Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/11/2017 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Sefydlog 17.24A, datganodd y Cadeirydd Mick Antoniw AC fuddiant perthnasol mewn perthynas ag SL(5)150 - Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2017. Hysbysodd y Pwyllgor na fyddai'n cymryd rhan yn y trafodion ar gyfer yr eitem honno. 

 

2.

Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru): Tystiolaeth gan y Gweinidog Tai ac Adfywio

Rebecca Evans, y Gweinidog Tai ac Adfywio

Ian Williams, Llywodraeth Cymru

Katie Wilson, Llywodraeth Cymru

 

CLA(5)-27-17 - Papur 1 - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ynglŷn â bwriad Polisi (Saesneg yn unig)

CLA(5)-27-17 - Briff y Gwasanaethau Cyfreithiol

 

Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru), fel y'i cyflwynwyd (PDF 121KB):

Memorandwm Esboniadol (PDF 1MB)

 

Dogfennau ategol:

3.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys unrhyw faterion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

CLA(5)-27-17 – Papur 2 – Offerynnau statudol sydd ag adroddiadau clir

 

Dogfennau ategol:

3.1

SL(5)143 - Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Gweinyddu) (Cymru) 2017

3.2

CLA(5)145 - Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol a Chytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) (Diwygio) 2017

3.3

SL(5)146 - Gorchymyn Adnoddau Dŵr (Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2017

3.4

SL(5)142 - Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Datgelu a Ganiateir) (Cymru) 2017

3.5

SL(5)151 - Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2017

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau ac roedd yn fodlon arnynt.

 

4.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

4.1

SL(5)144 - Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2017

CLA(5)-27-17 – Papur 3 – Rheoliadau (Saesneg yn unig)

CLA(5)-27-17 – Papur 4 – Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)

CLA(5)-27-17 – Papur 5 – Adroddiad

 

Dogfennau ategol:

4.2

SL(5)147 - Rheoliadau Tynnu Dŵr (Darpariaethau Trosiannol) 2017

CLA(5)-27-17 – Papur 6 – Rheoliadau (Saesneg yn unig)

CLA(5)-27-17 – Papur 7 – Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)

CLA(5)-27-17 – Papur 8 – Adroddiad

 

Dogfennau ategol:

4.3

SL(5)148 - Rheoliadau Tynnu Dŵr a'i Gronni (Esemptiadau) 2017

CLA(5)-27-17 – Papur 9 – Rheoliadau (Saesneg yn unig)

CLA(5)-27-17 – Papur 10 – Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)

CLA(5)-27-17 – Papur 11 – Adroddiad

 

Dogfennau ategol:

4.4

SL(5)149 - Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017

CLA(5)-27-17 – Papur 12 – Rheoliadau (Saesneg yn unig)

CLA(5)-27-17 – Papur 13 – Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)

CLA(5)-27-17 – Papur 14 – Adroddiad

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr offerynnau a bydd yn adrodd i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

5.

MCOS(5)1 - Memorandwm Cydsynio Offeryn Statudol

CLA(5)27-17 Papur 15 – Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

CLA(5)27-17 Papur 16 - Memorandwm Cydsynio Offeryn Statudol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol a chytunodd i'w ystyried mewn sesiwn breifat.

 

6.

Papurau i’w nodi

6.1

Newid yr Aelod sy'n gyfrifol am Filiau

CLA(5)-27-17 – PTN1 – Llythyr gan Brif Weinidog Cymru - 9 Tachwedd 2017

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog.

 

6.2

Llythyr at Lywodraeth y DU ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael):

CLA(5)-27-17 - PTN2 -  Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol at Ysgrifennydd Gwladol Cymru a'r Is-ysgrifennydd Seneddol ar gyfer Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd - 9 Tachwedd 2017 (Saesneg yn unig)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor lythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol at Ysgrifennydd Gwladol Cymru a'r Is-ysgrifennydd Seneddol ar gyfer Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 17.47, gohiriodd y Cadeirydd y cyfarfod i ganiatáu ar gyfer enwebiadau Cadeirydd dros dro.

 

7.

Ethol Cadeirydd dros dro o dan Reol Sefydlog 17.22

Cofnodion:

Gofynnodd y Clerc am enwebiadau ar gyfer Cadeirydd dros dro. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.22, enwebodd Dai Lloyd AC David Melding AC. Etholwyd David Melding yn Gadeirydd Dros Dro ar gyfer eitemau 8 a 9.

 

8.

Offeryn sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

8.1

SL(5)150 - Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2017

CLA(5)-27-17 – Papur 17 – Rheoliadau (Saesneg yn unig)

CLA(5)-27-17 – Papur 18 – Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)

CLA(5)-27-17 – Papur 19 – Adroddiad (Saesneg yn unig)

CLA(5)-27-17 - Papur 20 - Llythyr gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (Saesneg yn unig)

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr offeryn a bydd yn adrodd i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. Cytunodd y Pwyllgor i ystyried ymateb Llywodraeth Cymru yn ei gyfarfod nesaf.

 

9.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitemau 10 ac 11

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

10.

Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru): trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Ystyriodd y pwyllgor y dystiolaeth a dderbyniwyd mewn perthynas â'r Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru).

 

11.

Blaenraglen waith

CLA(5)27-17 - Papur 21 – Blaenraglen waith (Saesneg yn unig)

CLA(5)27-17 - Papur 22 - Llais Cryfach i Gymru: Adroddiad drafft (Saesneg yn unig)

CLA(5)27-17 - Papur 23 - Llythyr gan y Llywydd at y Cadeirydd ynghylch Anghymhwyso - 26 Hydref 2017

CLA(5)27-17 - Papur 24 - Llythyr gan y Cadeirydd at y Llywydd - 4 Hydref 2017

CLA(5)27-17 - Papur 25 - Llythyr gan y Llywydd at y Cadeirydd – 18 Awst 2017

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith a chytunodd arni.