Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/01/2018 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Yn dilyn ymddiswyddiad Nathan Gill fel Aelod Cynulliad, hysbysodd y Cadeirydd fod lle gwag ar y Pwyllgor yn unol â Rheol Sefydlog 17.11. Diolchodd y Cadeirydd i Nathan am ei waith ar y Pwyllgor.

 

Fe wnaeth y Cadeirydd longyfarch David Melding AC ar ran y Pwyllgor ar dderbyn CBE yn anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd.

 

2.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3

CLA(5)-01-18 – Papur 1 – Offerynnau statudol sydd ag adroddiadau clir

 

Dogfennau ategol:

2.1

SL(5)156 - Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2017

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

 

3.

Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

3.1

SL(5)166 - Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2018

CLA(5)-01-18 – Papur 2 – Gorchymyn

CLA(5)-01-18 – Papur 3 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-01-18 – Papur 4 – Adroddiad

CLA(5)-01-18 – Papur 5 – Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

4.

SICM(5)2 - Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol

CLA(5) – Papur 6 – Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol

CLA(5) – Papur 7 - SICM(5)2 - Rheoliadau Rheoli Mercwri (Gorfodi) 2017

CLA(5) – Papur 8 - SICM(5)2 – Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i drafod adroddiad drafft mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

5.

Papurau i’w nodi

5.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Ymchwiliad i hawliau dynol yng Nghymru

CLA(5)-01-18 – Papur 9  Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

5.2

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: y wybodaeth ddiweddaraf am Anghenion Dysgu Ychwanegol

CLA (5)-01-18 - Papur 10 - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf.

 

6.

Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

CLA(5)-01-18 – Papur 11 – Llythyr i Arweinydd y Tŷ ynglŷn â defnyddio pwerau gwneud is-ddeddfwriaeth sy'n rhan o Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) Llywodraeth y DU.

CLA(5)-01-18 – Papur 12 - Llythyr gan Arweinydd y Tŷ ynglŷn â defnyddio pwerau gwneud is-ddeddfwriaeth sy'n rhan o Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) Llywodraeth y DU.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

 

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

8.

Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael): Hynt Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

CLA(5)-01-18 – Papur 13 - Cynnydd Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

 

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried hynt y Bil.

 

9.

Y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru): Adroddiad drafft

CLA(5)-01-18 – Papur 14 – Adroddiad drafft

 

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd i drafod fersiwn ddiwygiedig yn y cyfarfod ar 22 Ionawr 2018.

 

10.

Ymchwiliad Llais Cryfach i Gymru: Panel arbenigol yn trafod yr Adroddiad Drafft

CLA(5)-01-18 – Papur 15 – Fersiwn ddrafft o'r adroddiad i'r Panel Arbenigol

CLA(5)-01-18 – Papur 16 – Casgliadau ac argymhellion y Pwyllgor, 4 Rhagfyr 2017

CLA(5)-01-18 – Papur 17 – Sylwadau gan yr Athro Rick Rawlings

CLA(5)-01-18 – Papur 18 – Sylwadau gan yr Athro Laura McAllister

 

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ynghyd â sylwadau gan y Panel Arbenigol.

Ymunodd yr Athro Rick Rawlings â'r Pwyllgor.

 

11.

Blaenraglen Waith

CLA(5)-01-18 – Papur 19 – Blaenraglen Waith

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y flaenraglen waith.