Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/01/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

14.30

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

14.30

2.

Is-ddeddfwriaeth nad yw'n ddarostyngedig i weithdrefn

2.1

SL(5)300 - Gorchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring (Cymru)

CLA(5)-03-19 – Papur 1 – Gorchymyn

CLA(5)-03-19 – Papur 2 – Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Gorchymyn ynghyd â llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.

 

3.

Offerynnau negyddol arfaethedig nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3B

CLA(5)-03-19 – Papur 3 – Offerynnau negyddol arfaethedig sydd ag adroddiadau clir

 

 

Dogfennau ategol:

3.1

pNeg(5)08 – Rheoliadau Llifogydd a Dŵr (Diwygio) (Cymru a Lloegr) (Ymadael â'r UE) 2019

3.2

pNeg(5)10 – Rheoliadau Taliadau Gwasanaeth (Gofynion Ymgynghori) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau negyddol arfaethedig ac roedd yn fodlon arnynt. O ran pNeg(5)08, Rheoliadau Llifogydd a Dŵr (Diwygio) (Cymru a Lloegr) (Ymadael â'r UE) 2019, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am esboniad mwy trylwyr pam bod y rheoliadau yn cael eu gwneud ar sail Cymru a Lloegr.

 

4.

Offerynnau negyddol arfaethedig sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3B

4.1

pNeg(5)09 – Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019

CLA(5)-03-19 – Papur 4 – Adroddiad

CLA(5)-03-19 – Papur 5 – Rheoliadau

CLA(5)-03-19 – Papur 6 – Memorandwm Esboniadol

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a bydd yn adrodd i'r Cynulliad yn unol â'r argymhelliad bod Llywodraeth Cymru yn dyrchafu'r Rheoliadau i fod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol.

 

14.45

5.

Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar Bysgodfeydd y DU: Sesiwn dystiolaeth

Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Tamsin Brown, Llywodraeth Cymru

Graham Rees, Llywodraeth Cymru

 

CLA(5)-03-19 – Papur briffio

CLA(5)-03-19 – Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

CLA(5)-03-19 – Papur briffio cyfreithiol

CLA(5)-03-19 – Papur 7 – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynglŷn â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Pysgodfeydd, 14 Ionawr 2019

CLA(5)-03-19 – Papur 8 – Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar gyfer y Bil Pysgodfeydd, 8 Ionawr 2019

 

LCM-LD11847 – Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Pysgodfeydd

 

LCM-LD12027 – Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) y Bil Pysgodfeydd

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig. Hysbysodd y Gweinidog y Pwyllgor fod cyfarfod perthnasol arall yn digwydd yr wythnos hon a byddai'r wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei hanfon i'r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod hwnnw.

 

15.30

6.

Hynt yr Adolygiad i Gysylltiadau Rhynglywodraethol

CLA(5)-03-19 – Papur 9Llythyr at Gwir Anhrydeddus David Lidington CBE AS Canghellor of the Dugiaeth Caerhirfryn, 29 Hydref 2018

CLA(5)-03-19 – Papur 10Llythyr gan y Gwir Anhrydeddus David Lidington CBE AS Canghellor of the Dugiaeth Caerhirfryn, 17 Ionawr 2019

CLA(5)-03-19 – Papur 11Llythyr gan Michael Russell ASA Ysgrifennydd y Cabinet dros Fusnes y Llywodraeth a Chysylltiadau Cyfansoddiadol, Llywodraeth yr Alban

CLA(5)-03-19 – Papur 12Llythyr gan Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, 29 Tachwedd 2018

CLA(5)-03-19 – Papur Briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth mewn perthynas â hynt yr adolygiad i gysylltiadau rhynglywodraethol.

 

15.40

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

8.

Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil Pysgodfeydd y DU: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.

 

9.

Adolygu'r Offerynnau Statudol y mae angen cydsyniad arnynt: Brexit a datganiadau a wnaed o dan Reol Sefydlog 30C

CLA(5)-03-19 – Papur 13 - Adroddiad

 

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y papur adolygu a chytunodd i osod adroddiad byr gerbron y Cynulliad.