Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/05/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

10:00

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Cadeirydd, yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd.

 

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.

 

10:00-10:05

2.

Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

2.1

SL(5)540 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020

CLA(5)-14-20 – Papur 1 – Adroddiad

CLA(5)-14-20 – Papur 2 – Rheoliadau

CLA(5)-14-20 – Papur 3 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-14-20 – Papur 4 – Llythyr gan y Prif Weinidog i’r Llywydd, 24 Ebrill 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd, ac i drafod ymateb Llywodraeth Cymru pan ddaw i law.

 

10:05-10:10

3.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3 ond sydd â goblygiadau o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE

3.1

SL(5)542 - Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Rhanddirymiad Tyfu Amrywiaeth o Gnydau) (Cymru) 2020

CLA(5)-14-20 – Papur 5 – Adroddiad

CLA(5)-14-20 – Papur 6 – Rheoliadau

CLA(5)-14-20 – Papur 7 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-14-20 – Papur 8 – Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, 29 Ebrill 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd i dynnu sylw at faterion sy’n codi o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE.

 

10:10-10:15

4.

Papur(au) i’w nodi

4.1

Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol ar Reoliadau Deddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (Diwygiadau Canlyniadol) 2020

CLA(5)-14-20 – Papur 9 – Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, 4 Mai 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, gan nodi y byddai'n trafod y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol yn y cyfarfod nesaf.

 

10:15

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

10:15-10:30

6.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth - adroddiad drafft

CLA(5)-14-20 – Papur 10 - Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno. Nododd yr Aelodau y byddai'r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol, sef 14 Mai 2020.

 

10:30-11:00

7.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Pysgodfeydd - adroddiad drafft

CLA(5)-14-20 – Papur 11 – Adroddiad drafft

CLA(5)-14-20 – Papur 12 – Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, 1 Mai 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunodd i drafod drafft pellach yn y cyfarfod nesaf.

 

11:00-11:20

8.

Gwneud i Gyfiawnder Weithio yng Nghymru - trafod cynllunio’r flaenraglen waith

CLA(5)-14-20 – Papur 13 – Cynllunio’r flaenraglen waith

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwiliad cyfredol a chytunodd i’w drafod ymhellach ar ôl i’r ymgynghoriad gau.