Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 01/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.  Roedd Suzy Davies yn dirprwyo ar ran Janet Finch-Saunders o eitem 3.2.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae wedi gweithio fel athro cyflenwi o'r blaen.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yng ngoleuni'r ystod o faterion a phryderon a godwyd yn sgil y ddeiseb, cytunodd i ofyn i'r deisebwyr a oes atebion penodol i'r materion a godwyd yr hoffent i'r Pwyllgor eu trafod wrth barhau i ystyried y ddeiseb.

 

2.2

P-05-808 Ni ddylai Cymraeg fod yn orfodol i blant â dyslecsia ac anghenion arbennig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

·         gofyn i gael gwybodaeth am lefel y gefnogaeth sydd ar gael wrth addysgu Cymraeg i ddisgyblion â dyslecsia a'r hyn sy'n digwydd mewn achosion eithafol lle nodir bod disgybl yn cael trafferth dysgu ail iaith; ac

·         aros am farn y deisebydd am yr ymateb gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes cyn penderfynu a ddylid cymryd rhagor o gamau ynghylch y ddeiseb.

 

 

 

 

2.3

P-05-809 Is-ddeddfau Pysgota Arfaethedig Newydd a Methiannau Cyfoeth Naturiol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

·         trafod y ddeiseb hon yn y dyfodol ochr yn ochr â P-05-810 Rhowch Gyfle i Glybiau Pysgota Cymru ac Eog a Brithyll y Môr;

·         ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i roi'r sylwadau manwl gan y deisebydd ar gyfer P-05-810 a gofyn am ddiweddariad ar ei hystyriaeth o gais Cyfoeth Naturiol Cymru i benderfynu ar is-ddeddfau.

 

2.4

P-05-810 Rhowch Gyfle i Glybiau Pysgota Cymru ac Eog a Brithyll y Môr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

  • trafod y ddeiseb hon yn y dyfodol ochr yn ochr â P-05-809 Is-ddeddfau Pysgota Newydd Arfaethedig a Methiannau Cyfoeth Naturiol Cymru;
  • ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i roi'r sylwadau manwl gan y deisebydd a gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am ei hystyriaeth o gais Cyfoeth Naturiol Cymru i benderfynu ar is-ddeddfau.

 

 

2.5

P-05-811 Rhoi'r gorau i ddefnyddio ardystiad gweithwyr ar brosiectau Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i:

 

·         geisio ymateb i'r sylwadau manwl gan y deisebydd a'r dull amgen arfaethedig; a

·         gofyn a yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud asesiad o effaith cynlluniau ardystio megis Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) ar gostau yswiriant i unigolion neu gwmnïau.

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-05-780 Ailagor Gorsaf Carno

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor sylwadau gan y deisebwyr a chytunodd i ysgrifennu at:

·         Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i rannu sylwadau'r deisebwyr a gofyn pryd, ac am ba resymau, y diwygiodd Llywodraeth Cymru ei pholisi mewn perthynas â chyllido'r broses o ddatblygu gorsaf newydd yn uniongyrchol; a

·         Phwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau i ofyn a yw’n bwriadu edrych ar fater cyllid Llywodraeth Cymru i ddatblygu gorsafoedd newydd yng Nghymru, gan gynnwys fel rhan o ystyried masnachfraint rheilffordd yn y dyfodol, neu a fyddai'n ystyried neilltuo amser i wneud hynny, yn ôl cais gan y deisebwyr.

 

 

 

 

3.2

P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y deisebwyr yn dilyn eu cyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a chytunodd i gadw golwg ar hyn ac aros am ddiweddariad arall gan y deisebwyr, cyn ystyried y ddeiseb eto.

 

 

3.3

P-05-757 Cael gwared ar y rhwymedigaeth ar ysgolion i gynnal gweithredoedd addoli crefyddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â P-05-765 Cadw canllawiau presennol ar gyfer Gwasanaethau Crefyddol a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

·         ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet i bwyso am ragor o eglurder ar yr amserlen ar gyfer darparu ymateb sylweddol; ac

·         ystyried casglu rhagor o dystiolaeth ar ôl cael yr ymateb hwnnw. 

 

3.4

P-05-765 Cadw canllawiau presennol ar gyfer Gwasanaethau Crefyddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â P-05-757 Cael gwared ar y rhwymedigaeth ar ysgolion i gynnal gweithredoedd addoli crefyddol

a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

  • ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet i bwyso am ragor o eglurder ar yr amserlen ar gyfer darparu ymateb sylweddol; ac

·         ystyried casglu rhagor o dystiolaeth ar ôl cael yr ymateb hwnnw. 

 

3.5

P-05-783 Sicrhau Cydraddoldeb Cwricwlwm i Ysgolion Cyfrwng Cymraeg e.e. Seicoleg TGAU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y byddai ganddo ddiddordeb mewn ystyried y materion a godwyd yn sgil y ddeiseb hon ymhellach a chytunodd i roi cyfle i'r deisebydd roi ei sylwadau mewn ymateb i'r ohebiaeth a gafwyd, ond cau'r ddeiseb yn y cyfarfod nesaf os na ddaw hyn i law.

 

3.6

P-05-802 Amddiffyn Maint Dosbarthiadau mewn Ystafelloedd Dosbarth a Gweithdai Dylunio a Thechnoleg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet ynghyd â sylwadau eraill gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn:

·         a fydd ei hymrwymiad i atgoffa Penaethiaid, ac eraill, o'u dyletswyddau yn y maes hwn ar ffurf nodyn cyngor yn ôl cais y deisebydd; ac

·         iddi roi copi ohono i'r Pwyllgor pan fydd wedi'i lunio.

 

3.7

P-05-781 Cymuned Port Talbot yn erbyn yr Archgarchar

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb y deisebydd i Ddatganiad Ysgrifenedig Llywodraeth Cymru ar Bolisi Cyfiawnder yng Nghymru, a gyhoeddwyd ar 6 Ebrill, cyn ystyried rhagor o gamau ar y ddeiseb.

 

3.8

P-05-800 Apêl Brys am Gomisiynydd Cyn-filwyr Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a chytunodd i aros am farn y deisebydd am hynny, ac am Ddatganiad Ysgrifenedig Ysgrifennydd y Cabinet ar 23 Ebrill, cyn ystyried a ddylai gymryd rhagor o gamau mewn cysylltiad â'r ddeiseb.

 

3.9

P-05-784 Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu - adnabyddiaeth a chefnogaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn pryd y disgwylir i'r Fframwaith Triniaethau Camddefnyddio Sylweddau gael ei gyhoeddi; a

·         llunio llythyr drafft at Ysgrifennydd y Cabinet, gan amlinellu'r dystiolaeth a gafwyd ynghyd ag unrhyw argymhellion y bydd y Pwyllgor efallai am eu gwneud.

 

3.10

P-05-793 Band eang cyflym i bentref Llangenni

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y deisebwyr a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip a BT Openreach, i ofyn iddynt hwyluso'r broses o osod band eang cyflym i'r pentref o ystyried sicrwydd blaenorol ei fod wedi'i wneud.

 

3.11

P-05-798 Gwasanaethau cymorth i ddynion sy'n ddioddefwyr trais yn y cartref i gael eu rhedeg a'u cyllido'n annibynnol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip ynghyd â sylwadau eraill gan y deisebydd a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         annog y deisebydd i gyfrannu i'r ymgynghoriad ar y canllawiau drafft ar gyfer comisiynu gwasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru; ac

·         ysgrifennu at Arweinydd y Tŷ i ofyn am sicrwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati i geisio barn y rhai y mae cam-drin domestig yn erbyn dynion yn effeithio arnynt ac adrodd yn ôl i'r Pwyllgor am sut y mae wedi mynd i'r afael â cham-drin domestig yn erbyn dynion fel rhan o'r ymgynghoriad.

 

 

 

 

3.12

P-05-804 Mae angen cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer chwarae!!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol a chan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, a chytunodd i aros am farn y deisebwyr am yr atebion a roddwyd gan y Gweinidog cyn ystyried cymryd rhagor o gamau mewn perthynas â'r ddeiseb.

 

4.

P-04-479 Deiseb Adran Pelydr-X ac Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y ddau bapur.

 

(10:00)

5.

Sesiwn Dystiolaeth - P-05-751 Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant

Huw Irranca-Davies AC, Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant

Albert Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio, Llywodraeth Cymru

Nigel Brown, Prif Weithredwr, Cafcass Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Albert Heaney, a Nigel Brown.

 

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

Gweddill busnes y dydd.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

7.

Trafod Sesiynau Tystiolaeth Blaenorol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         ysgrifennu at y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol i ofyn am ragor o fanylion am fwriad Llywodraeth Cymru a CAFCASS Cymru yn y dyfodol i ddiwygio polisïau a llwybrau mewn perthynas â dieithrio plentyn oddi wrth riant, gan gynnwys hyfforddiant i staff; a

·         cheisio barn y deisebwyr am y dystiolaeth ddiweddar a gafodd y Pwyllgor.

 

8.

Trafod adroddiad drafft - P-05-785 Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar yr Adroddiad gyda rhai mân newidiadau.