwrw ymlaen â'r ddeiseb.  

 

3.21

P-05-750 Ar gyfer eitemau untro: cyflwyno System Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd a sicrhau y gellir compostio cynwysyddion bwyd cyflym a'r offer sy'n gysylltiedig â hwy.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a chytunodd i wahodd y deisebwyr i un o gyfarfodydd y Pwyllgor i roi rhagor o dystiolaeth am y ddeiseb.

 

3.22

P-05-760 Atal TGAU Cymraeg Gorfodol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn gofyn am ymateb i'r pryderon a godwyd gan y deisebydd, yn enwedig o ran:

 

·         y posibilrwydd bod llai o opsiynau pwnc ar gael i ddisgyblion oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen; a

·         phwysau ar gyllidebau ysgolion.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

5.

Ystyried yr adroddiad drafft – P-05-710 Sicrhau y gall Pobl Anabl Ddefnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus Pryd Bynnag y Bo’i Hangen Arnynt

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft a'i argymhellion.