Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 19/03/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-866 Ymgyrch Ymwybyddiaeth Gyhoeddus Sepsis - Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

  • ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Gwasanaeth Gwaed Cymru i rannu'r wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan y deisebwyr a gofyn :

·         pa ystyriaeth a roddwyd i rinweddau penodol ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus mewn perthynas â sepsis;

·         am wybodaeth am yr amserlen ar gyfer datblygu cofrestr sepsis yng Nghymru; ac

·         am ei farn ynghylch galwad y deisebwyr am strategaeth ar gyfer goroeswyr a theuluoedd sy'n dioddef yn sgil sepsis.

  • ysgrifennu at Iechyd Cyhoeddus Cymru i ofyn iddynt:

·         am fanylion eu gwaith parhaus mewn perthynas â sepsis, gan gynnwys datblygu cofrestr sepsis; a'r  

·         potensial ar gyfer cynyddu ymwybyddiaeth o sepsis ymhlith gweithwyr iechyd proffesiynol a'r cyhoedd.

2.2

P-05-867 Gwneud Murlun ‘Cofiwch Dryweryn' yn dirnod Cymreig dynodedig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         aros i gael barn y deisebydd ynghylch ymateb y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth; ac

  • ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog er mwyn :

·         gofyn am ddiweddariad ar ganlyniad y cyfarfod rhwng swyddogion, y cyngor cymuned a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol;

·         gofyn pa fesurau y gellid eu cymryd i ddiogelu'r murlun yn ffisegol; a

·         gofyn am wybodaeth ychwanegol am yr ystyriaeth flaenorol a roddwyd ynghylch a yw'r murlun yn bodloni'r meini prawf ar gyfer rhestru neu ddynodi fel heneb gofrestredig, a pha ystyriaeth a roddwyd i ddiweddaru'r meini prawf a ddefnyddir ar gyfer rhestru adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-05-786 Arbedwch ein cefn gwlad - dylid adolygu TAN 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i:

·         ysgrifennu at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch yr adolygiad cyflenwi tai drwy'r system gynllunio, syniad o'r amserlenni ar gyfer cwblhau'r adolygiad, a chadarnhad y bydd paragraff 6.2 TAN 1 yn parhau i fod wedi'i ddatgymhwyso yn ystod y cyfnod hwnnw; ac

·         ystyried cynnal sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog ar sawl deiseb sy'n gysylltiedig â chynllunio mewn cyfarfod yn y dyfodol.

3.2

P-05-843 Mwy o hawliau trydydd parti mewn apeliadau cynllunio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i:

  • ysgrifennu at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ofyn am ei hymateb i'r sylwadau ychwanegol a ddarparwyd gan y deisebydd a chynnwys y papur a luniwyd gan Glinig y Sefydliad Cyfraith Amgylcheddol Caerdydd; ac
  • ystyried cynnal sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog ar sawl deiseb sy'n gysylltiedig â chynllunio mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

 

 

 

3.3

P-05-845 Rhowch Derfyn ar Wrthdaro Buddiant yng Nghyfansoddiad Awdurdodau Lleol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach am y ddeiseb a chytunodd i gadw'r ddeiseb nes bod modd cynnal sesiwn dystiolaeth mewn cyfarfod yn y dyfodol gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar sawl deiseb sy'n gysylltiedig â chynllunio.

 

3.4

P-05-789 Adolygu cymorth i geiswyr lloches sy'n ymgymryd ag addysg bellach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y camau gweithredu perthnasol yn 'Cenedl Noddfa – Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches' Llywodraeth Cymru a chytunodd i:

  • aros am sylwadau gan y deisebydd ynglŷn â'r ymrwymiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru; ac
  • ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am ragor o fanylion am yr ymrwymiad i weithio tuag at newidiadau i'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg a'r Gronfa Ariannol Wrth Gefn er mwyn galluogi ceiswyr lloches i fod yn gymwys o dymor Medi 2020, a gofyn a ellid gwneud hyn o dymor 2019.

 

 

3.5

P-05-808 Ni ddylai Cymraeg fod yn orfodol i blant â dyslecsia ac anghenion arbennig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan riant arall ond, yng ngoleuni'r pwerau presennol sydd gan benaethiaid i ddatgymhwyso agweddau ar y Cwricwlwm Cenedlaethol dros dro, gan gynnwys y posibilrwydd o eithrio pynciau penodol dros dro, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.

 

3.6

P-05-822 Gwahardd gwellt plastig (wrth yfed llaeth) yn ein hysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth Cymru a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch canlyniad yr ymarfer peilot diweddar yn Sir Benfro, ac am unrhyw farn y mae Llywodraeth Cymru wedi dod iddi ynghylch y potensial ar gyfer ei weithredu'n ehangach.

 

3.7

P-05-832 Diwygio’r Cod Derbyn i Ysgolion ynghylch Plant a Anwyd yn ystod yr Haf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan nifer o awdurdodau lleol a'r deisebwyr, a chytunodd i ysgrifennu eto i ofyn am yr ymatebion sydd i ddod gan awdurdodau lleol fel mater o flaenoriaeth.

 

3.8

P-05-860 Dylid gwneud Gwersi Sgiliau Bywyd yn Orfodol ar y cwricwlwm

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog Addysg am y ddeiseb hon a P-05-861 Gwneud addysg wleidyddol yn elfen orfodol o'r cwricwlwm cenedlaethol newydd, a chytunodd i aros am farn y deisebwyr am y wybodaeth bellach a ddarparwyd gan y Gweinidog Addysg cyn penderfynu a yw'n gallu cymryd unrhyw gamau pellach ynghylch y deisebau.

 

3.9

P-05-861 Gwneud addysg wleidyddol yn elfen orfodol o'r cwricwlwm cenedlaethol newydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog Addysg am y ddeiseb hon a P-05-860 Dylid gwneud Gwersi Sgiliau Bywyd yn Orfodol ar y cwricwlwm, a chytunodd i aros am farn y deisebwyr am y wybodaeth bellach a ddarparwyd gan y Gweinidog Addysg cyn penderfynu a yw'n gallu cymryd unrhyw gamau pellach ynghylch y deisebau.

 

3.10

P-04-477 Cefnogi'r Bil Rheoli Cŵn (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i dderbyn cynnig y Gweinidog o ddiweddariad pellach maes o law ac i ystyried camau gweithredu pellach bryd hynny.

 

3.11

P-05-852 Cyflwyno trwydded i reoli tir ar gyfer saethu adar hela mewn ymgais i roi terfyn ar erlid adar ysglyfaethus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a chytunodd i aros am farn y deisebydd am hyn cyn ystyried unrhyw gamau pellach ynghylch y ddeiseb.

 

 

3.12

P-05-856 Rhaid gwahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob gwerthwr trydydd parti masnachol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a chytunodd i gadw llygad ar y mater hwn nes gweld canlyniad ymgynghoriad presennol Llywodraeth Cymru ar waharddiad, cyn ystyried unrhyw gamau pellach y gallai fod angen eu cymryd ynghylch y ddeiseb.

 

3.13

P-05-859 Dylid Darparu Tai Plant yng Nghymru i Blant sy'n Dioddef Camdriniaeth Rywiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Chomisiynydd Plant Cymru a chytunodd ar y camau a ganlyn:

  • gofyn barn y deisebydd am yr ymatebion a gafwyd; a
  • gofyn am wybodaeth ychwanegol am yr adolygiad o wasanaethau lloches a cham-drin rhywiol yng Nghymru a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog blaenorol.

 

3.14

P-05-836 Adroddiadau ar y Bwlch Cyflog rhwng y Rhyweddau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ymateb yn ysgrifenedig i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, gan nodi'r ymrwymiad y mae hi wedi'i fynegi i gydraddoldeb rhwng y rhyweddau a bod yn fwy agored, ond gan ofyn am syniad mwy eglur o'r amserlenni ar gyfer gwneud penderfyniadau mewn perthynas â'r gofynion ar gyrff cyhoeddus i wneud adroddiadau.