Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 06/01/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

14.30

1.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i ethol Cadeirydd Pwyllgor dros dro

Cofnodion:

Oherwydd bod Mick Antoniw, Cadeirydd y Pwyllgor wedi anfon ei ymddiheuriadau, gofynnodd y Clerc am enwebiadau ar gyfer ethol Cadeirydd dros dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22. Enwebodd Carwyn Jones Dai Lloyd, a etholwyd yn briodol.

 

14.30

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Mick Antoniw AC.

 

14.35-14.40

3.

Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad yn eu cylch i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

3.1

SL(5)482 - Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Canfasiad Blynyddol) (Diwygio) (Cymru) 2020

CLA(5)-01-20 – Papur 1 – Adroddiad

CLA(5)-01-20 – Papur 2 – Rheoliadau

CLA(5)-01-20 – Papur 3 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-01-20 – Papur 4 – Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

3.2

SL(5)478 - Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019

CLA(5)-01-20 – Papur 5 – Adroddiad

CLA(5)-01-20 – Papur 6 – Rheoliadau

CLA(5)-01-20 – Papur 7 – Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

3.3

SL(5)481 - Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Blaendal Cadw) (Gwybodaeth Benodedig) (Cymru) 2019

CLA(5)-01-20 – Papur 8 – Adroddiad

CLA(5)-01-20 – Papur 9 – Rheoliadau

CLA(5)-01-20 – Papur 10 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-01-20 – Papur 11 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd at y Llywydd, 6 Rhagfyr 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

3.4

SL(5)484 - Gorchymyn Pysgota am Gregyn Moch (Cymru) (Diwygio) 2019

CLA(5)-01-20 – Papur 12 – Adroddiad

CLA(5)-01-20 – Papur 13 – Gorchymyn

CLA(5)-01-20 – Papur 14 – Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd ac i dynnu sylw at faterion o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE.

 

14.40-14.45

4.

Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol

4.1

SL(5)476 - Rheoliadau Cig (Ffioedd Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) (Diwygio) 2019

CLA(5)-01-20 – Papur 15 – Adroddiad

CLA(5)-01-20 – Papur 16 - Ymateb Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad, ynghyd ag ymateb y Llywodraeth, a chytunodd i gywiro’r camgymeriadau a nodwyd yn yr adroddiad drafft, ac i adrodd i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

14.45-14.50

5.

Is-ddeddfwriaeth nad yw’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.7

CLA(5)-01-20 – Papur 17 – Is-ddeddfwriaeth sydd ag adroddiadau clir

 

Dogfennau ategol:

5.1

SL(5)479 - Cod Ymarfer ar gyfer Lles Ieir Bwyta ac Ieir Bwyta at Fridio

5.2

SL(5)480 - Cod Ymarfer ar gyfer Lles Ieir Dodwy a Chywennod

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr is-ddeddfwriaeth ac roedd yn fodlon.

 

14.50-14.55

6.

Offerynnau statudol y mae angen i’r Cynulliad gydsynio â hwy (Memoranda Cydsyniad Offeryn Statudol)

6.1

SICM(5)27 - Rheoliadau Deddf Peilotiaeth 1987 (Diwygio) 2019

CLA(5)-01-20 – Papur 18 – Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol

CLA(5)-01-20 – Papur 19 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-01-20 – Papur 20 – Rheoliadau

CLA(5)-01-20 – Papur 21 – Llythyr gan y Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, 17 Rhagfyr 2019

CLA(5)-01-20 – Papur 22 – Nodyn Cyngor Cyfreithiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol ac roedd yn fodlon arno. Cytunodd y Pwyllgor i osod ei adroddiad gerbron y Cynulliad maes o law.

 

14.55-15.00

7.

Papur(au) i'w nodi

7.1

Llythyr gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Gwaith craffu’r Cynulliad ar gytundebau rhyngwladol

CLA(5)-01-20 – Papur 23 – Llythyr gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, 9 Rhagfyr 2019

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol.

 

7.2

Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at y Llywydd: Tynnu Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) (Diwygio) 2019 yn ôl

CLA(5)-01-20 – Papur 24 – Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at y Llywydd, 11 Rhagfyr 2019

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ac, mewn sesiwn breifat, cytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes ynghylch tynnu offerynnau a osodwyd gerbron y Cynulliad yn ôl.

 

7.3

Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Rheoliadau'r DU yn ymwneud â gadael yr Undeb Ewropeaidd

CLA(5)-01-20 – Papur 25 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, 17 Rhagfyr 2019

CLA(5)-01-20 – Papur 26 – Llythyr at Glerc y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, 2 Rhagfyr 2019

CLA(5)-01-20 – Papur 27 – Llythyr at y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, 22 Tachwedd 2019

CLA(5)-01-20 – Papur 28 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, 11 Tachwedd 2019

CLA(5)-01-20 – Papur 29 – Llythyr at y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, 18 Hydref 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd.

 

7.4

Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: Rheoliadau’r Rhaglen Ewrop Greadigol a’r Rhaglen Ewrop i Ddinasyddion (Dirymu) (Ymadael â’r UE) 2019

CLA(5)-01-20 – Papur 30 – Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, 19 Rhagfyr 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.

 

7.5

Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2020

CLA(5)-01-20 – Papur 31 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, 20 Rhagfyr 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd.

 

15.00

8.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

15.00-15.10

9.

Bil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) - sesiwn friffio

CLA(5)-01-20 – Papur briffio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad byr ar hynt Bil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael)