Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd aelodau’r Pwyllgor i’r cyfarfod.

1.2 Croesawodd y Cadeirydd David Rees AC a Steffan Lewis AC fel aelodau newydd o’r Pwyllgor.

(09.30)

2.

Papurau i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

(09.30-10.00)

3.

Ystyried goblygiadau ariannol Bil Cymru

Papur 1 – Llythyr oddi wrth y Llywydd at Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Papur 2 – Blaenddalen i’r briff cyfreithiol ac ymchwil ar oblygiadau ariannol Bil Cymru

Briff y Gwasanaethau Cyfreithiol ac Ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Ystyriodd yr aelodau oblygiadau ariannol y darpariaethau ym Mil Cymru Llywodraeth y DU.

3.2 Ystyriodd yr aelodau ddiwygiadau’r Llywydd i’r Bil a cytunodd yr aelodau i ysgrifennu i’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol gyda’u barn ar y Bil.

(10.00)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o'r cyfan o'r cyfarfod ar 14 Gorffennaf 2016

Cofnodion:

4.1 Cytunwyd y cynnig.

(10.00-11.30)

5.

Sesiwn briffio ar ddatganoli trethi

Georgina Haarhoff – Pennaeth Polisi Trethi a Deddfwriaeth, Llywodraeth Cymru

Ed Sherriff – Pennaeth Strategaeth Gyllidol, Llywodraeth Cymru

Richard Clarke – Rheolwr Polisi Gweithrediadau, Llywodraeth Cymru

Cofnodion:

5.1 Cafodd Aelodau eu briffio ar ddatganoli trethi yng Nghymru gan: Georgina Haarhoff – Pennaeth Polisi Trethi a Deddfwriaeth, Llywodraeth Cymru, Ed Sherriff – Pennaeth Strategaeth Gyllidol, Llywodraeth Cymru, a Richard Clarke – Rheolwr Polisi Gweithrediadau, Llywodraeth Cymru.

(11.30-11.50)

6.

Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2016-17: Ystyried adroddiad drafft

Papur 3 – Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cytunodd yr Aelodau yr adroddiad drafft gyda mân welliannau.

(11.50-12.20)

7.

Cyfrifoldebau a busnes cynnar y Pwyllgor

Papur 4 – Cyfrifoldebau a busnes cynnar y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Ystyriodd y Pwyllgor eitemau o’i fusnes cynnar, a trafododd gynigion ar gyfer ymgynghoriadau yn y dyfodol.