Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/12/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.  Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-784 Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu - adnabyddiaeth a chefnogaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i rannu'r wybodaeth a ddarparwyd gan y deisebydd ac i ofyn ei farn ar y materion a ganlyn:

    • p'un a ddylid ychwanegu gwrthiselyddion at y rhestr o gyffuriau a dargedir i'w lleihau gan Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru; ac

o   a ddylai cleifion ledled Cymru gael mynediad at Wasanaeth Cymorth Meddyginiaethau Rhagnodedig.

 

2.2

P-05-787 Achub Cenhedlaeth y Dyfodol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i:

 

·         geisio cadarnhad y bydd trefniadau ar gyfer gwaith ieuenctid yn y dyfodol, gan gynnwys cyllid, yn rhan o'r adolygiad o ymestyn hawliau a'r ymgynghoriad cyhoeddus yn 2018; a

·         gofyn am gymhariaeth o faint o arian a ddyrennir i bob awdurdod lleol ar gyfer gwaith ieuenctid drwy'r Asesiad Gwariant Safonol a faint o arian y mae pob awdurdod yn ei wario ar waith ieuenctid.

 

2.3

P-05-788 Cael gwared ar agwedd orfodol Bagloriaeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am:

 

·         gopi o ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i lythyr manwl gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch statws Bagloriaeth Cymru; a

·         chanfyddiadau'r adolygiad o Fagloriaeth Cymru sy'n cael ei gynnal gan Gymwysterau Cymru;

 

cyn ystyried cymryd camau pellach ynghylch y ddeiseb.

 

 

2.4

P-05-789 Adolygu cymorth i geiswyr lloches sy'n ymgymryd ag addysg bellach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

  • aros am farn y deisebydd ar yr ymateb gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes cyn penderfynu ar unrhyw gamau pellach ynghylch y ddeiseb; ac

·         ysgrifennu at Gyngor Ffoaduriaid Cymru i ofyn eu barn ar y materion a godwyd yn y ddeiseb i lywio trafodaethau'r Pwyllgor.

 

2.5

P-05-790 Mynd i'r afael â chysgu ar y stryd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Tai ac Adfywio i rannu'r pwyntiau ychwanegol a godwyd gan y deisebydd a cheisio barn y Gweinidog ar y materion hyn, yn ogystal â gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am argymhellion y Gweithgor Cysgu ar y Stryd pan fyddant ar gael.

 

3.

Sesiwn dystiolaeth 1 - P-05-785 Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd

Tim Deere-Jones - Deisebydd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n aelod o Gyngor Caerdydd.

 

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Tim Deere-Jones, y deisebydd.

 

4.

Sesiwn dystiolaeth 2 - P-05-785 Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd

Chris Fayers, Pennaeth yr Amgylchedd, Adeiladau Newydd – EDF Energy

Pete Bryant, Arbenigwr Datgomisiynu a Chynghorydd ar Wastraff Ymbelydrol – EDF Energy

Stephen Roast, Arbenigwr Technegol Morol – EDF Energy

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr EDF Energy.

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Item 6.

Cofnodion:

Derbyniodd yr Aelodau y cynnig.

 

6.

Trafod y sesiynau tystiolaeth blaenorol

P-05-785 Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a glywyd yn y sesiynau blaenorol, gan gytuno i wahodd Cyfoeth Naturiol Cymru a Cefas i roi tystiolaeth i'r Pwyllgor cyn gynted ag y bo modd yn y flwyddyn newydd.