Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09.15)

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

(09.15)

3.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y papurau eu nodi.

(9.15-11.00)

4.

Y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 1

Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Andrew Hewitt, Rheolwr Polisi, Llywodraeth Cymru

Gareth Mc Mahon, Cyfreithiwr y Llywodraeth, Llywodraeth Cymru

 

Y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru), fel y'i cyflwynwyd (PDF, 831KB)

Memorandwm Esboniadol (PDF, 1.2MB)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol mewn perthynas â'r Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru).

 

4.2 Cytunodd yr Ysgrifennydd Cabinet i ddarparu nodyn yn esbonio pam ei fod o'r farn bod gosod cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth o fewn 12 mis i'r dyddiad ffeilio o 95 y cant o'r dreth sy'n ddyledus yn gymesur mewn perthynas â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a Rhyddid Sylfaenol.

(11.00)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

(11.00-11.10)

6.

Y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru): Ystyried y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

(11.10-11.25)

7.

Y diweddaraf am weithdrefnau'r gyllideb o ystyried trethi datganoledig

Papur 1 - Y diweddaraf am weithdrefnau'r gyllideb o ystyried trethi datganoledig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Nododd y Pwyllgor y papur.

(11.25-11.30)

8.

Llythyr gan y Pwyllgor Busnes ynglŷn â'r Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi

Papur 2 - Llythyr gan y Pwyllgor Busnes ynglŷn â'r Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi – 14 Medi 2016

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes.

(11.30-12.30)

9.

Cyflwyno Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

Steven O'Donoghue, Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau Dynol, Swyddfa Archwilio Cymru

Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol, Swyddfa Archwilio Cymru

Cofnodion:

9.1 Rhoddodd Swyddfa Archwilio Cymru gyflwyniad i'r Aelodau ar Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.