Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Williams  Deputy Clerk: Ruth Hatton

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

2.

Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

Cofnodion:

2.0a Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau a chytunodd y bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad.

2.1

SL(5)008 - Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) 2016

CLA(5)-05-16 – Papur 1 – Adroddiad

CLA(5)-05-16 – Papur 2 – Rheoliadau

CLA(5)-05-16 – Papur 3 – Memorandwm Esboniadol [Saesneg yn unig]

 

Dogfennau ategol:

2.2

SL(5)009 - Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Dosbarthau Esempt ar Leoedd Tân) (Cymru) 2016

CLA(5)-05-16 – Papur 4 – Adroddiad

CLA(5)-05-16 – Papur 5 – Gorchymyn

CLA(5)-05-16 – Papur 6 – Memorandwm Esboniadol [Saesneg yn unig]

Dogfennau ategol:

3.

Papur(au) i'w nodi

3.1

Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru): Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

CLA(5)-05-16 – Papur 7 - Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, 13 Medi 2016

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

3.2

Adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru: Cyfiawnder yng Nghymru

CLA(5)-05-16 - Papur 8 – Datganiad i’r wasg ar yr adroddiad Cyfiawnder yng Nghymru gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, 12 Medi 2016

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2a Nododd y Pwyllgor yr adroddiad a chytunodd i:

·         ofyn am gyfarfod anffurfiol gyda Chanolfan Llywodraethiant Cymru i drafod yr adroddiad a gwaith y Pwyllgor a'i rhagflaenodd ar y mater; a

·         dychwelyd at y mater y tro nesaf y bydd yr Aelodau’n trafod blaenraglen waith y Pwyllgor.

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

(vi) lle mae’r pwyllgor yn cyd-drafod cynnwys, casgliadau neu argymhellion adroddiad y mae’n bwriadu ei gyhoeddi; neu’n ymbaratoi i gael tystiolaeth gan unrhyw berson.

 

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

5.

Bil Cymru

CLA(5)-05-16 – Papur 9 – Adroddiad drafft [Saesneg yn unig]

CLA(5)-05-16 – Papur 10 – Gwelliannau a gyflwynwyd yn Nhŷ'r Cyffredin [Saesneg yn unig]

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar Fil Cymru.