Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 25/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-938 Gwneud i brifysgolion Cymru ystyried Bagloriaeth Cymru fel Safon Uwch

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         nodi’r gwaith a wnaed gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar statws Bagloriaeth Cymru; ac

·         ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Addysg i ofyn am fanylion ynghylch sut mae’r gwaith o lunio rhestr o brifysgolion sy’n derbyn Bagloriaeth Cymru yn eu cynigion yn dod yn ei flaen, a gofyn am ymateb i’r pwyntiau pellach a godwyd yng ngohebiaeth y deisebydd.

 

2.2

P-05-939 Gosod embargo ar unwaith ar drwyddedau bridio cŵn newydd, ar adnewyddu trwyddedau ac ar geisiadau cynllunio nes bod y rheoliadau'n addas i’r diben a nes bod modd eu gorfodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am gyhoeddiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynglŷn â’r camau iw cymryd ar ôl yr adolygiad o reoliadau bridio cŵn.

 

2.3

P-05-941 Cylch gwaith bioamrywiaeth ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i roi’r sylwadau manwl a ddarparwyd gan y deisebwyr i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a Chyfoeth Naturiol Cymru a gofyn am ymatebion i'r pwyntiau a godwyd, yn benodol yr awgrym y dylid cynnwys cyfeiriad penodol at fioamrywiaeth yn llythyr cylch gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

3.

Diweddariadau i ddeisebau blaenorol

3.1

P-04-477 Cefnogi'r Bil Rheoli Cŵn (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i gau’r ddeiseb yn sgil faint o amser y mae wedi bod o dan ystyriaeth a gan fod y pwerau deddfwriaethol ynghylch y mater hwn bellach wedi’u cadw yn ôl i Senedd y DU o dan Ddeddf Cymru 2017. Diolchodd y Pwyllgor i'r deisebydd am godi’r mater hwn trwy’r broses ddeisebau.

 

3.2

P-05-839 Dylid troi canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ynghylch llygredd aer yn gyfraith yng Nghymru a chyflwyno Deddf Aer Glân newydd i Gymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i gau’r ddeiseb gan fod Llywodraeth Cymru wrthi’n ymgynghori ar Gynllun Aer Glân ar hyn o bryd ac yn bwriadu cyhoeddi Papur Gwyn ar Ddeddf Aer Glân cyn diwedd y tymor Cynulliad hwn. Yn sgil y cyfyngiadau ymarferol ar basio deddfwriaeth cyn etholiad 2021, a’r ymrwymiadau a wnaed gan y Gweinidog, daeth yr Aelodau i’r casgliad nad oes llawer mwy y gall y Pwyllgor Deisebau ei gyflawni ar yr adeg hon. Roedd y Pwyllgor am ddiolch i’r deisebwyr am eu hymgysylltiad a dymuno’n dda iddynt ar gyfer y dyfodol.

 

3.3

P-05-895 Etifeddiaeth Rosa: Dylid cyflwyno cynllun i helpu pobl i gael hawl i ofal milfeddygol ar gyfer eu hanifeiliaid anwes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor wybodaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ofyn:

·         sut mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i’r argymhellion yn y llythyr gan Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru; ac

·         i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy'n cael ei wneud gan Rwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru ar ddarpariaeth filfeddygol, cymorth a chyngor.

 

3.2

P-05-786 Arbedwch ein cefn gwlad – dylid adolygu TAN 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-05-881 Trwsio ein system gynllunio a chytunwyd i aros am gyhoeddiad ynghylch penderfyniadau’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn dilyn yr ymgynghoriad ar y diwygiadau i adran dai Polisi Cynllunio Cymru, a ddaeth i ben ym mis Tachwedd 2019 cyn gwneud unrhyw benderfyniadau pellach.

 

3.3

P-05-881 Trwsio ein system gynllunio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-05-786 Arbedwch ein cefn gwlad - dylid adolygu TAN 1 a chytunwyd i aros am gyhoeddiad pellach ynghylch penderfyniadau’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn dilyn yr ymgynghoriad ar y diwygiadau i adran dai Polisi Cynllunio Cymru, a ddaeth i ben ym mis Tachwedd 2019 cyn gwneud unrhyw benderfyniadau pellach.

 

 

3.4

P-05-903 Ffilmio a Recordio Cyfarfodydd Cyngor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i aros am arweiniad newydd a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru ynghylch cynyddu ymgysylltiad y cyhoedd yng ngwaith cynghorau cymuned a chynghorau tref a ddisgwylir ym mis Mawrth 2020.

 

3.5

P-05-736 Darparu Gwasanaethau Iechyd Meddwl Mwy Hygyrch

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y camau sy'n ymrwymo i wella mynediad at wasanaethau iechyd meddwl yng Nghynllun Cyflenwi Law yn Llaw at Iechyd Meddwl 2019-2022, fel yr argymhellir yn adroddiad y Pwyllgor ar y ddeiseb hon. O ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion y Pwyllgor, ac wedi gwneud nifer o ymrwymiadau i wella mynediad at ofal mewn argyfwng, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolchodd i'r deisebydd am ei hymrwymiad i wella gwasanaethau.

 

3.6

P-05-764 Gwell Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Oedolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

O ystyried bod y Pwyllgor wedi cyhoeddi adroddiad ar wella gwasanaethau iechyd meddwl ac wedi gwneud argymhellion a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru, ac oherwydd na chafwyd unrhyw sylwadau pellach gan y deisebydd, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.

 

3.7

P-05-812 Dylid gweithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn:

·         sut mae Llywodraeth Cymru’n ystyried argymhellion a gynhyrchwyd yn ddiweddar yn natganiad safbwynt Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ar Anhwylderau Personoliaeth (Saesneg yn unig), a

·         pha gamau y gall y Gweinidog eu cymryd yn erbyn byrddau iechyd y dangosir nad ydynt yn “ystyried canllawiau clinigol NICE yn llawn.”

 

3.8

P-05-902 Iechyd Meddwl Tadau (Iechyd Meddwl Tadau Newydd)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor fod gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yn cael eu hystyried yn flaenoriaeth allweddol yn y Cynllun Cyflenwi Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, sy’n cynnwys gwaith yn ymwneud â chefnogi tadau. Gan fod y deisebydd yn fodlon â’r cynnydd a wnaed, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolchodd i’r deisebydd am gyflwyno’r mater.

 

3.9

P-05-860 Dylid gwneud gwersi sgiliau bywyd yn orfodol ar y cwricwlwm

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb yn sgil gwaith Senedd Ieuenctid Cymru ar y pwnc hwn, ac i annog y deisebydd i ymgysylltu â’r Senedd Ieuenctid fel rhan o’i waith parhaus.

 

3.10

P-05-861 Gwneud addysg wleidyddol yn elfen orfodol o'r cwricwlwm cenedlaethol newydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y gwaith a wnaed gan Senedd Ieuenctid Cymru ar sgiliau bywyd yn y cwricwlwm (gan gynnwys addysg wleidyddol), cyflwyniad llawn y cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru sydd ar y gweill, a chynnwys addysg wleidyddol yn rhan o Fagloriaeth Cymru, a chytunwyd i gau'r ddeiseb a diolchodd i'r deisebydd am ei chysylltiad.

 

3.11

P-05-879 Dylid ychwanegu addysg iechyd meddwl at y cwricwlwm addysgu gorfodol ar gyfer pob ysgol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb yn sgil y gwaith craffu a wnaed ar y materion hyn drwy ymchwiliad Cadernid Meddwl y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y flaenoriaeth gynyddol a roddir i iechyd meddwl yn y cwricwlwm newydd, a'r diffyg ymateb gan y deisebydd yn ddiweddar. Roedd y Pwyllgor am ddiolch i’r deisebwyr am eu hymgysylltiad a dymuno’n dda iddynt ar gyfer y dyfodol.

 

3.12

P-05-888 Gwneud TGAU Iaith Gymraeg yn orfodol ym mhob ysgol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a ddiolchodd i'r deisebydd am godi’r mater trwy’r broses ddeisebau.

 

3.13

P-05-925 Addysgu Llesiant Mislifol mewn Ysgolion: Peidio â Gadael Cymru Tu Ôl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ragor o ohebiaeth a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Addysg i rannu’r pryderon a fynegwyd gan Endometriosis UK ac i ofyn am ymateb i’r cwestiynau maent yn eu codi o ran sut y rhoddir gwybodaeth i ddisgyblion am y cylchred mislifol a llesiant mislifol.

 

3.14

P-05-913 Creu Llwybr Amlddefnydd Lôn Las Môn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu at Network Rail i ofyn am wybodaeth am statws presennol y trafodaethau ynghylch defnyddio’r lein yn y dyfodol, a’r amserlenni ar gyfer gwneud unrhyw benderfyniadau.

 

3.20

P-05-887 Atal Aelodau Cynulliad rhanbarthol a etholwyd i gynrychioli pleidiau penodol rhag newid pleidiau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Neil McEvoy a Michelle Brown y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Maent yn Aelodau Cynulliad rhanbarthol nad ydynt yn aelodau mwyach o’r pleidiau y cawsant eu hethol i’w cynrychioli.

 

 

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb gan fod Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2019 wedi’i phasio, ac oherwydd diffyg cysylltiad â’r deisebydd.