Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/01/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.  Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-791 Diddymu contractau parcio preifat yn ysbytai Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros i glywed barn y deisebydd ynghylch ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol cyn penderfynu pa gamau i'w cymryd ynghylch y ddeiseb.

 

2.2

P-05-792 Deiseb i ymestyn y terfyn cyflymder 40mya ym Mlaenporth.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at  y canlynol:

 

·         Cyngor Sir Ceredigion i ofyn am ei farn ynghylch y materion sy'n codi yn y ddeiseb a gofyn pa asesiad y mae wedi'i wneud ynghylch diogelwch plant sy'n defnyddio bysiau ysgol yn y lleoliad hwn; ac

·         Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith i ofyn, o gofio bod yr adolygiad o derfynau cyflymder dros dair blynedd yn cynnwys dros 600 o safleoedd, sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu blaenoriaethu gwaith yr adolygiad hwnnw. 

 

2.3

P-05-793 Band eang cyflym i bentref Llangenni

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at  y canlynol:

 

·         BT i dynnu sylw at rwystredigaeth y deisebwyr a gofyn am eglurder ynghylch y cynlluniau a'r amserlenni ar gyfer cysylltu eiddo yn Llangenni â band eang; ac

·         Arweinydd y Tŷ, i rannu'r pryderon y mae'r deisebwyr wedi'u mynegi.

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-04-522 Asbestos mewn ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn:

 

·         y cwestiynau a gyflwynwyd gan y deisebydd, gan gynnwys ynghylch yr ymgynghoriad ar ganllawiau diwygiedig ar gyfer rheoli asbestos mewn ysgolion sydd ar y gweill yn gynnar yn 2018; ac

·         ei bod yn sicrhau bod pob awdurdod lleol yn ymateb yn llawn i'r adroddiad arolwg cyflwr ysgolion.

 

3.2

P-05-690 Arwynebu ffordd A40 Rhaglan–Y Fenni

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, ynghyd â sylwadau a gafwyd gan y deisebydd ar ôl cyhoeddi'r papurau. Cytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn am ei ymateb i sylwadau'r deisebydd ac, wrth wneud hynny, mynegodd ei bryderon cryf nad oedd yr addewidion blaenorol i arwynebu'r ffordd wedi cael eu gwireddu.

 

3.3

P-05-721 Deiseb terfyn cyflymder Penegoes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith a chytunodd i ymateb yn ysgrifenedig i ofyn, o gofio bod yr adolygiad o derfynau cyflymder dros dair blynedd yn cynnwys dros 600 o safleoedd, sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu blaenoriaethu gwaith yr adolygiad hwnnw. 

 

 

3.4

P-05-748 Bysiau ysgol i blant ysgol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn pa waith polisi a wnaed i ymchwilio i'r posibilrwydd o gryfhau'r gofynion presennol fel bod:

 

·         plant sy'n teithio i'r ysgol ac o'r ysgol ar bob bws yn cael sedd a gwregys diogelwch;

·         pob gyrrwr gael gwiriad DBS perthnasol;

·         pob bws fod yn addas i'r diben.

 

Wrth wneud hynny, nododd yr Aelodau eu bod yn cydymdeimlo'n llwyr â'r ddeiseb ac yn rhannu'r uchelgais ar gyfer bysiau ysgol pwrpasol i blant ysgol, ond gan gydnabod nad yw gwireddu'r uchelgais polisi hwn o reidrwydd yn bosibl ar hyn o bryd.

 

 

3.5

P-05-767 Cefnffordd yr A487 trwy Dre Taliesin: angen brys am fesurau effeithiol i arafu traffig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn:

·         o gofio bod yr adolygiad o derfynau cyflymder dros dair blynedd yn cynnwys dros 600 o safleoedd, sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu blaenoriaethu gwaith yr adolygiad hwnnw;

·         am ragor o wybodaeth am sut y gellir cynnwys cymunedau yn yr adolygiad o derfynau cyflymder dros dair blynedd.

 

 

3.6

P-05-772 Na i Gylch Haearn arfaethedig Castell y Fflint

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth a chytunodd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni'r cadarnhad a gafwyd na fydd gwaith celf y cylch haearn yn mynd yn ei flaen.  Wrth wneud hynny, roedd yr Aelodau'n dymuno llongyfarch y deisebwyr am lwyddiant yr ymgyrch.

 

3.7

P-05-780 Ailagor gorsaf Carno

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth a chytunodd i aros am farn y deisebwyr am yr ateb hwnnw cyn penderfynu a ddylid cymryd unrhyw gamau pellach ynghylch y ddeiseb.

 

3.8

P-05-743 Rhowch derfyn ar fasnachu anifeiliaid anwes egsotig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau ohebiaeth gan RSPCA Cymru a chytunodd i wneud y canlynol:

 

  • aros am farn y deisebydd am y wybodaeth a gyflwynwyd cyn ystyried camau pellach ynghylch y ddeiseb; ac
  • wedi i Ysgrifennydd y Cabinet ystyried canfyddiadau adolygiad trwyddedu Llywodraeth yr Alban a chynigion ar gyfer system newydd yn Lloegr, ystyried a ydynt am gymryd tystiolaeth ar y mater.

 

 

3.9

P-05-753 Cryfhau'r fframwaith deddfwriaethol a rheoleiddiol ynghylch cyfleusterau prosesu pren gwastraff

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru a chytunodd i aros am farn y deisebydd cyn ystyried camau pellach ynghylch y ddeiseb.

 

3.10

P-05-759 Ailagor Ffordd Goedwig Cwmcarn adeg y Pasg 2018

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd David Rowlands y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Roedd wedi bod yn bresennol mewn cyfarfod rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a'r deisebwyr, a bydd yn mynd i gyfarfod a gynhelir yn y gwanwyn.

 

Trafododd yr Aelodau ohebiaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebwyr, a chytunodd i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf gan CNC yn dilyn y cyfarfod cyhoeddus sydd ar y gweill yn y gwanwyn 2018, yn arbennig mewn perthynas â'r cynnydd a wnaed yn y trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ynghylch opsiynau cyllido posibl a'r astudiaeth ddichonoldeb sydd ar y gweill gyda Chyngor Caerffili.

 

3.11

P-05-773 Peidiwch â llenwi safleoedd tirlenwi!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Gyngor Caerdydd a chytunodd i aros am farn y deisebydd, a gofynnodd iddi roi'r wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn unrhyw drafodaethau uniongyrchol y bydd yn eu cael gyda Chyngor Caerdydd.

 

3.12

P-05-777 Cymhwyso’r ddeddfwriaeth systemau llethu tân awtomatig o fewn y rheoliadau adeiladu cyfredol ar gyfer Cymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, ynghyd â sylwadau a gafwyd gan y deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i ofyn a yw'n bwriadu ymgymryd ag unrhyw waith craffu ar ôl deddfu ar y Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio Rhif 3) a Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2013 yn ystod y Cynulliad hwn.

 

3.13

P-05-779 Sganio gorfodol gan gynghorau am ficrosglodion mewn anifeiliaid anwes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, ynghyd â sylwadau gan y deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu at yr awdurdodau lleol nad ydynt ar hyn o bryd yn sganio carcasau anifeiliaid anwes fel mater o drefn, gan ofyn am fanylion eu polisïau cyfredol ac a ydynt wedi ystyried pa mor ymarferol yw cyflwyno sganio fel mater o drefn. Dywedodd y Pwyllgor hefyd y gallai ddymuno cau'r ddeiseb ar ôl cael yr ymatebion.

 

 

3.14

P-05-769 Canolfan Trawma Difrifol De Cymru – Caerdydd ac Abertawe

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb gan fod disgwyl i'r lleoliad arfaethedig ar gyfer canolfan trawma difrifol newydd fod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus, gan annog y deisebydd i roi ei farn fel rhan o hyn.

 

 

3.15

P-05-781 Cymuned Port Talbot yn erbyn yr Archgarchar

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ragor o wybodaeth am y broses o wneud penderfyniadau y bydd yn ei dilyn mewn perthynas â gwerthu'r tir os bydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cael caniatâd cynllunio ar gyfer adeiladu carchar.

 

(10.00 - 10.45)

4.

Sesiwn dystiolaeth - P-05-785 Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd

Cyfoeth Naturiol Cymru

 

·         John Wheadon, Rheolwr Gwasanaeth Trwyddedu

·         Adam Cooper, Uwch-swyddog Trwyddedu

 

 

Cefas

 

·         David Carlin, Cyfarwyddwyr Gwyddoniaeth, Cefas

·         Kins Leonard

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Ganolfan Gwyddorau'r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu (CEFAS).

 

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

6.

Trafod y sesiwn dystiolaeth flaenorol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law mewn sesiynau blaenorol a chytunodd i ysgrifennu at Cyfoeth Naturiol Cymru:

  • yn awgrymu y dylai CNC ofyn am gymryd samplau pellach ar ddyfnder, a hynny er mwyn rhoi sicrwydd i'r cyhoedd mewn perthynas â'r drwydded hon;
  • yn sicrhau bod canlyniadau pob dadansoddiad a wneir o'r gwaddod ar gael i'r cyhoedd;
  • yn argymell y dylid egluro manylion yr holl radioniwclidau y profwyd amdanynt mewn perthynas ag unrhyw brofion pellach, yng ngoleuni'r dryswch blaenorol ynghylch manylion y gwaith asesiad radiolegol a gynhaliwyd ar y deunydd; ac
  • yn gofyn am ragor o fanylion am unrhyw waith samplu neu fonitro a wnaed yn ardal ehangach Aber Hafren ehangach ac astudiaethau yn ymwneud â sut y byddai'r gwaddodion yn debygol o wasgaru ar ôl eu dympio ar safle Cardiff Grounds.