Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

Cyswllt: Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 24/06/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

14.30

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Dawn Bowden a Carwyn Jones. Dirprwyodd Mike Hedges ar ran Dawn Bowden. Cafwyd ymddiheuriadau hefyd gan Suzy Davies. Dirprwyodd Mark Isherwood ar ei rhan.

 

14.30-14.35

2.

Offerynnau nad ydynt yn codi unrhyw faterion i gyflwyno adroddiad yn eu cylch o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

CLA(5)-20-19 – Papur 1 – Offerynnau statudol sydd ag adroddiadau clir

 

Dogfennau ategol:

2.1

SL(5)418 - Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent) 2019

2.2

SL(5)419 - Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Bwrdeistref Sirol a Dinas Casnewydd) 2019

2.3

SL(5)420 - Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Bwrdeistref Sirol Torfaen) 2019

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau ac roedd yn fodlon â hwy.

 

14.35-14.40

3.

Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad yn eu cylch i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

3.1

SL(5)417 - Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) (Diwygio) 2019

CLA(5)-20-19 – Papur 2 – Adroddiad

CLA(5)-20-19 – Papur 3 – Rheoliadau

CLA(5)-20-19 – Papur 4 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-20-19 – Papur 5 - Datganiad Ysgrifenedig

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, ynghyd ag ymateb y Llywodraeth, a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

 

14.40-14.45

4.

Datganiadau ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C

4.1

WS-30C(5)133 - Rheoliadau’r Amgylchedd (Swyddogaethau Deddfwriaethol o Gyfarwyddebau) (Ymadael â'r UE) 2019

CLA(5)-19-19 – Papur 6 – Datganiad

CLA(5)-19-19 - Papur 7 - Sylwebaeth

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a'r sylwebaeth, a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurhad, yn unol â'r sylwebaeth a ddarparwyd gan gyfreithwyr y Cynulliad.

 

14.45-14.50

5.

Papur(au) i'w nodi

5.1

Llythyr gan y Gwir Anrhydeddus David Lidington AS at Bruce Crawford MSP: Craffu seneddol ar gysylltiadau rhynglywodraethol a fframweithiau cyffredin

CLA(5)-20-19 - Papur 8 - Llythyr gan y Gwir Anrhydeddus David Lidington AS, 11 Mehefin 2019

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gwir Anrhydeddus David Lidington AS.

 

5.2

Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)

CLA(5)-20-19 – Papur 9 – Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, 18 Mehefin 2019

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

5.3

Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol: Bil Deddfwriaeth (Cymru)

CLA(5)-20-19 – Papur 10 - Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol, 18 Mehefin 2019

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol.

 

5.4

Llythyr gan y Gweinidog Addysg: Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôlraddedig) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

CLA(5)-20-19 – Papur 11 – Llythyr gan y Gweinidog Addysg, 20 Mehefin 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Addysg.

 

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

7.

Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) Y wybodaeth ddiweddaraf

Cofnodion:

Rhoddodd y Clerc ddiweddariad byr ar y trefniadau cyhoeddi ar gyfer adroddiad y Pwyllgor ar y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru).