Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 25/09/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriad gan Neil McEvoy.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-827 Y ffyrdd o amgylch Trago Mills/Parc Manwerthu Cyfarthfa

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

aros am farn y deisebydd am y wybodaeth a roddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet cyn trafod a ddylid cymryd rhagor o gamau ar y ddeiseb.

 

 

 

 

2.2

P-05-829 Gwahardd Eitemau Plastig Untro yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

  • aros am ymateb gan y deisebwyr i'r ohebiaeth a gafwyd gan Weinidog yr Amgylchedd; ac
  • ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig i rannu manylion am y deisebau presennol ar y pwnc hwn yng nghyd-destun ymchwiliad y Pwyllgor i lygredd microblastigau yn afonydd Cymru.

 

 

2.3

P-05-830 Ailagor Canolfan Feddygol Dewi Sant, Pentwyn, yn Amser Llawn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i ddilyn gohebiaeth y cyfeiriwyd ati gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a cheisio ymateb i'r materion a godwyd yn y ddeiseb.

 

 

2.4

P-05-831 Rhowch ddiwedd ar yr annhegwch a'r gwahaniaethu yn y cymorth ariannol a roddir i ddioddefwyr sgandal gwaed wedi'i heintio yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i rannu'r enghreifftiau a roddwyd gan y deisebwyr a gofyn am arwydd o'r amserlenni ar gyfer penderfynu ar fuddion y cynllun ar gyfer 2018/19.

 

 

2.5

P-05-832 Diwygio’r Cod Derbyn i Ysgolion ynghylch Plant a Anwyd yn ystod yr Haf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn am ragor o wybodaeth am yr adolygiad o'r Cod Derbyn i Ysgolion, gan gynnwys ei gwmpas a'i amserlenni arfaethedig, cyn trafod rhagor o gamau ar y ddeiseb.

 

 

2.6

P-05-828 Rhagdybiaeth o blaid ysgolion gwledig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am amser ar gyfer dadl ar y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn.

 

 

 

 

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-05-794 Gostwng yr Oedran Pleidleisio i Un ar Bymtheg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ddatganiad ysgrifenedig diweddar gan y Llywydd a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgil y ddeddfwriaeth a gyhoeddwyd i ostwng yr oedran pleidleisio isaf i 16 oed ar gyfer etholiadau'r Cynulliad ac awdurdodau lleol, a llongyfarch y deisebwyr ar lwyddiant eu hymgyrch.

 

 

3.2

P-05-798 Gwasanaethau cymorth i ddynion sy'n ddioddefwyr trais yn y cartref i gael eu rhedeg a'u cyllido'n annibynnol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Arweinydd y Tŷ a'r deisebydd a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Arweinydd y Tŷ i ofyn i'r Pwyllgor gael gwybod pan fydd y dadansoddiad o ymgynghoriad diweddar Llywodraeth Cymru ar y Canllawiau Comisiynu Rhanbarthol yn cael ei gyhoeddi cyn trafod y ddeiseb ymhellach yn sgil hynny.

 

3.3

P-04-399 Arferion lladd anifeiliaid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â P-04-433 a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet er mwyn:

  • ailadrodd ei farn y dylai Llywodraeth Cymru wneud teledu cylch cyfyng yn orfodol yn lladd-dai Cymru;
  • gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet roi gwybod i'r Pwyllgor ynghylch y nifer sy'n cael cyllid o dan y Cynllun Buddsoddi Busnes Bwyd pan fydd hyn yn hysbys; a
  • gofyn iddi ddarparu rhestr o ladd-dai yng Nghymru lle nad oes teledu cylch cyfyng wedi'i osod.

 

 

3.4

P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â P-04-433 a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet er mwyn:

  • ailadrodd ei farn y dylai Llywodraeth Cymru wneud teledu cylch cyfyng yn orfodol yn lladd-dai Cymru;
  • gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet roi gwybod i'r Pwyllgor ynghylch y nifer sy'n cael cyllid o dan y Cynllun Buddsoddi Busnes Bwyd pan fydd hyn yn hysbys; a
  • gofyn iddi ddarparu rhestr o ladd-dai yng Nghymru lle nad oes teledu cylch cyfyng wedi'i osod.

 

 

3.5

P-05-717 Sefydlu Hawliau Mynediad Cyhoeddus Statudol i Dir a Dŵr Mewndirol at Ddibenion Hamdden a Dibenion Eraill

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd a'r deisebydd a chytunodd i aros am ymateb y Gweinidog i'r ymgynghoriad diweddar ar Reoli Cynaliadwy ar Adnoddau Naturiol, a rhagor o fanylion am ei dull arfaethedig o gael mynediad at ddiwygio, yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

 

 

3.6

P-05-796 Galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Ddatganiad Deddfwriaethol diweddar y Prif Weinidog, ynghyd â sylwadau'r deisebydd, a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgil ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yn ystod y 12 mis nesaf. Roedd y Pwyllgor hefyd am longyfarch y deisebydd a'i chefnogwyr ar lwyddiant eu hymgyrch ar y mater hwn.

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ofyn am y wybodaeth ychwanegol a geisir gan y deisebydd.

 

 

3.7

P-05-809 Is-ddeddfau Pysgota arfaethedig Newydd a methiannau Cyfoeth Naturiol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-05-810 a chytunodd i gadw briff gwylio ar y mater yn ystod yr ymchwiliad cynllunio lleol a gynhelir gan yr Arolygiaeth Gynllunio.

 

 

3.8

P-05-810 Rhowch Gyfle i Glybiau Pysgota Cymru ac Eog a Brithyll y Môr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-05-809 a chytunodd i gadw briff gwylio ar y mater yn ystod yr ymchwiliad cynllunio lleol a gynhelir gan yr Arolygiaeth Gynllunio.

 

 

3.9

P-05-813 Gwahardd y DEFNYDD O FAGLAU LARSEN (maglau dal sawl math o frân)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan randdeiliaid a chytunodd i aros am farn y deisebwyr am yr ohebiaeth a gafwyd, cyn trafod rhagor o gamau ar y ddeiseb.

 

 

3.10

P-05-815 Rheoli’r Diwydiant Dofednod Dwys Sy’n Ehangu’n Gyflym yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a'r deisebydd a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn:

    • am ei hymateb i'r awgrym bod y gofynion presennol i awdurdodau cynllunio lleol gynnal asesiad amgylcheddol o geisiadau am unedau dan 40,000 o leoedd adar yn annigonol er mwyn amddiffyn cynefinoedd a'r amgylchedd;
    • a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu ailystyried y trothwyon yn y dyfodol, fel yr awgrymwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru;
    • am ei hymateb i bryderon ynghylch y gallu a'r arbenigedd mewn awdurdodau cynllunio lleol i gynnal asesiadau amgylcheddol angenrheidiol yn ddigonol; ac
    • yn sgil yr uchod, a yw'n credu bod rheswm dros atal y sector hwn rhag ehangu ymhellach wrth wneud rhagor o waith ymchwil a thrafod rhagor o reolaethau posibl.

 

 

3.11

P-05-721 Deiseb Terfyn Cyflymder Penegoes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â deisebau P-05-767 a P-05-792 a chytunodd i gau'r deisebau yn sgil y sicrwydd a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth y bydd y deisebau a barn cymunedau lleol yn cael eu hystyried yn ystod yr Adolygiad Terfyn Cyflymder parhaus, a'r posibilrwydd na allai'r Pwyllgor Deisebau gymryd llawer o gamau pendant eraill.

 

 

3.12

P-05-767 Cefnffordd yr A487 Trwy Dre Taliesin: Angen Brys am Fesurau Effeithiol i Arafu Traffig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â deisebau P-05-767 a P-05-792 a chytunodd i gau'r deisebau yn sgil y sicrwydd a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth y bydd y deisebau a barn cymunedau lleol yn cael eu hystyried yn ystod yr Adolygiad Terfyn Cyflymder parhaus, a'r posibilrwydd na allai'r Pwyllgor Deisebau gymryd llawer o gamau pendant eraill.

 

 

3.13

P-05-792 Deiseb i ymestyn y terfyn cyflymder 40mya ym Mlaenporth.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â deisebau P-05-767 a P-05-792 a chytunodd i gau'r deisebau yn sgil y sicrwydd a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth y bydd y deisebau a barn cymunedau lleol yn cael eu hystyried yn ystod yr Adolygiad Terfyn Cyflymder parhaus, a'r posibilrwydd na allai'r Pwyllgor Deisebau gymryd llawer o gamau pendant eraill.

 

 

3.14

P-05-820 Peidiwch â chymryd Castell-nedd oddi ar y brif reilffordd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgil ymrwymiad a wnaed na fyddai Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynnig i leihau gwasanaethau i orsaf Castell-nedd, nac oddi yno, a llongyfarch y deisebwyr ar lwyddiant eu hymgyrch wrth wneud hynny.

 

 

3.15

P-05-823 Gostwng y terfyn cyflymder ar yr A487 ym Mhenparcau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghyd â sylwadau gan y deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn a oes cynlluniau, ar hyn o bryd, i wella'r A487 o ystyried ei phwysigrwydd strategol a'r ffaith ei bod yn mynd drwy nifer fawr o bentrefi lle mae pryderon ynglŷn â chyflymder y traffig.

 

 

3.16

P-05-732 Amseroedd Aros Annerbyniol ar gyfer Cleifion y GIG yn Adran Damweiniau ac Achosion Brys Wrecsam/Ysbyty Wrecsam Maelor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Gyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru a chytunodd i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am bwnc y ddeiseb ers gohebiaeth flaenorol, ac am fanylion ei ymateb i ganfyddiadau ac argymhellion Adolygiad Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru i brofiad cleifion mewn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys a ffigurau diweddar sy'n ymwneud ag amseroedd aros yn Ysbyty Wrecsam Maelor.

 

 

3.17

P-05-751 Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol a Chadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ynghyd â sylwadau'r deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Cafcass Cymru i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu canllawiau arfer newydd ac am fanylion sut yr ystyrir mabwysiadu dull Cafcass yn Lloegr, yn sgil y pryderon a fynegwyd gan y deisebwyr.

 

 

3.18

P-05-784 Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu - adnabyddiaeth a chefnogaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r deisebydd a chytunodd i lunio adroddiad ar y ddeiseb i'r Pwyllgor ei drafod.

 

 

3.19

P-05-795 Achosi Niwsans neu Aflonyddwch ar safleoedd y GIG

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a chytunodd i aros am ragor o wybodaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet fel y cynigiwyd yn ei ohebiaeth ddiweddaraf.

 

3.20

P-05-826 Mae sir Benfro yn dweud NA!! i gau adran damweiniau ac achosion brys Llwynhelyg!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda a chytunodd i drafod y ddeiseb eto yn dilyn y ddadl sydd i'w chynnal ar y ddeiseb hon yn fuan a chyfarfod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar 26 Medi.

 

 

3.21

P-05-783 Sicrhau Cydraddoldeb Cwricwlwm i Ysgolion Cyfrwng Cymraeg e.e. Seicoleg TGAU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Cymwysterau Cymru a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i rannu'r farn a fynegwyd gan y deisebydd a gofyn am safbwynt Llywodraeth Cymru ar y polisi a amlinellwyd gan Cymwysterau Cymru mewn perthynas â phynciau sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

 

3.22

P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ofyn am y wybodaeth ddiwetharaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg am waith sydd ar droed er mwyn:

  • gweithredu model Cymru ar gyfer pennu tâl ac amodau athrawon; a
  • diwygio manyleb y tendr ar gyfer asiantaethau.

 

 

3.23

P-05-821 Ailgyflwyno cyllid cymorth addysgol i awdurdodau lleol ar gyfer y Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig a’r Gwasanaeth Addysg i Deithwyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a'r deisebydd a chytunodd i rannu copi o adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar y mater hwn. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i dynnu sylw at y ddeiseb pan fydd y Pwyllgor hwnnw yn craffu'n fuan ar gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019/20.

 

 

3.24

P-05-803 Mae ein byd naturiol yn cael ei wenwyno gan blastigau untro...mae'n bryd cyflwyno treth!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a sylwadau gan y deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau'r DU ynghylch datblygu treth bosibl ar blastigau untro pan fo'n briodol.

 

 

 

3.25

P-05-822 Gwahardd gwellt plastig (wrth yfed llaeth) yn ein hysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a chytunodd ar y camau a ganlyn:

  • aros am ragor o wybodaeth gan CLlLC yn dilyn cyfarfod arfaethedig aelodau cabinet addysg awdurdodau lleol; a
  • cheisio rhagor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â gwaith parhaus gan swyddogion a'r treial a gaiff ei gynnal yn Sir Benfro yn y dyfodol.

 

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer gweddill y cyfarfod heddiw:

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

 

5.

Adroddiad drafft - P-05-690 Arwynebu Ffordd A40 Rhaglan-Y Fenni

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd yr Aelodau ar yr adroddiad drafft ar y ddeiseb.