Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 24/03/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

09:15

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Dai Lloyd AC. Roedd Helen Mary Jones AC yn bresennol fel dirprwy.

 

09.15-09.20

2.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys unrhyw faterion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

CLA(5)-11-20 – Papur 1 – Offerynnau statudol sydd ag adroddiadau clir

Dogfennau ategol:

2.1

SL(5)517 - Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2020

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

 

09.20-09.25

3.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

3.1

SL(5)514 – Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020

CLA(5)-11-20 – Papur 2 – Adroddiad

CLA(5)-11-20 – Papur 3 – Rheoliadau

CLA(5)-11-20 – Papur 4 – Memorandwm Esboniadol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd, ac i drafod ymateb Llywodraeth Cymru mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

3.2

SL(5)518 – Gorchymyn Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Amrywio Atodlen 2) (Cymru) 2020

CLA(5)-11-20 – Papur 5 – Adroddiad

CLA(5)-11-20 – Papur 6 – Gorchymyn

CLA(5)-11-20 – Papur 7 – Memorandwm Esboniadol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd, ac i drafod ymateb Llywodraeth Cymru mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

09.25-09.30

4.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3 ond sydd â goblygiadau o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE

4.1

SL(5)515 – Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) 2020

CLA(5)-11-20 – Papur 8 – Adroddiad

CLA(5)-11-20 – Papur 9 – Rheoliadau

CLA(5)-11-20 – Papur 10 – Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad i nodi materion sydd â goblygiadau o ganlyniad i ymadawiad y DU â’r UE.

 

4.2

SL(5)519 – Rheoliadau Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) (Diwygio) 2020

CLA(5)-11-20 – Papur 11 – Adroddiad

CLA(5)-11-20 – Papur 12 – Rheoliadau

CLA(5)-11-20 – Papur 13 – Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad i nodi materion sydd â goblygiadau o ganlyniad i ymadawiad y DU â’r UE.

09.30-09.35

5.

Bil Coronafeirws Llywodraeth y DU

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor fod Llywodraeth y DU bellach wedi gosod ei Bil Coronafeirws, ac y byddai dadl ar gynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil yn cael ei chynnal yn y Cyfarfod Llawn y prynhawn hwnnw.

 

09.35-09.40

6.

Papurau i'w nodi

6.1

Llythyr gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 8)

CLA(5)-11-20 – Papur 14 - Llythyr gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, 16 Mawrth 2020

CLA(5)-11-20 – Papur 15 – Datganiad ysgrifenedig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.

 

6.2

Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Llywydd: Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws) (Cymru) 2020

CLA(5)-11-20 – Papur 16 – Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, 17 Mawrth 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Llywydd, gan ychwanegu y byddai’n trafod Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws) (Cymru) 2020 mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

09.40

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

09.40-09.45

8.

Trafod offerynnau statudol

CLA(5)-11-20 – Papur 17 – Trafod offerynnau statudol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Clerc y wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am yr offerynnau statudol a osodwyd gerbron y Cynulliad ond sydd heb eu trafod gan y Pwyllgor eto. Hefyd, trafododd y Pwyllgor rai opsiynau ar gyfer ei ddull o graffu ar offerynnau statudol o dan yr amgylchiadau eithriadol presennol.