Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 23/01/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.  Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-794 Gostwng yr Oedran Pleidleisio i Un ar Bymtheg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am gyhoeddi'r ymgynghoriad cyhoeddus ar ddiwygio etholiadol ac annog y deisebwyr a chefnogwyr eraill i gyflwyno eu barn ar hyn.

 

 

2.2

P-05-795 Achosi Niwsans neu Aflonyddwch ar safleoedd y GIG

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ymateb pellach gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol cyn ystyried unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb.

 

2.3

P-05-796 Galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am amser ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn.

 

2.4

P-05-797 Sicrhau mynediad i'r feddyginiaeth ffibrosis systig, Orkambi, fel mater o frys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i rannu'r wybodaeth a ddarparwyd gan y deisebwyr a gofyn a fyddai'r data hirdymor mwy diweddar y cyfeiriwyd ato yn rhan o unrhyw ystyriaeth bellach gan Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan, cyn ystyried a ddylid cymryd tystiolaeth lafar ar y mater.

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-04-667 Cylchfan ar gyfer Cyffordd yr A477/A4075

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i aros am ddiweddariad pellach gan y deisebwyr mewn perthynas â'u gohebiaeth â chwmnïau cludiant cyn ystyried unrhyw gamau pellach.

 

3.2

P-05-722 Diogelu Anghenion Addysgol Arbennig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb yng ngoleuni'r cynnig blaenorol i ymgysylltu gan Gyngor Sir Castell-nedd Port Talbot, ac am na dderbyniwyd ymateb yn ddiweddar gan y deisebydd.

 

3.3

P-05-787 Achub Cenhedlaeth y Dyfodol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb yng ngoleuni boddhad y deisebydd gyda'r wybodaeth a ddarparwyd gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes a diolch iddo am ei ymgysylltiad â'r broses ddeisebau.

 

3.4

P-05-742 Peidiwch â gadael i Forsythia gau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y deisebwyr i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth bresennol yng Nghanolfan Ieuenctid Forsythia ac a ydynt wedi bod yn rhan o drafodaethau gyda'r Cyngor ynghylch dyfodol y Ganolfan.

 

 

3.5

P-05-766 Dylid Gwneud Opsiwn Fegan yn Orfodol Mewn Ffreuturiau Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb am ei bod yn anodd gweld sut y gall y Pwyllgor ei dwyn ymlaen heb gyswllt gan y deisebydd.

 

3.6

P-05-764 Gwell Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Oedolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor gefndir y ddeiseb a chytunodd i ystyried y materion a godwyd gan y ddeiseb fel rhan o'i sesiwn dystiolaeth a gaiff ei chynnal cyn bo hir gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ddeiseb P-05-736 i Ddarparu Gwasanaethau Iechyd Meddwl Mwy Hygyrch.

 

 

3.7

P-05-784 Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu - adnabyddiaeth a chefnogaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn:

  • gwahodd unigolion y mae'r mater hwn yn effeithio arnynt, ynghyd â byrddau iechyd, Cymdeithas Feddygol Prydain a'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol i ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig bellach ar y materion a godwyd gan y ddeiseb; ac
  • ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ofyn a yw wedi ystyried y materion hyn mewn gwaith diweddar, neu'n bwriadu gwneud hynny mewn ymchwiliadau y bydd yn eu cynnal cyn bo hir.

 

 

3.8

P-05-790 Mynd i'r afael â chysgu ar y stryd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i wneud y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn ymwybodol o'r ddeiseb fel rhan o'i Ymchwiliad presennol i gysgu allan yng Nghymru, ac anfon copi o adroddiad y Pwyllgor hwnnw at y deisebydd unwaith y bydd ar gael.

 

 

3.9

P-05-778 Amddiffyn Cyllyll Môr ar Draeth Llanfairfechan

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i anfon sylwadau'r deisebydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a gofyn am ragor o fanylion am yr astudiaeth ymchwil a gwaith arolygu asesiadau stoc, gan gynnwys pwy fydd yn ei gynnal a'r amserlenni ar gyfer y canlyniadau.

 

 

4.

Sesiwn Dystiolaeth - P-05-751 Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant

             Paul Apreda, Deisebydd

 

             Dr Sue Whitcombe, Seicolegydd Siartredig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunodd i wahodd y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant a CAFCASS i roi tystiolaeth mewn cyfarfod yn y dyfodol, ac ystyried casglu rhagor o dystiolaeth am y ddeiseb fel rhan o drafodaeth yn y dyfodol am flaenraglen waith y Pwyllgor.