Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/05/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.  Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-873 Gwersi Cymraeg am ddim i bobl Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae ei ferch ar hyn o bryd yn astudio'r Gymraeg yn y Brifysgol a gall addysgu Cymraeg yn y dyfodol.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         aros am farn y deisebydd ar yr ymateb gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol; ac

·         ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog i ofyn a oes digon o gapasiti addysgu i gefnogi cynnydd yn y galw am wersi Cymraeg.

 

 

2.30

P-05-874 Gwahardd gwerthu nwyddau sydd wedi eu pecynnu mewn plastig untro ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

  • aros am farn y deisebydd ar yr ymateb gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth; ac
  • ysgrifennu at Trafnidiaeth Cymru i ofyn am eu barn ar y ddeiseb, gofyn am fanylion pellach am y mentrau y cyfeiriodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth atynt a gofyn a ellid ymgorffori targedau ar gyfer lleihau neu ddileu plastigau untro wrth gaffael gwasanaeth arlwyo di-elw.

 

2.3

P-05-875 Capio Codiadau Treth Gyngor yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ofyn eu barn ar y pwyntiau a nodwyd yn y ddeiseb a'r effaith bosibl yn sgil capio neu gyfyngu ar gynnydd mewn Treth Gyngor.

 

 

2.4

P-05-869 Datgan Argyfwng Hinsawdd a gosod targedau di-garbon ym mhob polisi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         ysgrifennu'n ôl at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ofyn am y diweddaraf am y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys ei datganiad o Argyfwng Hinsawdd ar 30 Ebrill, a'r cyngor diweddaraf a gyhoeddwyd gan Bwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd ddechrau mis Mai; ac

·         ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am y ddeiseb i gael ei thrafod yn y Cyfarfod Llawn.

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-05-717 Sefydlu Hawliau Mynediad Cyhoeddus Statudol i Dir a Dŵr Mewndirol at Ddibenion Hamdden a Dibenion Eraill

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ddatganiad ysgrifenedig gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol a gyhoeddwyd ar 4 Ebrill, a chytunodd i rannu sylwadau diweddaraf y deisebwyr gyda'r Dirprwy Weinidog i ofyn am ei barn ar y cynnwys, a gofyn am fwy o fanylion am fwriad Llywodraeth Cymru i ddatrys materion yn ymwneud â mynediad i ddyfroedd mewndirol yn dilyn ei datganiad ysgrifenedig.

 

3.2

P-05-847 Creu ffynhonnau dŵr yng nghanol dinasoedd a threfi er mwyn rhoi diwedd ar wastraff plastig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunwyd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ofyn am ei barn ar y pwyntiau a nodwyd.

 

3.3

P-05-867 Gwneud Murlun ‘Cofiwch Dryweryn' yn dirnod Cymreig dynodedig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         ysgrifennu at Gyngor Ceredigion i ofyn pa gyfraniad y gallai ei wneud i helpu i amddiffyn y murlun;

·         ysgrifennu at Gyngor Cymuned Llanrhystud i ofyn am wybodaeth am y gwaith y bydd yn ei arwain i benderfynu ar gynllun rheoli hirdymor, a'r amserlenni tebygol ar gyfer hyn; a

·         gofyn am y diweddaraf gan Lywodraeth Cymru maes o law.

 

3.4

P-05-748 Bysiau Ysgol i Blant Ysgol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at  Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am fanylion y camau perthnasol a gymerir gan Lywodraeth Cymru ers argymhelliad y Comisiynydd Plant y dylid adolygu Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i gynnig y dylid ymgorffori diogelwch disgyblion sy'n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus mewn adolygiad o'r fath.

 

 

3.5

P-05-783 Sicrhau Cydraddoldeb Cwricwlwm i Ysgolion Cyfrwng Cymraeg e.e. Seicoleg TGAU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at Cymwysterau Cymru a'r Gweinidog Addysg i ofyn am fwy o wybodaeth am y camau sy'n cael eu cymryd mewn perthynas â sicrhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg a Saesneg o'r dechrau o dan y cwricwlwm newydd.

 

3.6

P-05-789 Adolygu cymorth i geiswyr lloches sy'n ymgymryd ag addysg bellach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb, gan fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithredu'r camau y gofynnwyd amdanynt yn y ddeiseb o fis Medi 2020. Diolchodd yr Aelodau i'r deisebydd am godi'r mater hwn a llongyfarchodd hi ar lwyddiant y ddeiseb.

 

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog Addysg i ofyn iddi ailystyried a ellid cyflwyno'r newid hwn o fis Medi 2019.

 

 

3.7

P-05-802 Amddiffyn Maint Dosbarthiadau mewn Ystafelloedd Dosbarth a Gweithdai Dylunio a Thechnoleg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Addysg i gwestiynu pa mor effeithiol y bydd yr erthygl yng nghylchlythyr Dysg wrth atgoffa arweinwyr ysgolion i ailystyried asesiadau risg yn ymwneud â dosbarthiadau Dylunio a Thechnoleg, a gofyn pam na ellir cynhyrchu canllawiau mewn perthynas â'r pwnc hwn.

 

3.8

P-05-821 Ailgyflwyno cyllid cymorth addysgol i awdurdodau lleol ar gyfer y Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig a’r Gwasanaeth Addysg i Deithwyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb gan fod Llywodraeth Cymru wedi adfer y grant ar gyfer y gwasanaethau hyn yn 2018-19 a 2019-20, a gwaith craffu y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyllideb Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Grant Gwella Addysg.

 

3.9

P-05-828 Rhagdybiaeth o blaid ysgolion gwledig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn am bapur yn amlinellu'r gwaith craffu a roddwyd ar fater apeliadau yn erbyn cau ysgolion ar yr adeg y pasiwyd Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ynghyd ag opsiynau ar gyfer bwrw ymlaen ag ystyried rhinweddau mecanwaith apelio ymhellach.

 

3.10

P-05-860 Dylid gwneud Gwersi Sgiliau Bywyd yn Orfodol ar y cwricwlwm

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddiseb ynghyd â deiseb P-05-861 Gwneud addysg wleidyddol yn elfen orfodol o'r cwricwlwm cenedlaethol newydd, a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog Addysg i ofyn am y canlynol:

·         sefydlu datrysiad dros dro, naill ai drwy'r cwricwlwm ABCh cyfredol neu Fagloriaeth Cymru, i gefnogi pobl ifanc a allai fod yn pleidleisio am y tro cyntaf yn 2021; ac

·         ystyried ffyrdd eraill y gall pobl ifanc gael gafael ar wybodaeth mewn perthynas ag addysg wleidyddol y tu allan i gwricwlwm yr ysgol, er enghraifft trwy leoliadau gwaith ieuenctid.

 

3.11

P-05-861 Gwneud addysg wleidyddol yn elfen orfodol o'r cwricwlwm cenedlaethol newydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddiseb ynghyd â deiseb P-05-860 Dylid gwneud Gwersi Sgiliau Bywyd yn Orfodol ar y Cwricwlwm, a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog Addysg i ofyn am y canlynol:

  • sefydlu datrysiad dros dro, naill ai drwy'r cwricwlwm ABCh cyfredol neu Fagloriaeth Cymru, i gefnogi pobl ifanc a allai fod yn pleidleisio am y tro cyntaf yn 2021; ac
  • ystyried ffyrdd eraill y gall pobl ifanc gael gafael ar wybodaeth mewn perthynas ag addysg wleidyddol y tu allan i gwricwlwm yr ysgol, er enghraifft trwy leoliadau gwaith ieuenctid.

 

 

3.12

P-05-806 Rydym yn galw am roi rhif Tystysgrif Mynediad i bob safle busnes yng Nghymru, yn debyg i'r Dystysgrif Hylendid Bwyd.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip a chytunodd i dderbyn y cynnig o gael diweddariad ar gynnydd a gofyn amdano, a diweddariad gan y deisebwyr ac Anabledd Cymru, ar ddechrau tymor yr hydref.

 

3.13

P-05-864 Gwahardd y defnydd o 'Bensaernïaeth Elyniaethus'

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at elusennau digartrefedd i ofyn am eu barn ar y materion a nodwyd yn y ddeiseb ac effaith a nifer yr achosion o bensaernïaeth elyniaethus i atal cysgu allan yng Nghymru.

 

3.14

P-05-754 Diffyg cymorth i blant ag anableddau mewn argyfwng

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn pa ddarpariaeth sydd ar gyfer plant ag awtistiaeth neu anawsterau dysgu, mewn achosion lle nad cymorth iechyd meddwl yw'r ateb mwyaf priodol.

 

3.15

P-05-842 Rhowch lais i bobl ifanc yn y broses o gomisiynu gwasanaethau lleol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

·         ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i:

o   dderbyn y cynnig o ddiweddariad pellach ar y gwaith sydd ar y gweill;

o   gofyn amdano erbyn dechrau tymor yr hydref; a

o   rhannu pryderon y deisebwyr nad yw'n ymddangos bod y gweithgor yn cynnwys cynrychiolaeth gan blant a phobl ifanc; a

·         thrafod a yw'n bosibl ymgysylltu â Senedd Ieuenctid y Cynulliad ar y materion a nodwyd.

 

3.16

P-05-846 Achub ein Hysbyty Tywysog Philip Llanelli

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb ac, o gofio nad yw'n glir ar hyn o bryd bod unrhyw fygythiad sylweddol i ddarpariaeth gwasanaeth yn Ysbyty Tywysog Phillip neu yn Llanelli o'r wybodaeth a ddaeth i law, cytunodd i gysylltu â'r deisebwyr i ofyn:

·         a fyddai'n well ganddynt i'r Pwyllgor gadw golwg ar y newidiadau sy'n effeithio ar Ysbyty Tywysog Philip ac adolygu'r ddeiseb tua diwedd y flwyddyn; neu

·         cau'r ddeiseb ar hyn o bryd, er mwyn galluogi deiseb yn y dyfodol petai'r sefyllfa hon yn newid.

 

 

3.17

P-05-859 Dylid Darparu Tai Plant yng Nghymru i Blant sy'n Dioddef Camdriniaeth Rywiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am:

·         ddiweddariad ar y gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru a GIG Cymru;

·         ei myfyrdodau yn dilyn y ddadl a gynhaliwyd ar 3 Ebrill a pha newidiadau y gallai eu hystyried yn dilyn y bleidlais o blaid cynnig deddfwriaethol Bethan Sayed AC; a

·         rhannu copi o'r sylwadau a dderbyniwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru a gofyn am ei hymateb i'r pwyntiau a nodwyd, yn enwedig y pryderon am Ganolfannau Cyfeirio Camdriniaeth Rywiol.

 

3.18

P-05-865 Dylid gwarantu bod dewisiadau sy’n seiliedig yn llwyr ar blanhigion ar bob bwydlen y sector cyhoeddus, i ddiogelu hawliau figaniaid ac er budd ein hiechyd, yr amgylchedd ac anifeiliaid.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:

·         Weinidog yr Amgylchedd i ofyn iddi ymgorffori'r mater hwn yng ngwaith Llywodraeth Cymru yn dilyn ei datganiad diweddar o argyfwng newid yn yr hinsawdd; ac

·         y Gweinidog Addysg a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddiolch iddynt am y wybodaeth a ddarparwyd, ond gofyn a yw hyn yn golygu y byddent yn disgwyl i bob bwydlen ddyddiol mewn lleoliadau ysgol ac ysbyty gynnwys opsiynau bwyd llysieuol a fegan.