Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/07/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Sefydlog 17.31, gohiriodd y Cadeirydd y cyfarfod tan 09:35.

 

Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil McEvoy a Janet Finch-Saunders.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-824 Ffordd Osgoi Derwen Brimmon y Drenewydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

  • ceisio barn Ysgrifennydd y Cabinet am sylwadau pellach y deisebwyr; ac
  • ysgrifennu at Gyngor Sir Powys i ofyn pa waith y mae'n ei wneud yn lleol mewn perthynas â chydnabod hanes lleol neu leoedd o ddiddordeb ar hyd y ffordd osgoi.

 

 

2.2

P-05-825 Diogelu ysgyfaint plant rhag llygredd niweidiol tra maent yn yr ysgol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

  • ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd yn gofyn am ymateb i lythyr y Cadeirydd dyddiedig 5 Mehefin a nodi, wrth wneud hynny, siom y Pwyllgor na chafwyd ymateb i'r llythyr hwnnw o fewn yr amserlen ddisgwyliedig;
  • ceisio sylwadau o sylwedd gan y deisebwyr pan ddaw ymateb y Gweinidog i law; ac
  • ysgrifennu at CLlLC yn gofyn am fanylion y gwaith y mae awdurdodau lleol yn ei wneud i reoli ansawdd aer o amgylch ysgolion, yng ngoleuni canllawiau polisi rheoli ansawdd aer (LAQM) lleol a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2017;

cyn trafod y ddeiseb drachefn cyn gynted ag y bo modd yn nhymor yr hydref.

 

2.3

P-05-826 Mae Sir Benfro yn dweud NA!! i gau uned Damweiniau ac Achosion Brys Llwynhelyg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gofyn am fanylion ychwanegol am y broses a'r amserlenni y mae'n bwriadu eu dilyn yn awr bod yr ymgynghoriad cyhoeddus wedi dod i ben; a

·         cheisio amser ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn yn gynnar yn nhymor yr hydref.

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-05-774 Ewch Heibio’n Llydan ac yn Araf (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth a chan Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ar gyfer Heddlu Gwent a Heddlu Gogledd Cymru, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebwyr, a chytunodd ar y camau a ganlyn:

  • gofyn i'r deisebwyr roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor ynghylch a ellir trefnu cyfarfod gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, a rhoi adborth pellach yn dilyn hyn;
  • os na threfnwyd cyfarfod, ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn iddo ef neu ei swyddogion gyfarfod â'r deisebwyr; ac
  • ysgrifennu eto yn gofyn am wybodaeth gan Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys a De Cymru ynghylch unrhyw waith a wnaed i wella diogelwch ceffylau a marchogion wrth iddynt ddefnyddio'r ffyrdd, gan gynnwys hyrwyddo ymgyrchoedd i atal goddiweddyd yn agos, ac am unrhyw farn ehangach a allai bod yn berthnasol i ystyriaeth y Pwyllgor o'r mater hwn.

 

 

3.2

P-05-780 Ailagor Gorsaf Carno

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth a chan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebwyr, a chytunodd i gau'r ddeiseb ar y sail yr ymddengys nad oes fawr o ddim y gall y Pwyllgor ei wneud ynghylch y ddeiseb ar hyn o bryd.

 

Wrth wneud hynny, nododd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn mynd â nifer o orsafoedd newydd posibl trwy broses model busnes 5 cam, a hynny er mwyn cefnogi ceisiadau a wneir i unrhyw Gronfa Gorsafoedd Newydd a gynhelir gan Lywodraeth y DU yn y dyfodol. Mae wedi ymrwymo'r arian cyfatebol angenrheidiol ar gyfer unrhyw geisiadau a gyflwynir.

 

 

3.3

P-05-811 Rhoi'r gorau i ddefnyddio ardystiad gweithwyr ar brosiectau Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, gan y Cynllun Tystysgrif Sgiliau Adeiladu (y Cynllun) a chan Unite, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd. Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ar y sail nad oes llawer y gall y Pwyllgor ei wneud ynghylch y ddeiseb hon, yng ngoleuni'r ymatebion a gafwyd gan Lywodraeth Cymru ac oherwydd nad yw'r materion ychwanegol a godwyd gan y deisebydd mewn perthynas â chwmpas a dyluniad y Cynllun yn rhai a ddatganolwyd i'r Cynulliad.

 

 

3.4

P-04-477 Cefnogi'r Bil Rheoli Cŵn (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Oherwydd cyfyngiadau amser, ac ar gais y deisebydd, cytunodd y Pwyllgor i ohirio trafod y ddeiseb tan gyfarfod yn y dyfodol.

 

3.5

P-04-648 Ceisiadau Cynllunio Nwy ac Olew Anghonfensiynol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Oherwydd cyfyngiadau amser, ac i roi amser ychwanegol i'r deisebydd roi ei sylwadau, cytunodd y Pwyllgor i ohirio trafod y ddeiseb tan gyfarfod yn y dyfodol.

 

 

3.6

P-05-717 Sefydlu Hawliau Mynediad Statudol Cyhoeddus i Dir a Dŵr Mewndirol at Ddibenion Hamdden a Dibenion eraill

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â sylwadau ychwanegol gan y deisebwyr, a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd i ofyn, ymhellach i'w datganiad ysgrifenedig ar 19 Mehefin, am ragor o fanylion am y canlynol:

·         yr ystyriaeth a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i opsiynau ar gyfer diwygio deddfwriaeth mynediad yn sgil yr ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad ar Reoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy; a'r

·         trafodaethau sy'n cael eu hwyluso â'r Fforwm Mynediad Cenedlaethol.

 

 

3.7

P-05-750 Ar gyfer eitemau untro: cyflwyno System Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd a sicrhau y gellir compostio cynwysyddion bwyd cyflym a'r offer sy'n gysylltiedig â hwy.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Oherwydd cyfyngiadau amser, ac i ganiatáu amser ychwanegol i'r deisebydd roi sylwadau, cytunodd y Pwyllgor i ohirio trafod y ddeiseb tan gyfarfod yn y dyfodol a thrafod ymhellach a ddylid gwahodd Gweinidog yr Amgylchedd i'r Pwyllgor yn nhymor yr hydref i ateb cwestiynau ar nifer o ddeisebau sy'n ymwneud â phlastigau untro.

 

 

3.8

P-05-783 Sicrhau Cydraddoldeb Cwricwlwm i Ysgolion Cyfrwng Cymraeg e.e. Seicoleg TGAU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Oherwydd cyfyngiadau amser, ac i roi amser ychwanegol i'r deisebydd roi ei sylwadau, cytunodd y Pwyllgor i ohirio trafod y ddeiseb tan gyfarfod yn y dyfodol.

 

3.9

P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Oherwydd cyfyngiadau amser, ac i roi amser ychwanegol i'r deisebydd roi ei sylwadau, cytunodd y Pwyllgor i ohirio trafod y ddeiseb tan gyfarfod yn y dyfodol.

 

4.

Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth at y Cadeirydd ar P-05-716 Cludiant am Ddim ar y Trenau i Ddisgyblion Ysgol gyda Threnau Arriva Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nodwyd y papur.

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitemau 6 ac 8 ar yr agenda heddiw:

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

6.

Adroddiad - P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i bawb

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd yr Aelodau ar yr Adroddiad gan gytuno hefyd i'w osod yn ystod toriad yr haf fel y gellir ei drafod yn nhymor yr hydref.

 

 

(10.15 - 10.45)

7.

Sesiwn dystiolaeth - P-05-799 Newid y Cwricwlwm Cenedlaethol a dysgu hanes Cymru, a hynny o bersbectif Cymreig, yn ein Hysgolion Cynradd, Uwchradd a’r Chweched Dosbarth

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

 

Claire Rowlands - Dirprwy Gyfarwyddwr Cwricwlwm

 

John Pugsley - Pennaeth y Celfyddydau, y Gangen Dyniaethau a Llesiant

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Claire Rowlands, a John Pugsley.

 

8.

Trafod y Sesiwn Dystiolaeth Flaenorol - P-05-799 Newid y Cwricwlwm Cenedlaethol a dysgu hanes Cymru, a hynny o bersbectif Cymreig, yn ein Hysgolion Cynradd, Uwchradd a’r Chweched Dosbarth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd a chytunodd ar y camau a ganlyn:

  • ceisio rhagor o wybodaeth gan ysgolion Arloesi sy'n gweithio gyda'r cwricwlwm hanes newydd; a
  • gofyn i'r deisebydd ac i'r Dr Elin Jones am eu meddyliau ynghylch tystiolaeth Ysgrifennydd y Cabinet.