Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 25/06/2018 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan David Melding AC.

 

2.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3

CLA(5)-18-18 – Papur 1 – Offerynnau statudol sydd ag adroddiadau clir

 

Dogfennau ategol:

2.1

SL(5)229 - Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hepgoriadau o’r Gofrestr a Gyhoeddwyd) (Cymru) 2018

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

 

3.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3 ond sydd â goblygiadau o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE

3.1

SL(5)227 - Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018

CLA(5)-18-18 – Papur 2 – Adroddiad

 

Dogfennau ategol:

3.2

SL(5)228 – Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2018

CLA(5)-18-18 – Papur 3 – Adroddiad

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau a bydd yn adrodd i'r Cynulliad i dynnu sylw at y materion sy'n ymwneud â'r DU yn gadael yr UE.

 

4.

Papurau i’w nodi

4.1

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: SL(5)208 - Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2018

CLA(5)-18-18 – Papur 4 – Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig.

 

4.2

Gohebiaeth mewn perthynas â Bil yr UE (Ymadael) a'r Cytundeb Rhynglywodraethol

CLA(5)-18-18 – Papur 5 – Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

CLA(5)-18-18 – Papur 6 – Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid at y Cadeirydd

CLA(5)-18-18 – Papur 7 – Ymateb i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth mewn perthynas â Bil yr UE (Ymadael) a'r Cytundeb Rhynglywodraethol, a dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at gael eglurhad pellach gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid.

 

4.3

Llythyr gan y Llywydd: Llywodraethiant yn y DU ar ôl ymadael â'r Undeb Ewropeaidd

CLA(5)-18-18 – Papur 8 – Llythyr gan y Llywydd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd a chytunodd i ysgrifennu at y Sefydliad Llywodraethu yn amlygu'r argymhelliad yn adroddiad y Pwyllgor ar Lywodraethiant yn y DU ar ôl ymadael â'r UE o ran Cynhadledd i Lefarwyr.

 

4.4

Gohebiaeth mewn cysylltiad ag ymchwiliad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i Gyfraith yr UE yng Nghymru: Trefniadau pontio Brexit

CLA(5)-18-18 – Papur 9 – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, 20 Mehefin 2018

CLA(5)-18-18 – Papur 10– Llythyr gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd at y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, 20 Mehefin 2018

CLA(5)-18-18 – Papur 11 – Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid at y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, 19 Mehefin 2018

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y pwyllgor yr ohebiaeth mewn cysylltiad ag ymchwiliad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i drefniadau pontio Brexit.

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

6.

Comisiwn Cyfiawnder i Gymru: Tystiolaeth ddrafft

CLA(5)-18-18 – Papur 12 – Tystiolaeth ddrafft

 

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth y bydd yn ei chyflwyno i Gomisiwn Cyfiawnder i Gymru a chytunodd arni.

 

7.

Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru): Adroddiad drafft

CLA(5)-18-18 – Papur 13 – Adroddiad drafft

 

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno.

 

8.

Y Pwerau ym Mil yr UE (Ymadael) i wneud is-ddeddfwriaeth - materion gweithredol: Adroddiad drafft

CLA(5)-18-18 – Papur 14 – Adroddiad drafft

 

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd i ystyried fersiwn ddiwygiedig yn y cyfarfod nesaf.

 

9.

Bil yr UE (Ymadael): Y wybodaeth ddiweddaraf

CLA(5)-18-18 – Papur 15 – Bil yr UE (Ymadael): Y wybodaeth ddiweddaraf

 

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am hynt y Bil yn Senedd y DU.